Ein heriau allweddol

Llesiant

Mae angen i ganlyniadau i ddysgwyr yn Nhorfaen wella ymhob un o ysgolion y cyngor. Wrth i’r cyngor ymateb i'w arolygiad gan Estyn, mae’n datblygu systemau hunanarfarnu cadarn i sicrhau y gall gynllunio a chanolbwyntio ei waith yn well ar feysydd gwaith allweddol, a hynny gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA). Bydd hyn yn cefnogi pob ysgol i wella ansawdd ei harweinyddiaeth a'i haddysgu i gael canlyniadau gwell i bob dysgwr.

Bydd y Cwricwlwm i Gymru newydd hefyd yn cael ei gyflwyno yn ein holl ysgolion cynradd a rhai o'n hysgolion uwchradd o fis Medi 2022. Bydd ysgolion yn symud i ffwrdd oddi wrth Gwricwlwm Cenedlaethol rhagnodedig, ac yn symud at fframwaith eang sy'n eu galluogi i ddylunio cwricwlwm eu hysgolion. Dyma un o'r newidiadau mwyaf ym myd addysg ers cenhedlaeth.

Rhaid i’r cyngor ymateb i'r nifer cynyddol o ddysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) cymhleth. Dros y pum mlynedd ddiwethaf rydym wedi parhau i weld cynnydd graddol yn niferoedd y dysgwyr ag anghenion lluosog a chymhleth. Rydym yn ehangu ysgol Crownbridge a bydd yn parhau i weithio gydag ysgolion i ddeall a chynllunio'r ffordd orau o ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADY mewn ysgolion prif ffrwd, canolfannau adnoddau arbenigol ac yn Crownbridge yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Yn rhan o'r uchelgais genedlaethol i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’r sir yn wynebu rhai heriau sylweddol wrth ddatblygu siaradwyr Cymraeg mewn ardal lle mae nifer y siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd yn isel. Mae’r cyngor yn wynebu rhai heriau gwirioneddol hefyd o ran recriwtio staff i'w leoliadau addysg.

Mae cynllun y cyngor yn amlinellu sut y bydd yn creu darpariaeth ychwanegol ar gyfer Gofal Plant y Blynyddoedd Cynnar, gan ymestyn y cyfleoedd ar gyfer addysg yn y Gymraeg, a sut y bydd yn creu cyfleoedd i ddysgwyr "ymdrochi" fel y gallant ymuno ag ysgol gyfrwng Cymraeg yn ddiweddarach ar eu siwrnai addysgol ac yn gwella ansawdd ein hysgolion Cymraeg.

Mae anghenion y cwricwlwm a dysgwyr wedi’u gweddnewid dros y 40 mlynedd ddiwethaf ac maent yn parhau i esblygu. Cynlluniwyd y rhan fwyaf o adeiladau ysgolion y cyngor ar gyfer oes a oedd yn bodoli cyn y rhyngrwyd, pan oedd dulliau addysgu yn canolbwyntio i raddau helaeth ar addysgu dosbarth cyfan. Mae gofynion y cwricwlwm modern, a'r dulliau addysgu modern, yn golygu bod yn rhaid i nifer o athrawon ddod o hyd i ffyrdd o oresgyn y diffygion sydd ynghlwm ag adeiladau ein hysgolion. Yn sgil rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y cyngor mae wedi creu nifer sylweddol o ysgolion newydd a chymryd camau i adnewyddu ysgolion i fynd i'r afael â hyn, ac mae llawer mwy i'w gyflawni o hyd.

Mae yna amrywiaeth o heriau ar draws y gwasanaethau gofal cymdeithasol sy'n ymwneud â'r galw cyffredinol am wasanaethau statudol a’r disgwyl i wasanaethau statudol ddiwallu lefel y galw yn sgil hynny. Yn sgil yr her hon mae angen parhau i ganolbwyntio ar ddatblygu a darparu gwasanaethau sy’n anelu at atal sefyllfaoedd rhag dwysau i mewn i’r gwasanaethau a thrwyddynt.

Mae ffocws parhaus ar leihau'r galw am Ofal Cymdeithasol i Blant a Theuluoedd a hynny mewn modd diogel, drwy gydnabod a datblygu cryfderau cymunedol, y teulu ac unigolion. Wrth leihau lefel y galw am y gwasanaeth, gall y cyngor symud mwy o adnoddau a’u targedu at ddatblygu ac ehangu ei gynnig lleol a sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu targedu’n fwy effeithiol ac effeithlon at y rhai sydd angen gwasanaethau statudol. 

Mae galw mawr am Ofal Cymdeithasol i Oedolion, yn enwedig yn ganlyniad i bandemig COVID-19 a'r sgil-effaith o fewn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gwaith y cyngor yn pwysleisio pwysigrwydd gwybodaeth, cyngor a chymorth a dangos y ffordd yn briodol, er mwyn sicrhau nad yw trigolion yn cael eu tynnu i mewn i system a gwasanaeth pan fyddai cymorth anstatudol amgen yn eu galluogi i gynnal eu hannibyniaeth a byw'r bywyd y maen nhw eisiau ei fyw.

Er mwyn rhoi sylw i’r heriau, mae’r cyngor yn cydnabod bod angen ymestyn y ddarpariaeth Ymyrryd yn Gynnar ac Atal a datblygu darpariaeth gymunedol sy’n golygu bod modd cynnig gwell datrysiad yn y gymuned. Bydd hyn yn galluogi’r cyngor i ddefnyddio’i adnoddau a’i wasanaethau statudol i fodloni anghenion y rheiny sydd â’r angen mwyaf am gymorth.

Cynaliadwyedd

Mae galw mawr am dai fforddiadwy, o ansawdd da, nid yn unig yn Nhorfaen ond hefyd ledled Cymru a'r DU. Mae prisiau prynu a rhentu tai a ar eu lefel uchaf erioed, ac mae hyn yn effeithio ar yr hyn sydd ar gael i'r cyhoedd, yn enwedig gan ein bod yn wynebu argyfwng costau byw ar hyn o bryd.

Mae hyn hefyd yn effeithio ar ddigartrefedd gan nad yw aelwydydd yn gallu cael mynediad at dai fforddiadwy. Mae’r cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i ymateb ar ffurf gweithgarwch atal digartrefedd, ond mae hefyd yn gweithio gyda'i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddod â thai newydd a thai sydd eisoes yn bodoli, i'r blaen, cyn gynted â phosibl.

Mae balchder a hyder ein trigolion yn eu sir yn aml yn seiliedig ar y ffordd y maen nhw'n gweld eu hamgylchedd lleol - sef ble maen nhw'n byw, ble maen nhw'n gweithio a ble maen nhw'n mynd ar gyfer hamdden a siopa.

Mae’r cyngor am i'w drefi, ei strydoedd a'i amgylchedd naturiol fod yn hardd, yn ddeniadol, yn lân ac yn gynaliadwy. Yn rhy aml o lawer mae'r balchder aruthrol mewn cymunedau lleol yn cael ei niweidio gan y lleiafrif. Er nad ydym yn wahanol iawn i'r ardaloedd cyfagos, rydym yn gweld gormod o sbwriel, mae gennym ormod o dipio anghyfreithlon ac mae’r cyngor am weithio mewn partneriaeth â'n cymunedau i ddileu'r ymddygiad hwn er lles pawb.

Mae cynnal mannau gwyrdd a naturiol yn ogystal â’n ffyrdd a'n palmentydd, a buddsoddi ynddynt, er mwyn hyrwyddo teithio llesol, sicrhau bod ein cymunedau yn eu defnyddio, hwyluso cysylltedd rhwng trigolion a chymunedau, a helpu pobl i gael hyd i gyfleoedd hamdden a swyddi, yn hanfodol er mwyn cyflawni nodau'r cynllun hwn.

Drwy weithio gyda chymunedau a hefyd gyda rhaglenni cenedlaethol, rhaid i’r cyngor fod yn arweinydd cymunedol a rhaid iddo hwyluso newid system-gyfan at garbon sero net er mwyn sicrhau y diogelir yr amgylchedd a llesiant cenedlaethau sydd i ddod.

Mae cynyddu cyfraddau ailgylchu a chompostio yn un ffordd y gall bob un o’n trigolion fyw bywyd sy’n fwy cynaliadwy. Mae gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru ailgylchu a chompostio 70% erbyn 2024/25, ac mae hon yn elfen allweddol o strategaeth ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’ Llywodraeth Cymru. Mae hon yn her sylweddol i Gyngor Torfaen ac mae’n un a fydd yn gofyn am gydweithio agos gyda chymunedau er mwyn sicrhau y cyrhaeddir y garreg filltir hon.

Mae llwyddiant a ffyniant yr economi leol yn elfen sylfaenol wrth gyflawni llawer o'r hyn sydd yn y Cynllun Sirol. Mae yna gysylltiad sydd wedi ei brofi rhwng canlyniadau economaidd gwell ac iechyd unigolion, llesiant cymunedol, a hyder ymysg pobl ifanc i anelu a llwyddo, beth bynnag yw eu huchelgais. Ni all economi Torfaen weithredu ar ei phen ei hun. Mae'n rhan o jig-so rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol llawer yn fwy, ond gall y rhaglenni a ddarperir gan y cyngor, a'r perthnasoedd y mae’n eu ffurfio, hwyluso ac annog twf.

Mae gan Dorfaen economi amrywiol a chanddi gryfderau y gallwn dynnu arnynt yn ogystal â heriau y dymunwn eu goresgyn. Dymuna’r cyngor wneud y mwyaf o gryfder y gweithlu medrus iawn sy’n gweithio’n bennaf ym maes gweithgynhyrchu blaengar er mwyn arallgyfeirio’r sectorau y gall gweithgynhyrchu blaengar dyfu i mewn iddynt gyda ffocws penodol ar y sector gwyddorau bywyd.

Mae’r cyngor yn dymuno adeiladu ar raglenni cenedlaethol a rhanbarthol sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo arloesi, gan feithrin entrepreneuriaeth yn lleol a hyder i fynd i mewn i farchnadoedd newydd a chymryd cyfleoedd er mwyn adeiladu economi ddeinamig, actif sy'n cael ei harwain gan ymchwil.

Trwy greu Cynlluniau Bro ar gyfer canol ein trefi, mae'r cyngor eisiau newid eu pwrpas. Er mwyn atal y dirywiad a meithrin uchelgais a gobaith, mae'r cyngor am ennyn hyder yng nghanol ei drefi, gyda buddsoddiad arloesol, uchelgeisiau beiddgar i adfywio a chreu mannau cyhoeddus sy’n denu trigolion, busnesau ac ymwelwyr, i helpu i gadw'r bunt i gylchredeg yn yr economi leol.

Cysylltedd

Bwriad y Cynllun Sirol yw ceisio ffrwyno’r rôl y mae cymunedau eisoes yn ei chwarae wrth gyfleu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, a helpu ffocysu adnoddau ymyrraeth gynnar ac atal yn fwy effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn mae gofyn ailgynllunio gwasanaethau o amgylch y cwsmer a sut maen nhw'n byw eu bywydau ac yn defnyddio gwasanaethau’r cyngor.

Un o' brif gyfrifoldebau’r cyngor yw rhoi'r sgiliau a'r adnoddau i'n cymunedau er mwyn iddynt allu dod yn fwy gwydn i'r heriau y maent yn eu hwynebu mewn byd sy'n newid yn gyflym. Mae’r cyngor am gefnogi a grymuso ei gymunedau fel y gall ddylunio ymatebion i'r bygythiadau hyn ar y cyd, mewn ffordd sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf ac yn adlewyrchu pa mor unigryw yw pob ardal. Yn fyr, mae’r cyngor am ddatblygu ‘Dull Cymunedau’ wrth fynd ati i ymdrin â gwasanaeth cyhoeddus.

Mae cymunedau wrth wraidd pob un o'i 9 amcan llesiant. Mae cyd-ddylunio a chydddarparu gwasanaethau gyda chymunedau yn hanfodol os ydym am godi dyheadau ymhlith ein pobl ifanc, lleihau anghydraddoldeb, cefnogi ffyrdd iach o fyw, ac ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. I wneud hyn mae angen i ni fod yn glir o ran sut y gall ein trigolion gael gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chefnogaeth, pryd y gallant eu cael a chan bwy. Mae’r cyngor am greu 'drws ffrynt a rennir' gyda chymunedau a phartneriaid lleol, sy’n cyfeirio pobl at y lefel gywir o gymorth ar yr adeg gywir o'r ffynhonnell gywir er mwyn sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu’n gyson ac o’r ansawdd uchaf.

Wrth gwrs, mae yna heriau ynghlwm â datblygu Dull Cymunedau i ymdrin â gwasanaethau cyhoeddus. Mae pob ardal yn wahanol ac mae gan bob ardal ei chyfres ei hun o anghenion gwasanaeth a chynnig unigryw o ran yr hyn y gall ei chymuned ei hun ei gynnig. Ar hyn o bryd nid oes digon o drigolion yn teimlo y gallant siapio neu ddylanwadu ar y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yn eu hardal leol, ac mae angen i ni wella cydlyniad gwirfoddolwyr ar draws y fwrdeistref.

Diwylliant a Threftadaeth

Cyflwynir heriau ehangach y cyngor o dan themâu llesiant, cysylltedd a chynaliadwyedd ac maent wedi eu gosod yng nghyd-destun ei heriau ariannol. Mae thema diwylliant a threftadaeth yn cyfrannu at drechu’r heriau ymhob un o’r meysydd hyn ac ar bob talcen.

Mae mynediad at dreftadaeth a diwylliant yn ehangu gorwelion, yn cyfoethogi bywydau ac yn creu ymdeimlad o falchder a pherthyn. Trwy fanteisio ar gryfderau unigolion, cymunedau a’r cyd-asedau yn Nhorfaen, gall y sir fod yn fwy diogel, yn iachach ac yn fwy annibynnol a chanddi economi hyfyw.

Mae diwylliant a threftadaeth Torfaen yn adlewyrchiad o brofiad, ymdrech a chyrhaeddiad y sir dros ganrifoedd. Mae ar y sir angen dathlu ei hanes a’i lle yn y byd yn ogystal â chydnabod gyda’n gilydd pwy ydym, dros beth yr ydym yn sefyll ac i ble yr ydym yn perthyn.

Mae bywydau cyndeidiau’r sir, ei chymunedau hanesyddol a’r cymunedau sy’n ffurfio o’r newydd, a’r asedau yn y sir, yn gefndir i holl obeithion a dyheadau’r dyfodol. Trwy barchu gorffennol y sir, gallwn ddeall ei phresennol a goleuo dyfodol pob un ohonom. Trwy gydweithio, gall y sir ddathlu ei hamrywiaeth a chreu hunaniaeth gydlynol y gall bob un fod yn falch ohoni.

Ariannol

Mae’r sector cyhoeddus ac awdurdodau lleol ledled Cymru yn wynebu sefyllfa ariannol hynod o heriol a dyma’r cyd-destun ar gyfer y Cynllun Sirol, wrth i’r cyngor ganolbwyntio ar y gwasanaethau sydd bwysicaf a’r adnoddau y mae arno’u hangen i gyflawni’r gwasanaethau hynny.

Yng Nghynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022 manylwyd ar her ariannol o £16.2miliwn, dros gyfnod o bedair blynedd. Nawr, mae’r rhagolygon ariannol ar gyfer 2023/24 yn unig yn awgrymu her ariannol o £12.5miliwn. Mae maint yr her, a pha mor gyflym y mae wedi codi, yn ddigynsail, a’r hyn sy’n ei gyrru’n bennaf yw chwyddiant uchel, yn arbennig, cost ynni a chwyddiant sylweddol mewn cyflogau. Yn ogystal, mae yna argyfwng costau byw ac mae’r galw am lawer o’n gwasanaethau costus yn parhau i gynyddu, ac yn cynnwys y straen sydd wedi codi wrth i’r cyngor a chymunedau barhau i adfer ar ôl y pandemig.

Er bod y sefyllfa ariannol yn heriol iawn, nid dyma’r amser i leihau uchelgais na dyfalbarhad y cyngor i oresgyn yr heriau hyn. Fel pob cyngor cyfrifol, bydd gofyn lleihau costau mewn ffordd gynaliadwy sy’n amddiffyn gwasanaethau llinell-flaen cyhyd ag sy’n bosibl. I’r perwyl hwnnw, bydd y cyngor yn mynd ati i gyflwyno toriadau mewn ffordd thematig, sy’n trawstorri, yn hytrach na thorri canrannau oddi ar ein holl gyllidebau. Serch hynny, byddwn yn dal i wynebu dewisiadau a phenderfyniadau anodd.

Diwygiwyd Diwethaf: 15/02/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen
Ffôn: 01495 762200

Ebost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig