Cyflwyniad - Prif Swyddog Gweithredol

Cyflwyna ein Cynllun Sirol ein huchelgais a’n dyhead dros Dorfaen, a sut y byddwn yn gwneud pethau’n wahanol wrth ymateb i’r anghenion, yr heriau a’r cyfleodd, ar gyfer ein trigolion a’n cymunedau.

Nid glasbrint ar gyfer ein gwaith yw’r Cynllun Sirol. Yn hytrach, mae’n fframwaith, ac o fewn y fframwaith hwn gallwn annog newid, cyfeirio newid ac ymateb i newid. Adolygir y cynllun yn rheolaidd ac wrth i gynlluniau a phrosiectau ddatblygu byddant yn dod yn rhan o gynllun cyflawni blynyddol sy’n rhoi ein huchelgais ar waith.

Mae’r dull gweithredu hwn yn bwysig er mwyn sicrhau bod y cynllun yn un parhaus ac ystwyth ac er mwyn sicrhau bod modd ymateb i fentrau, heriau a chyfleoedd newydd trwy gydol oes y cynllun. Er enghraifft, sefydlu egwyddorion Marmot sy’n rhoi sylw i lesiant ac annhegwch ac yn cyd-fynd â’n 9 amcan llesiant.

Wrth galon ein cynllun mae yna bedair thema ganolog a fydd yn arwain y ffordd y byddwn yn llunio polisïau ac yn cynllunio gwasanaethau dros y blynyddoedd nesaf. Dyma yw’r themâu hynny: Cysylltedd Llesiant, Cynaliadwyedd a Diwylliant a Threftadaeth. Bydd y themâu hyn yn ein helpu i sicrhau bod ein penderfyniadau a’n gwaith cynllunio yn canolbwyntio ar y darlun mawr a’r weledigaeth ar gyfer y Sir.

Mae cysylltiadau gwell yn golygu mwy na’r seilwaith ffisegol neu ddigidol. Mae’n golygu cysylltu pobl a’u cymuned, a galluogi pobl i deimlo eu bod yn perthyn er mwyn iddynt allu mwynhau’r dewis o weithgareddau, gwasanaethau a chymorth sydd ar gael, pan fydd arnynt eu hangen.

Ein dymuniad yw bod pob plentyn ac unigolyn ifanc yn cael dechrau gwych mewn bywyd a’u bod yn iach, yn ddiogel ac yn llawn ysbrydoliaeth i fod y gorau y gallant fod. Rydym yn cydnabod y gall bywyd fod yn arbennig o anodd i rai plant a phobl ifanc, ac rydym yn benderfynol o roi sylw i’r anghydraddoldebau sy’n gosod y plant a’r bobl ifanc hyn dan anfantais. Dymunwn i’n bobl ifanc fod yn falch o gael eu magu yn Nhorfaen ac i deimlo y gallant adeiladu eu bywydau yma, ac er mwyn gwneud hyn mae arnom angen darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu rhagorol, cyfleoedd gwych am swyddi a chartrefi y gall pobl ifanc fforddio eu prynu neu rentu.

Dymunwn greu economi ffyniannus a datgloi potensial y sir fel lle unigryw ac arbennig i ymweld ag ef, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. Gall Torfaen gynnig cyfuniad unigryw o dreftadaeth, tirweddau garw, mannau cyhoeddus o ansawdd uchel, atyniadau hamdden modern, profiad siopa amrywiol a datblygiadau newydd ym maes diwylliant a’r celfyddydau.

Dymunwn ddatblygu’r amgylchedd a’r seilwaith sy’n gymorth i’r sir ymateb i heriau newid hinsawdd ac iechyd cyhoeddus. Sir wyrddach sy’n gynaliadwy, a chanddi ddewisiadau gwell ar gyfer cerdded a beicio a chysylltiadau trafnidiaeth da, er mwyn annog ffyrdd o fynd o le i le sy’n llesol i iechyd pobl ac yn well i’r amgylchedd.

Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gyda chynghorau tref a chymuned, partneriaid cymunedol, mentrau preifat a’n partneriaid yn y sector cyhoeddus. Rydym yn cydnabod mai’r unig ffordd o wireddu ein huchelgais yw trwy gydweithio’n effeithiol.

Rhaid i’r cyngor hefyd gynnal ei gadernid ariannol er mwyn ein galluogi i barhau i wasanaethu pobl Torfaen. Rhaid i ni fuddsoddi’n ddoeth yn y sir a pharhau i ddarparu’r gwasanaethau y mae ar ein trigolion eu hangen. 

Bydd hyn yn parhau i fod yn flaenllaw yn ein ffordd o feddwl. Cyflwynir ein huchelgeisiau yn y cynllun hwn, ac er mwyn eu gwireddu rhaid i ni adeiladu ar gryfderau ein pobl, ein llefydd a’n gorffennol a chofleidio’r dyfodol ar yr un pryd, er mwyn creu sir sydd wedi’i chysylltu’n well ymhob ffordd.

Mewn cenedl lle mae yna gystadleuaeth rhwng y rhanbarthau, mae ar Dorfaen angen sefyll allan a bod yn barod i ddenu buddsoddiad o’r tu allan sydd o fudd i’n holl drigolion ac yn sicrhau bod Torfaen yn parhau i fod yn lle gwych i fyw, i ymweld, i weithio, i ddysgu ac i drafod busnes.

Stephen Vickers
Prif Swyddog Gweithredol

Diwygiwyd Diwethaf: 15/02/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen
Ffôn: 01495 762200

Ebost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig