Rhaglen | Eleni byddwn yn… | Eleni, rydym ni wedi... | Nodau llesiant |
Cymorth gyda’r Dreth Gyngor a Budd-daliadau
|
- Gweinyddu £23miliwn i helpu gyda rhent - CWBLHAWYD
- Gweinyddu £10miliwn i helpu gyda’r dreth gyngor - CWBLHAWYD
- Helpu pobl i osgoi ôl-ddyledion rhent neu i osgoi colli eu cartrefi trwy £324,938 o daliadau tai disgresiynol - CWBLHAWYD
|
- Helpu pobl i osgoi tlodi drwy werth £23,981,833 o fudd-daliadau rhent
- Darparu £10,218,389 mewn cymorth treth y cyngor
- Helpu pobl i osgoi ôl-ddyledion rhent neu golli eu cartref, drwy 449,224 o daliadau disgresiwn at gostau tai
|
Cydlynus
Cyfartal
Iachach
|
Cynllun Cymorth Disgresiynol Costau Byw
|
- Parhau i dalu taliadau tanwydd gaeaf a dyrannu £855,734 ar gyfer taliadau disgresiynol costau byw - CWBLHAWYD
- Hyrwyddo cynllun gostyngiad y dreth gyngor ymhlith aelwydydd cymwys - CWBLHAWYD
- Talu taliadau o £500 i ofalwyr di-dâl cymwys
- Talu taliadau costau byw o £150 i breswylwyr eiddo ym mandiau treth gyngor A, B, C a D ac i bobl sy’n cael cynllun gostyngiad y dreth gyngor - CWBLHAWYD
- Helpu trigolion i gael mynediad at Gronfeydd Cymorth Disgresiynol - GLYNU AT Y TARGED
- Cefnogi cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru i roi cyngor am ynni ac arbedion ar gyfer y cartref - CWBLHAWYD
- Rhoi bron i £400k mewn taliadau ychwanegol o £150 i gefnogi teuluoedd sy’n cael prydau ysgol am ddim - CWBLHAWYD
- Rhoi tua £160K o gymorth gyda chostau ynni trwy dalebau ynni, gyda’n partneriaid - GLYNU AT Y TARGED
- Gweithio gyda Chyngor ar Bopeth i roi cyngor a chymorth yn ymwneud â chynhwysiant ariannol ac i sicrhau bod trigolion yn uchafu eu hincwm - GLYNU AT Y TARGED
- Datblygu tudalen costau byw arbennig ar wefan y cyngor Cymorth Costau Byw | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen - CWBLHAWYD
- Anfon e-gylchlythyr misol Craff a Chynnil sy’n cynnwys y diweddaraf am fudd-daliadau, grantiau a chymorth sydd ar gael i helpu arbed arian - CWBLHAWYD
|
- Talu gwerth £1m o daliadau tanwydd y gaeaf
- Dosbarthu taflenni. Cynnig cyngor ar Gostau Byw i 43,049 o aelwydydd a datblygu adran cyngor ar Gostau Byw penodol ar wefan Cyngor Torfaen
- Prosesu 2,302 o hawliadau am daliadau gofalwyr di-dâl gwerth £500
- Talu gwerth £5.5m o daliadau Costau Byw mewn symiau o £150
- Helpu 118 o aelwydydd i gael hyd i Gyllid Cymorth Dewisol
- Dosbarthu 971 o lythyrau i aelwydydd ynglŷn â chymorth Cartrefi Cynnes NYTH
- Rhoddwyd gwerth dros £77,000 o dalebau ynni
- 195 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn rhaglen Dyfodol Cadarnhaol yn Nhrefddyn, Garndiffaith, Pont-y-pŵl a Chwmbrân
|
Cydlynus
Cyfartal
Iachach
Cydnerth
|
Cynllun Datblygu Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
|
- Parhau i weithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol er mwyn adnabod pobl ifanc a theuluoedd a gweithio gyda nhw i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth ac yn ymgysylltu, er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ac allgau - GLYNU AT Y TARGED
- Adolygu effaith y gwasanaeth cwnsela craidd a’r adnoddau ychwanegol er mwyn penderfynu a oes angen cynnal y cymorth ar y lefel uwch hon ar gyfer plant a phobl ifanc ai peidio - OEDI
|
- Trosglwyddo’r broses adolygu i'r gwasanaeth seicoleg addysgol a bydd adolygiad i fesur effaith ac effeithiolrwydd y ddarpariaeth yn digwydd yn ystod tymor yr haf
|
Cydlynus
Llewyrchus
Iachach
Cyfartal
|
Cynllun Datblygu Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
|
- Datblygu rhaglen rhwydwaith gymdeithasol i bobl ifanc 16+ y mae ynysu ac unigrwydd yn effeithio arnynt yn ganlyniad i anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol - GLYNU AT Y TARGED
- Gweithio mewn partneriaeth â grwpiau lleol i gynyddu mannau i rieni ifanc sydd eisiau cymorth - GLYNU AT Y TARGED
- Sicrhau bod gofalwyr ifainc yn parhau i gael eu hadnabod a’u hasesu a bod cyfathrebu gydag asiantaethau allweddol yn effeithiol, er mwyn sicrhau bod modd darparu gwasanaethau - GLYNU AT Y TARGED
- Parhau i weithio mewn partneriaeth gydag adran Arlwyo Torfaen i gyflwyno'r prosiect Bwyd a Hwyl i ysgolion drwy gydol gwyliau'r haf - GLYNU AT Y TARGED
|
- Targedu’r ddarpariaeth at bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau
- Cefnogi 15 o rieni ifanc a'u plant
- Creu cerdyn ID i Ofalwyr Ifanc i gynnydd gwelededd a darparu mynediad am ddim i gyfleusterau ac atyniadau hamdden lleol
- Cynlluniau ar gyfer 13 gwersyll Bwyd a Hwyl mewn 12 ysgol gynradd ac Ysgol Uwchradd Cwmbrân
|
Cydlynus
Iachach
Cyfartal
Llewyrchus
|
Strategaeth Gofal Cartref
Tŷ Glas y Dorlan
|
- Cynyddu gwasanaethau gofal sy’n seiliedig ar ardaloedd penodol, o amgylch cymunedau, er mwyn gwella canlyniadau i drigolion a gwella capasiti’r farchnad ofal - OEDI
- Cynyddu’r ddarpariaeth gan wasanaethau galluogi er mwyn i drigolion gael mwy o fudd o ofal a chymorth a magu mwy o annibyniaeth gartref - OEDI
- Ymgysylltu â darparwyr gofal cartref er mwyn cynllunio gwasanaethau gofal yn Nhorfaen a’u darparu - OEDI
- Cytuno ar ffioedd gyda darparwyr Gofal Cartref er mwyn cynnal sefydlogrwydd a dewis yn y farchnad - OEDI
- Gweithio gyda’r bwrdd iechyd lleol er mwyn gwella’r broses o drosglwyddo gofal, gan leihau amserau aros ar gyfer pecynnau gofal ac atal derbyniadau i’r ysbyty y gellid fod wedi eu hosgoi trwy ddarparu gwasanaethau yn y gymuned, gan atal yr angen am ofal nyrsio neu ofal preswyl sy’n fwy o ofal - OEDI
- Defnyddio mwy o dechnoleg gynorthwyol i gyd-fynd â gwasanaethau gofal uniongyrchol neu i gymryd eu lle, er mwyn cefnogi pobl i fod yn fwy annibynnol a chynnal y lefelau annibyniaeth hynny - GLYNU AT Y TARGED
- Gweithio ar draws y cyngor er mwyn datblygu cydnerthedd cymunedol, a lleihau’r angen am wasanaethau statudol a’r baich arnynt - OEDI
- Adolygu’r ddarpariaeth gofal cartref er mwyn pennu’r buddion ac ystyried rhinweddau trefniadau presennol neu drefniadau gwahanol (h.y. gwasanaethau a gomisiynir yn erbyn y model mewnol) - OEDI
- Cynnal lefel y gofal cartref sy’n cael ei darparu’n fewnol, o leiaf, gan atal yr angen am fwy o ofal nyrsio a phreswyl - GLYNU AT Y TARGED
- Defnyddio arosiadau byr yn Nhŷ Glas y Dorlan i helpu trigolion i fagu hyder a chynnal gweithgareddau byw bob-dydd er mwyn iddynt allu dychwelyd adref ac osgoi gorfod cael gofal - OEDI
- Adolygu effeithiolrwydd a swyddogaethau Tŷ Glas y Dorlan - CWBLHAWYD
|
|
Iachach
Llewyrchus
Cyfartal
Cydlynus
|
Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Dydd
|
- Adolygu a datblygu’r llwybr atgyfeirio i mewn i wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion er mwyn datblygu’r cynnig cymunedol ac atal unigolion rhag derbyn gwasanaethau statudol yn ddiangen - GLYNU AT Y TARGED
- Gwella’r cynnig cymunedol er mwyn sicrhau bod modd diwallu anghenion dinasyddion heb yr angen am wasanaethau statudol - GLYNU AT Y TARGED
- Adolygu’r ffordd o fynd i mewn i wasanaethau gofal cymdeithasol statudol i oedolion a diwygio’r model presennol yn ôl yr angen ac fel y pennir gan yr adolygiad, er mwyn rheoli’r galw a sicrhau bod y rheiny â’r lefel anghenion angenrheidiol yn cael y gwasanaethau statudol hyn - OEDI
|
|
Cydlynus
Iachach
Cyfartal
|
Grant Cymorth Tai
|
- Datblygu’r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym er mwyn cefnogi ei weithrediad - OEDI
- Datblygu’r gwasanaethau canlynol yn rhan o Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai a’r Cynllun Cyflawni: - GLYNU AT Y TARGED
- Cynyddu unedau tai â chymorth ac ail-alinio darpariaeth llety â chymorth
- Datblygu llety brys a hwb asesu
- Gweithredu Polisi Homeseeker
- Datblygu Polisi a phrosesau Symud Ymlaen, a’u mabwysiadu
- Adolygu Cynllun Cyflawni’r Rhaglen Cymorth Tai
|
|
Cydlynus
Iachach
Cyfartal
|
Grant Tai Cymdeithasol
|
- Gweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill er mwyn adnabod tir mewn perchnogaeth gyhoeddus a phreifat sy’n addas ar gyfer tai cymdeithasol a thai fforddiadwy - OEDI
- Gweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill i ganfod tir cyhoeddus ar gyfer tai fforddiadwy - OEDI
- Parhau i ymgysylltu â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig - GLYNU AT Y TARGED
|
|
Iachach
Cyfartal
Cydlynus
Llewyrchus
|
Prydau Ysgol Am Ddim i Bawb
|
- Buddsoddi £715,000 ychwanegol yng ngheginau ysgolion a chyflogi 24 aelod o staff cegin ychwanegol er mwyn darparu Prydau Ysgol Am Ddim i holl ddisgyblion Torfaen yn y dosbarth derbyn, blwyddyn 1 a blwyddyn 2 o fis Medi 2022 - CWBLHAWYD
- Darparu 231,000 o brydau ysgol am ddim ychwanegol o fis Medi 2022 gyda rhagamcan y darperir dros 600,000 o brydau ysgol am ddim ar draws y fwrdeistref yn ystod y flwyddyn gyfan - GLYNU AT Y TARGED
- Gweini cyfanswm o 818,802 pryd maethlon o fwyd ar gyfer disgyblion cynradd - OEDI
|
|
Iachach
Cyfartal
|
Cynllun Cyflawni Economi a Sgiliau
Cynllun Cyflawni’r Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc Strategaeth
Cwsmeriaid Digidol yn Gyntaf Cynllun
Cyflawni’r Dull Cymunedau
|
- Creu ‘map cyfalaf cymdeithasol’ erbyn mis Mawrth 2023 fel cymorth i flaenoriaethu’r ymyrraeth gynnar a gyflwynir i bob cymuned, er mwyn targedu cymorth i feithrin gallu - CWBLHAWYD
- Gweithio gyda Chynghorau Cymuned i ddatblygu dull gweithredu i wella llesiant cymunedol ac adnabod yn gynnar - GLYNU AT Y TARGED
|
|
Llewyrchus
Iachach
Cyfartal
Cydlynus
|
Grant y Gwasanaethau Tai
|
- Anelu at atal unigolion a theuluoedd rhag dod yn ddigartref mewn 50% o’r achosion - GLYNU AT Y TARGED
- Lleihau’r amser y mae unigolion a theuluoedd yn aros mewn llety dros dro - OEDI
|
- Lleihau nifer yr aelwydydd mewn llety dros dro am fwy na chwe mis o 27.5% i 17.3%
|
Iachach
Cyfartal
|
Atal digartrefedd (fel uchod) i weithio gydag unigolion a theuluoedd sydd mewn perygl o golli eu cartrefi oherwydd trafferthion ariannol
|
- Bydd y tîm yn cefnogi hyd at 100 o drigolion sydd mewn trafferthion ariannol i uchafu eu hincwm - GLYNU AT Y TARGED
|
|
Iachach
Cyfartal
|
Deddf Trosedd ac Anrhefn trwy Ymyrraeth Amlasiantaeth i Ddisgyblion (MAPI) mewn ysgolion
|
- Defnyddio ein proses Camymddwyn Deirgwaith ar gyfer Ymddygiad Gwrthgymdeithasol i gefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd gan dargedu canlyniadau cadarnhaol yn 90% o’r ymyriadau ac atal pobl ifanc rhag symud ymlaen at waharddeb neu gael eu derbyn i’r system gyfiawnder troseddol - CWBLHAWYD
|
|
Cydlynus
Iachach
|
Annog a hyrwyddo plant, pobl ifanc a theuluoedd er mwyn iddynt allu ffynnu
Cynllun Datblygu Plant a Phobl Ifanc
|
- Cyflwyno gweithdai i dros 50 o bobl ifanc am hyfforddi i fod yn gynrychiolydd ieuenctid effeithio - GLYNU AT Y TARGED
|
- Fforwm Pobl Ifanc Torfaen i gwrdd 12 gwaith y flwyddyn i hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc a hybu llais yr ifanc ar faterion fel Addysg, dod yn Llysgenhadon Iechyd a hyfforddi i fod yn llysgenhadon hinsawdd
- Cyd-gyflwyno digwyddiad holi cwestiynau ar gyfer Pobl Ifanc Gwent i dro 50o bobl, mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i daclo eu canfyddiadau o drosedd
- Mae 60 o bobl ifanc wedi derbyn hyfforddiant i fod yn gynrychiolydd ieuenctid effeithiol
|
Cydlynus
Cyfartal
|