Ymwadiad
Cyffredinol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf a chywir yn cael ei chyhoeddi ar y wefan hon (www.torfaen.gov.uk ) ond ni all derbyn unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol am unrhyw wallau neu hepgoriadau. Ceidw Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yr hawl i wneud newidiadau heb rybudd.
Os digwydd i chi ddod ar draws unrhyw wybodaeth ar ein tudalennau sydd, yn eich barn chi yn anghywir neu’n amhriodol, a fyddech cystal â rhoi gwybod i ni drwy e-bost neu drwy gwblhau’r ffurflen adborth ar-lein.
Materion sy’n ymwneud â firysau
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gwneud pob ymdrech i wirio gwybodaeth sydd ar gael i’w lawr lwytho ar y wefan hon i sicrhau nad oes firws ynddi. Ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddigwydd o ganlyniad defnyddio deunydd a lawr lwythwyd. Rydym yn argymell bod defnyddwyr yn gwirio’r holl ddeunydd a lawr lwythir gan ddefnyddio’u meddalwedd gwrth-firysau eu hunain.
Safleoedd Trydydd Parti
Fel cyfleustra i chi, gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ddarparu dolenni i wefannau eraill, ar y safle yma. Os ydych yn defnyddio’r fath safleoedd, byddwch yn gadael y safle yma. Os byddwch yn penderfynu ymweld ag unrhyw rhai o’r safleoedd cysylltiedig, eich cyfrifoldeb chi fydd dilyn yr holl fesurau i ddiogelu yn erbyn firysau neu unrhyw elfennau distrywiol eraill. Nid yw cysylltiadau’n golygu bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn cefnogi, yn aelod na ganddo’r awdurdod cyfreithiol i ddefnyddio unrhyw farc masnach, enw masnachol, logo neu symbol hawlfraint a arddangosir neu y gellir mynd atynt drwy'r cysylltiadau, na bod gan unrhyw wefan gysylltiedig hawl i ddefnyddio unrhyw farc masnach, enw masnachol, logo neu symbol hawlfraint sy’n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Diwygiadau
Fe all Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ddiwygio’r Telerau hyn ar unrhyw adeg drwy ddiweddaru’r neges hon. Argymhellir eich bod yn ymweld â’r dudalen hon o bryd i’w gilydd i ddarllen y Telerau ar y pryd am eu bod yn gyfrwymol arnoch. Gall rhai o'r darpariaethau yn y Telerau yma gael eu disodli gan hysbysiadau cyfreithiol dynodedig neu delerau a gyhoeddir ar dudalennau penodol o wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Diwygiwyd Diwethaf: 16/05/2024
Nôl i’r Brig