Hygyrchedd

Mae hygyrchedd gwefan yn ymwneud â sicrhau bod gwefannau yn hawdd i bawb eu defnyddio a hynny waeth beth yw eu gallu, iaith, pa addysg maent wedi ei dderbyn neu ba dechnoleg sydd ganddynt.

Mae'r safle hwn wedi cael ei gynllunio i fod yn hygyrch i ystod eang o ddefnyddwyr. Isod mae rhai o'r nodweddion a ddefnyddir ar draws y safle hwn.

Maint Testun

Efallai y bydd rhai defnyddwyr yn ei chael yn haws darllen testun ar y sgrin drwy gynyddu'r maint y mae'n ymddangos. Gallwch bwyso Ctrl ar eich bysellfwrdd a defnyddio naill ai'r llygoden i sgrolio, neu'r bysellau - neu + allweddi i chwyddo.

Ar Mac, bydd angen i chi ddal Cmd ar eich bysellfwrdd a defnyddio naill ai'r llygoden i sgrolio neu'r bysellau - neu + i chwyddo.

​Gwrando ar y wefan hon

Gall ymwelwyr wrando ar y wefan hon gan ddefnyddio offeryn rhad ac am ddim o'r enw BrowseAloud.

Gall darllen llawer iawn o destun ar y sgrin fod yn anodd iawn i'r rheini sydd â namau'n ymwneud â llythrennedd a nam ar eu golwg. Mae BrowseAloud, yn caniatáu i dudalennau gwe gael eu darllen yn uchel felly'n ei gwneud yn haws i'r rhai sy'n ei chael yn anodd darllen tudalennau ar-lein.

Dewiswch y ddolen Gwrando ar frig y dudalen i gael gwybod mwy.

​Bysellau Mynediad

Os ydych yn cael anhawster defnyddio llygoden neu ddyfais debyg, rydym wedi gweithredu system bysellau mynediad safonol i'ch helpu i symud o gwmpas y safle.

Isod mae'r bysellau mynediad yn cael eu defnyddio ar y safle hwn:

  • S - Sgipio Llywio / Mynd i’r prif gynnwys
  • 1 - Hafan
  • 2 - Newyddion
  • 3 - Map o’r Safle
  • 4 - Chwilio
  • 5 - A-Y o Wasanaethau
  • 6 - Digwyddiadau i ddod
  • 7 - Cwynion 
  • 8 - Polisi Preifatrwydd
  • 9 - Cysylltu â Ni
  • 0 - Manylion Bysellau Mynediad

Mae gwahanol we borwyr yn defnyddio allweddi mynediad mewn gwahanol ffyrdd felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa borwr gwe sydd gennych a pha fysellau sydd angen i chi eu pwyso.

​Bysellau Mynediad y Porwr

Mae’r tabl isod yn rhestru rhai o’r porwyr mwyaf cyffredin a’u bysellau ‘short-cut’.

Browser Access Keys
Web BrowserModifier
Chrome Alt ar Windows a Linux
Ctrl + Opt ar Mac
Firefox Alt + ⇧ Shift ar Windows a Linux
Ctrl ar Mac (hyd at f14.0) 
Ctrl + Opt ar Mac (f14.0.1 ac uwch)
Internet Explorer Alt
Opera Rhaid pwyso ⇧ Shift + Esc cyn y fysell mynediad
Safari 3 Ctrl ar gyfer Mac
Alt ar gyfer Windows

Safari 4 ac uwch

Ctrl + Opt ar Mac
Alt ar Windows

Os ydych yn cael anhawster cael mynediad i unrhyw gynnwys ar ein safle a fyddech cystal â rhoi gwybod i ni drwy bwyso’r botwm Adrodd (Rhoi gwybod am broblem gyda'r dudalen hon ) nesaf at deitl y dudalen.

Diwygiwyd Diwethaf: 31/10/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

 

Nôl i’r Brig