Cynllun Cyflawni 2023/2024

  • Amcan Llesiant 1 - Byddwn yn codi cyrhaeddiad addysgol, gan helpu pobl ifanc ac oedolion i gael y cymwysterau a’r sgiliau y mae eu hangen i fyw bywydau cadarnhaol
  • Amcan Llesiant 2 - Byddwn yn annog ac yn hybu plant, pobl ifanc a theuluoedd fel y gallan nhw ffynnu
  • Amcan Llesiant 3 - Byddwn yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb trwy ganolbwyntio ar weithgareddau adnabod ac atal sy’n cefnogi pobl i fyw bywydau annibynnol a boddhausb
  • Amcan Llesiant 4 - Byddwn yn gwneud Torfaen yn fwy cynaliadwy trwy gysylltu pobl a chymunedau, yn gymdeithasol, yn ddigidol ac yn ffisegol
  • Amcan Llesiant 5 - Byddwn yn ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, yn ailgylchu mwy ac yn gwneud gwelliannau i’r amgylchedd lleol
  • Amcan Llesiant 6 - Byddwn yn gwneud Torfaen yn lle gwych i fod mewn busnes trwy weithio gyda chyflogwyr lleol, annog busnesau newydd a gweithgareddau entrepreneuraidd
  • Amcan Llesiant 7 - Byddwn yn hybu bywydau mwy iach yn Nhorfaen er mwyn gwella lles meddyliol a chorfforol
  • Amcan Llesiant 8 - Byddwn yn cefnogi ein diwylliant a’n treftadaeth leol ac yn gwneud Torfaen yn lle ffyniannus, diogel a deniadol i fyw ac i ymweld ag e.
  • Amcan Llesiant 9 - Byddwn yn darparu gwasanaethau effeithlon sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n adlewyrchu’r ffordd mae pobl yn byw eu bywydau ac yn dymuno cael gwasanaethau

Amcan Llesiant 1

Byddwn yn codi cyrhaeddiad addysgol, gan helpu pobl ifanc ac oedolion i gael y cymwysterau a’r sgiliau y mae eu hangen i fyw bywydau cadarnhaol

Amcan Llesiant 1
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Cerrig Milltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2023/24

Ysgolion yr 21ain Ganrif

  • Dechrau adeiladu’r ysgol newydd Ysgol Gynradd Maendy a gwella’r dysgu ac addysgu drwy fuddsoddi £17m drwy adeiladu ysgol newydd, carbon sero net yn lle Ysgol Gynradd Maendy

Prosiectau Cyfalaf, Mynediad ac Ymgysylltiad

Dechrau ar y gwaith adeiladu Haf 23

 

Cwblhau’r gwaith adeiladu (Mai 25) ac yn unol â’r gyllideb (£17.1m)

  • Dechrau’r estyniad newydd, carbon sero net £6.85m sy’n cynnig 50 o leoedd ychwanegol yn Crownbridge i wella’r ddarpariaeth i blant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu difrifol

Prosiectau Cyfalaf, Mynediad ac Ymgysylltiad

Ar amser (Haf 24) ac yn unol â’r gyllideb (£12.3m)

  • Dylunio ac adeiladu maes 3G yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw

Prosiectau Cyfalaf, Mynediad ac Ymgysylltiad

Ar amser (Tach 23) ac yn unol â’r gyllideb (£1.65m)

  • Cwblhau’r broses ddylunio ar gyfer ysgol gynradd newydd Mamheilad (210 o leoedd ar safle a allai ddal 315)

Prosiectau Cyfalaf, Mynediad ac Ymgysylltiad

Ar amser (Mawrth 24)

  • Agor lleoliad gofal plant newydd yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw

Blaengynllunio a Mynediad, Mynediad ac Ymgysylltiad

Ar amser - Ebrill 23

  • Cyflawni cyfres o brosiectau gwerth £1.4m i wella ein hysgolion

Datblygu Economaidd, Asedau ac Eiddo

Pob prosiect a nodwyd yn cael eu cyflawni ar amser ac yn unol â’r gyllideb

Strategaeth Llesiant

  • Meithrin dull Ysgol Gyfan o ran y strategaeth llesiant.  Bydd hyn yn cael ei lywio gan ddata SHERN, Iechyd y Cyhoedd, Ysgolion, pobl ifanc a rhanddeiliaid eraill

ADY a Chynhwysiant

Medi 2023

Cynllun Gweithredu ôl-arolygiad

  • Gwella'r ystod o ddarpariaeth, cymorth ac adnoddau sydd ar gael i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg ag ADY

Trawsnewid ADY

Map darpariaeth wedi'i gwblhau Medi 2023

  • Sefydlu a gweithredu prosesau i werthuso ansawdd yr addysgu a'r dysgu yn yr ysgolion yn Nhorfaen ee adolygiadau thematig bob tymor; ffocysau hunanwerthuso â chymorth

Gwella Ysgolion

Gorffennaf 2023

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg  (WESP)

  • Cynyddu'r cyfleoedd i fyw a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg drwy sefydlu 3 darparwr Dechrau'n Deg cyfrwng Cymraeg newydd. Mae hyn yn cynnwys datblygu darpariaeth gofal plant yr Awdurdod Lleol yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw

Y Blynyddoedd Cynnar

Mawrth 2024

Strategaeth Presenoldeb “Ddim Mewn Colli Mas”

  • “Anelu am y 95” a lansio ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth #ddimmewncollimas i wella presenoldeb.

Y Gwasanaeth Lles Addysg / UCGC

Medi 2023

  • Gweithio gydag 16 o ysgolion i hybu presenoldeb da, lleihau absenoldebau heb ganiatâd fel rhan o'r ymgyrch #DdimMewnColliMas

 UCGC

Cynyddu presenoldeb 2% ymhob ysgol y gweithiwyd gyda hwy

Cynllun Cyflawni Economi a Sgiliau

  • Cefnogi 800 o bobl ifanc i wella’u sgiliau llythrennedd drwy Sialens Ddarllen yr Haf

Cwsmeriaid, Materion Digidol, TGCh a Llyfrgelloedd

800 o bobl ifanc

  • Cefnogi 700 o blant ysgol i ddatblygu sgiliau llythrennedd drwy gyfrwng sesiynau Sgiliau’r Llyfrgell

700 o blant ysgol

  • Darparu lleoliadau profiad gwaith gyda’r Cyngor i 36 o bobl ifanc (o dan 16 oed i ddechrau) sydd mewn perygl o fod yn NEET (Nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) a/neu Blant Sy’n derbyn Gofal

Cymunedau ac Adnewyddu

36 o bobl ifanc

  • Lleihau canran y bobl ifanc sy'n gadael blwyddyn 11, yr ystyrir hwy’n rhai nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant gan Gyrfa Cymru, o 2.6% i 2.4%

2.4%

  • Cyflwyno 125 o gymwysterau (fel y'u diffinnir gan y Fframwaith Credydau a Chymwysterau) i dargedu pobl ifanc oedran ysgol uwchradd sydd mewn perygl o beidio â symud ymlaen i addysg cyflogaeth neu hyfforddiant

125 o Gymwysterau

Strategaeth Llesiant Cymunedol

  • Annog 30 o bobl ifanc newydd i wirfoddoli yn eu cymuned

Cymunedau ac Adnewyddu

30 o bobl ifanc

  • Cofrestru 750 o bobl ar gyrsiau “sgiliau hanfodol” dysgu oedolion a’r gymuned, i helpu mwy o drigolion i wella’u cyfleoedd i gael gwaith

750 yn cofrestru

  • Cofrestru 170 o bobl ar gyrsiau “digidol” dysgu oedolion a’r gymuned, i helpu mwy o drigolion i wella’u cyfleoedd i gael gwaith

170 yn cofrestru

  • Cofrestru 424 o bobl ar gyrsiau “ffyrdd o fyw a hamdden” dysgu oedolion a’r gymuned, i helpu mwy o drigolion i ddatblygu sgiliau bywyd a gwella’u lles

424 yn cofrestru

  • Cynyddu nifer y trigolion sy'n cael cymorth gan ein gwasanaethau cyflogadwyedd (Cymunedau am Waith, y Gronfa Ffyniant Gyffredin (GFfG), a rhaglenni etifeddiaeth yr UE) i helpu mwy o drigolion i ddatblygu mewn gwaith cynaliadwy neu i fyd gwaith cynaliadwy.

TBA

(Cytuno ar broffiliau’r GFfG)

  • Cefnogi 300 o bobl ychwanegol i fyd gwaith drwy ein Rhaglen Cymunedau am Waith+

300 o bobl

  • Cefnogi 30% o gyfranogwyr i gyflogaeth barhaol am 6 mis

30%

  • Cefnogi 300 o oedolion i gymryd rhan yn y rhaglen rhifedd ‘Lluosi’ a gweithio tuag at gymhwyster  mewn Mathemateg hyd, ac yn cynnwys Lefel 2 ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.

300 o oedolion

Amcan Llesiant 2

Byddwn yn annog ac yn hybu plant, pobl ifanc a theuluoedd fel y gallan nhw ffynnu

Amcan Llesiant 2
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Carreg Filltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2023/24

Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant

  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar gynlluniau yn y dyfodol i ehangu hygyrchedd gofal plant i bob plentyn 2 oed

Y Blynyddoedd Cynnar

173 o leoedd gofal plant ychwanegol o Ebrill 23

Cynllun Gweithredu ôl-arolygiad/ Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru

  • Cynyddu nifer y bobl ifanc a gefnogir drwy weithio mewn partneriaeth gydag amrywiaeth o sefydliadau statudol a gwirfoddol

Y Gwasanaethau Ieuenctid

Ymgysylltu 350 o bobl ifanc

Cynllun Gweithredu Digonolrwydd Chwarae Torfaen

 

  • Parhau i weithio gyda'r gymuned ac ysgolion i deilwra ein cynnig darpariaeth chwarae i'r gymuned/ysgolion

Y Gwasanaethau Chwarae

Darparu dros 100 o brosiectau gwahanol sy'n gysylltiedig â chwarae bob blwyddyn

 

1,600 o ddisgyblion yn cael mynediad at brosiectau sy’n gysylltiedig â chwarae mewn ysgolion

 

4,500 yn cymryd rhan yn y ddarpariaeth chwarae cymunedol

  • Darparu pecynnau cymorth chwarae i blant a phobl ifanc sydd angen cefnogaeth ychwanegol

Y Gwasanaethau Chwarae

200 y flwyddyn yn cymryd rhan yn ddarpariaeth chwarae a seibiant ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau

Cynllun Datblygu Plant a Phobl Ifanc

  • Gweithredu'r llwybr cyfeirio ar-lein yn llawn i sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael yr help iawn ar yr adeg iawn a lleihau’r angen i uwchgyfeirio i wasanaethau statudol

Plant a Theuluoedd

Ehangu i'r holl asiantaethau – archwilio opsiynau Mehefin 23

Strategaeth Plant Sy’n Derbyn Gofal Cynllun Datblygu Plant a Phobl Ifanc

  • Adolygiad amlasiantaeth o’r atgyfeiriadau i Hwb Cymorth a Diogelu Amlasiantaeth (MASSH) i sicrhau bod trothwyon cywir yn cael eu cadarnhau rhwng gwasanaethau statudol ac anstatudol

Plant a Theuluoedd

Yn parhau trwy gydol 23/24

  • Sicrhau bod o leiaf 80% o'r plant rydyn ni'n gofalu amdanyn nhw'n cael eu rhoi gyda gofalwyr maeth yr awdurdod lleol (Ein targed yw cael 90% erbyn 25/26

Plant a Theuluoedd

80%

  • Sicrhau bod yr holl staff wedi'u hyfforddi yn y dull sy'n seiliedig ar gryfder er mwyn i'r arfer hwnnw barhau i ddatblygu, a bod penderfyniadau diogel yn cael eu gwneud i effeithio ar y boblogaeth Plant Sy’n derbyn Gofal, a’r llwyth gwaith yn gyffredinol

Plant a Theuluoedd

100% o staff wedi'u hyfforddi

  • Sicrhau bod llwyth achosion gweithwyr cymdeithasol cymwys yn hylaw ac yn gostwng i 20 ar gyfartaledd

Plant a Theuluoedd

> 20 achos i bob gweithiwr cymdeithasol

  • Lleihau nifer y plant yr ydym yn gofalu amdanynt, a hynny hyd at 15% o fewn 2023/24

Plant a Theuluoedd

Gostyngiad o 15% yn nifer y Plant Sy’n derbyn Gofal

  • Adolygu effaith y Strategaeth Lleihau Nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal, a datblygu yn ôl yr angen

Plant a Theuluoedd

Cwblhau Adolygiad erbyn Medi 2023

  • Adolygu a datblygu ystod eang o ddarpariaeth/llety ar gyfer plant sy'n derbyn gofal ac angen darpariaeth arbenigol, er mwyn sicrhau cysondeb o ran lleoliad a lleihau elw mewn gofal

Plant a Theuluoedd

Rhagfyr 2023

Cynllun Cyflawni Economi a Sgiliau

  • Drwy’r Rhaglen Lluosi, lansio rhaglen Dysgu Teuluoedd mewn Ysgolion a Lleoliadau Cymunedol i annog a galluogi rhieni i gefnogi eu plant i ddysgu yn y cartref.

Cymunedau ac Adnewyddu

Mawrth 2024

Cartrefi i Wcrain, Rhaglenni Cymorth Dyngarol Rhanbarthol a Chenedlaethol y llywodraeth,

Rhaglenni adsefydlu ffoaduriaid y DU

  • Helpu ffoaduriaid sy'n ffoi rhag trais yn Wcráin i ymgartrefu gyda noddwyr lleol yn Nhorfaen

 UCGC

Seiliedig ar Alw

  • Cefnogi teuluoedd o'r Dwyrain Canol ac Affrica i ailsefydlu yn Nhorfaen

Seiliedig ar Alw

Strategaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

  • Drwy broses Ymyrraeth Amlasiantaeth i Ddisgyblion (MAPI), gweithio gyda 50 o bobl ifanc sydd mewn perygl o gymryd rhan mewn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol / trosedd ac anrhefn.

 UCGC

50 o bobl ifanc

  • Cefnogi 90% o'r holl bobl ifanc sydd angen atal ac ymyrraeth rhag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, i adael y broses gyda chanlyniad cadarnhaol.

90%

  • Cefnogi 90% o'r holl oedolion sydd angen atal ac ymyrraeth rhag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, i adael y broses gyda chanlyniad cadarnhaol..

90%

Prydau Ysgol Am ddim i Bawb

  • Hyrwyddo prydau ysgol am ddim, fel bod y nifer sy’n manteisio ar y cynnig, yn cyrraedd 75% o’r holl aelwydydd sy’n gymwys

 UCGC

75%

Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd i Gymru

  • Gwella ymwybyddiaeth diogelwch ar y ffyrdd ymysg pobl ifanc, drwy ddarparu hyfforddiant trwy fenter Kerbcraft

Priffyrdd a Newid Hinsawdd

1,300 o ddisgyblion erbyn mis Mawrth 2024

Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol;

Cynllun Gweithredu Rheoli Tybaco i Gymru; a Chynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau

  • Byddwn yn amddiffyn plant rhag sylweddau a chynnyrch niweidiol trwy gynnal ymarferion prawf-brynu gyda phartneriaid mewn perthynas â gwerthu nwyddau sydd ag oed cyfyngedig, er enghraifft alcohol, tybaco a chyllyll

Trwyddedu a Safonau Masnach

Cwblhau 2 ymarfer prawf-brynu a chymryd camau gorfodi sydd eu hangen.

Amcan Llesiant 3

Byddwn yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb trwy ganolbwyntio ar weithgareddau adnabod ac atal sy’n cefnogi pobl i fyw bywydau annibynnol a boddhaus

Amcan Llesiant 3
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Carreg Filltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2023/24

Cymorth gyda Threth y Cyngor a Budd-daliadau

  • Sicrhau bod cwsmeriaid yn manteisio ar gymaint o fudd-daliadau â phosibl
  • Gweinyddu Budd-daliadau Tai yn gywir ac yn unol â rheoliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau (seiliedig ar alw)
  • Dyfarnu Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai yn unol â pholisi perthnasol y cyngor
  • Gweinyddu Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor yn effeithlon (seiliedig ar alw)

Dirprwy Brif Weithredwr - Adnoddau

Yn mynd ymlaen – Taflen â phob bil; gwefan

 

£24 miliwn

 

£429,000

 

£10.3 miliwn (9,600 o dderbynwyr)

Budd-daliadau ac Asesiadau Ariannol

  • Rhoi Prydau Ysgol am Ddim 
  • Rhoi grantiau gwisg ysgol
  • Rhoi taliadau gwarcheidwaeth/mabwysiadu  
  • Cynnal asesiadau prawf modd gofal cymdeithasol

Dirprwy Brif Weithredwr - Adnoddau

4,400

 

3,600

 

200

 

1,000

Strategaeth Gymunedol a Llesiant

  • Gweithio ar draws y cyngor er mwyn datblygu gwydnwch cymunedol a lleihau'r angen am wasanaethau statudol a’r bach sydd arnynt

Plant a Theuluoedd

Yn parhau trwy gydol 23/24

Strategaeth Gofal Cartref

 

  • Cynyddu gwasanaethau gofal sy’n seiliedig ar ardaloedd penodol, o amgylch cymunedau, er mwyn gwella canlyniadau i drigolion a gwella capasiti’r farchnad ofal

Oedolion a Chomisiynu

Yn parhau trwy gydol 23/24

  • Cynyddu’r ddarpariaeth gan wasanaethau galluogi er mwyn i drigolion gael mwy o fudd o ofal a chymorth a magu mwy o annibyniaeth gartref

Oedolion a Chomisiynu

Newydd 2023/24 – sefydlu llinell sylfaen

  • Gweithio gyda’r bwrdd iechyd lleol er mwyn gwella’r broses o drosglwyddo gofal, gan leihau amserau aros ar gyfer pecynnau gofal ac atal derbyniadau i’r ysbyty y gellid fod wedi eu hosgoi trwy ddarparu gwasanaethau yn y gymuned

Oedolion a Chomisiynu

Llwybrau Gofal – lleihau’r tueddiad

 

Sefydlu llinell sylfaen ar gyfer 2023/24

  • Defnyddio mwy o dechnoleg gynorthwyol i gyd-fynd â gwasanaethau gofal uniongyrchol neu i gymryd eu lle, er mwyn cefnogi pobl i fod yn fwy annibynnol a chynnal y lefelau annibyniaeth hynny.

Oedolion a Chomisiynu

Sefydlu llinell sylfaen Ebrill 2023, ar gyfer:

 

Nifer y bobl sy'n defnyddio Alarm + (atal)

 

Nifer y bobl sydd ag atebion technoleg gynorthwyol fel rhan o'r cynllun gofal a Chymorth.

 

(Anelu i gynyddu'r ddau)

Strategaeth Gofal Cartref ac Argymhellion Craffu

  • Adolygu’r ddarpariaeth gofal cartref er mwyn pennu’r buddion ac ystyried rhinweddau trefniadau presennol neu drefniadau gwahanol (h.y. gwasanaethau a gomisiynir yn erbyn y model mewnol)

Oedolion a Chomisiynu

Medi 2023

Cam 2 Tŷ Glas y Dorlan a Gwneud Mwy a Gweithredu’n Gynt (LlC)

  • Sicrhau'r gorau o annibyniaeth a lles ym mhob gallu gyda chynnig ailalluogi cymunedol gwell ar gyfer Torfaen.

Oedolion a Chomisiynu

 Model newydd o gyflawni yn gwbl weithredol yn Ch4 o 2023/24   

Prosiect Darganfod

  • Adolygu’r ffordd o fynd i mewn i wasanaethau gofal cymdeithasol statudol i oedolion a diwygio’r model presennol yn ôl yr angen ac fel y pennir gan yr adolygiad, er mwyn rheoli’r galw a sicrhau bod y rheiny â’r lefel anghenion angenrheidiol yn cael y gwasanaethau statudol hyn, gyda’r model diwygiedig ar waith erbyn Medi 2023

Oedolion a Chomisiynu

Model newydd erbyn Medi 2023

 

Cerrig milltir i'w nodi

Strategaeth Llesiant Cymunedol

  • Gweithio gyda phob Cyngor Cymuned i baratoi cynllun gweithredu yn nodi sut y Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i wella gwytnwch a lles yn eu cymuned.

Cymunedau ac Adnewyddu

Awst 2023

  • Lansio'r rhaglen adeiladu capasiti cymunedol a'r grant i ddatblygu a thyfu Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) ar lefel y gymuned leol

Mawrth 2024

  • Cefnogi 240 o drigolion ychwanegol i gysylltu â grwpiau yn eu cymuned sy'n gallu cefnogi eu lles trwy ein Gwasanaeth Cysylltwyr Cymunedol.

240 o drigolion

  • Helpu 75 o gleientiaid Cysylltwyr Cymunedol i gynnal eu hannibyniaeth gan arwain at beidio ag agor eu hachos fel asesiad gofal cymdeithasol ffurfiol o fewn 6 mis iddynt dderbyn cymorth gan y cysylltwyr

75

  • Cefnogi 600 o drigolion i gymryd rhan yn y rhaglen creu Cymunedau Cryf sy’n helpu i feithrin gwydnwch i argyfyngau, gan ddefnyddio ymyriadau cymunedol [200 BRC, 400 SPF]

600 o drigolion

  • Cefnogi 50 o drigolion i wella’u hiechyd a lles meddyliol drwy’r rhaglen Creu Cymunedau Cryf (SPF)

50 o drigolion

  • Cefnogi 40 o drigolion sy'n adrodd i wella eu hiechyd corfforol a'u lles drwy'r rhaglen Creu Cymunedau Cryf (SPF)

40 o drigolion

  • Cymeradwyo 5 grant y chwarter i grwpiau cymunedol sy'n helpu i feithrin gwydnwch yn eu cymuned

20 Grant y flwyddyn

  • Cymeradwyo 3 grant cyfalaf y chwarter a gymeradwywyd i grwpiau cymunedol sy'n helpu i feithrin gwydnwch yn eu cymuned

12 grant y flwyddyn

Grant Cymorth Tai

  • Ychwanegu 8 uned dai â chymorth ychwanegol ac aildrefnu lletyau â chymorth i leihau’r niferoedd sydd mewn perygl o ddigartrefedd
  • UCGC
 PSSU

8

Prydau Ysgol Am Ddim i bawb

  • Cwblhau’r gwaith sy’n gysylltiedig â’r £1,715,000 mewn ceginau ysgol i ddarparu Prydau Am Ddim i’r holl ddisgyblion yn nosbarthiadau derbyn a blynyddoedd 1 a 2 yn Nhorfaen
  • UCGC
PSSU 

Rhagfyr 2023

  • Gweini cyfanswm o 702,000 o brydau maethlon i ddisgyblion cynradd

702,000

Y Cynllun Cymorth Disgresiynol Costau Byw

  • Cefnogi 400 o drigolion o ran cynhwysiant ariannol
  • Cymunedau ac Adnewyddu
Cymunedau ac Adnewyddu

400 o drigolion

  • Cefnogi 375 o drigolion i leihau eu dyledion

375 o drigolion

  • Cefnogi 375 o drigolion i dderbyn budd-daliadau perthnasol

375 o drigolion

  • Cefnogi 100 o drigolion mewn trafferthion ariannol i gynyddu eu hincwm i'r eithaf

100 o drigolion

Cynllun Datblygu Lleol

  • Byddwn yn sicrhau cartrefi fforddiadwy drwy'r system gynllunio

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Arwain gan geisiadau

Cymru Iachach: Ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol;

Deddf Tai (Cymru) 2014; a Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

  • Byddwn ni'n cynnal prosiect i asesu amodau mewn llety rhent wedi'i dargedu uwchben siopau er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel, a chymryd  camau priodol yn ôl yr angen

Diogelwch ar gyfer Tai a Diogelu’r Amgylchedd

Cynnal y prosiect a gweithredu unrhyw gamau sydd eu hangen.

Cymru Iachach: Ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol;

Deddf Tai (Cymru) 2014; a Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

  • Byddwn yn gwella safonau tai ac yn adnabod risgiau i iechyd a diogelwch trwy ymateb i gwynion gan drigolion ynghylch eiddo a rentir yn breifat, ac yn dysgu o’r cwynion hynny

Diogelwch ar gyfer Tai a Diogelu’r Amgylchedd

Mawrth 2024

Rhaglen Ffyniant a Rennir Gwytnwch bwyd a Food 4 Growth

  • Anelu at ennill statws Lle Bwyd Cynaliadwy i gynyddu cadwyni cyflenwi bwyd rhanbarthol sy'n cefnogi'r gymuned, cynhyrchu bwyd / cyflenwi, bwytai sy'n hyrwyddo ffyniant economaidd a diogelwch bwyd
  • Creu a chytuno ar siarter bwyd fydd yn amlinellu'r blaenoriaethau a'r effaith y bwriadwyd ei chyflawni drwy'r Bartneriaeth Fwyd 
  • Darparu Cynllun Grant Datblygu Bwyd â ffocws ar fusnes
  • Cyflawni Cynllun Bwyd Cymunedol, cefnogi prosiectau bwyd cymunedol yn y trydydd sector i wella’r gallu i gael hyd i fwyd fforddiadwy ac iachus.
  • Cydlynu Ymgynghoriad ar Strategaeth “Cysylltiadau Tyfu Bwyd” fydd yn nodi sut yr ydym yn bwriadu cyflawni ein blaenoriaethau bwyd da
  • Cynnal yr Uwchgynhadledd Bwyd flynyddol gyntaf i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o'r strategaeth fwyd gyffredinol a ffordd ymlaen
  • Lansio'r Rhwydwaith Bwyd Da a'r Rhwydwaith Busnes Bwyd i gynyddu capasiti a gallu yn Nhorfaen i gyflawni'r strategaeth fwyd

Economi a'r Amgylchedd

Cais wedi ei gyflwyno

 

Cymeradwyaeth y cabinet Gorffennaf 2023

 

4 busnes yn cael arian

 

10 prosiect cymunedol yn derbyn cefnogaeth erbyn diwedd 23-24

 

Cynnal Uwchgynhadledd

 

Lansio rhwydweithiau

Nifer y cyfranogwyr yn derbyn cefnogaeth  - 500

 

Nifer y busnesau'n derbyn grantiau – 4 - £40,000

 

Nifer y grantiau trydydd sector – 15 - £120,000

Amcan Llesiant 4

Byddwn yn gwneud Torfaen yn fwy cynaliadwy trwy gysylltu pobl a chymunedau, yn gymdeithasol, yn ddigidol ac yn ffisegol

Amcan Llesiant 4
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Carreg Filltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2023/24

Strategaeth Llesiant Cymunedol

  • Cynyddu canran cwsmeriaid llyfrgell yn y cartref sy’n cytuno bod y gwasanaeth wedi gwneud newid cadarnhaol i’w bywydau

Cwsmeriaid, Materion Digidol, TGCh a Llyfrgelloedd

90% o'r cwsmeriaid

  • Gweithio gyda CGT a phartneriaid i hyrwyddo a sefydlu Cysylltu Torfaen fel y platfform sylfaenol ar gyfer gweithgareddau cymunedol, yn cynnwys gwirfoddoli.

Cymunedau ac Adnewyddu

Rhagfyr 2023

  • Cynyddu nifer yr aelodau unigol o blatfform Cysylltu Torfaen i 500 i annog grwpiau cymunedol i rannu gwybodaeth ar les i drigolion yn eu hardal

500 o aelodau

  • Cynyddu nifer y gwirfoddolwyr sydd wedi cofrestru ar blatfform Cysylltu Torfaen

100 o wirfoddolwyr wedi cofrestru

Strategaeth Cwsmeriaid Digidol yn Gyntaf

  • Cynnig rhaglen cynhwysiant digidol i drigolion, i gynyddu sgiliau digidol am oes, a bydd dros 60% o’r cyfranogwyr dal i fod yn bodloni’r meini prawf ar ôl 12 mis

Cwsmeriaid, Materion Digidol, TGCh a Llyfrgelloedd

60%

Cynllun Teithio Llesol

 

Cynllun

Cerbyd Allyriadau Isel Iawn (ULEV) Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd)

 

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

  • Cwblhau’r gwaith o uwchraddio Gorsaf Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd

Priffyrdd a Newid yn yr Hinsawdd

Mai 2023

  • Cwblhau asesiad strategol o’r cyfleoedd Teithio Llesol ar hyd Cwmbran Drive gan arwain at ddatblygu Achos Busnes Amlinellol yn 23/24

CBA wedi’i gwblhau Hydref 2023

  • Cyflawni 9 Cynllun Teithio Llesol i’r Ysgol ac asesu eu heffeithiolrwydd

9 erbyn Medi 2023

  • Cyflawni cyfres o gynlluniau Teithio Llesol yn 23/24 yn unol â’r Cynllun Cyflawni Teithio Llesol a gymeradwywyd

Cymeradwyo cynlluniau (cyllid LlC Ebr 2023)

 

Caffael Hyd 23

 

Paratoi Cynlluniau  Mawrth 24

  • Cyflawni prosiectau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau

Rhaglen yn ddibynnol ar gyllid LlC – i'w ddiweddaru yn Ch1

Deddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru

  • Cyflawni prosiect 20mya LlC

Priffyrdd a Newid yn yr Hinsawdd

Medi 2023

Amcan Llesiant 5

Byddwn yn ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, yn ailgylchu mwy ac yn gwneud gwelliannau i’r amgylchedd lleol

Amcan Llesiant 5
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Carreg Filltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2023/24

Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif

  • Gosod paneli solar ffotofoltäig ar 14 o ysgolion

Prosiectau Cyfalaf, Mynediad ac Ymgysylltiad

Cwblhau’r gwaith yn y 14 o ysgolion erbyn Ebrill 24

Cynllun Disgresiwn Costau Byw

  • Cefnogi 400 o drigolion i gael cyngor ar leihau’r ynni y maent yn ei ddefnyddio a lleihau biliau

Cymunedau ac Adnewyddu

400 o drigolion

Cynllun Gweithredu’r Argyfwng Hinsawdd a Natur

  • Ailgylchu 100 o feiciau ar gyfer pobl ifanc a theuluoedd mewn angen yn Nhorfaen

Cymunedau ac Adnewyddu

Ailgylchu 100 o feiciau

Cynllun Gweithredu'r Argyfwng Hinsawdd a Natur

 

Prosiect Apollo

  • Cyflwyno ymgyrch fewnol ar newid ymddygiad ynghylch effeithlonrwydd ynni i leihau’r ynni a ddefnyddir

Priffyrdd a Newid yn yr Hinsawdd

Peilot Gwanwyn 2023

 

Lansio erbyn Hyd 23

  • Cynyddu’r ynni adnewyddadwy sy’n cael ei greu ar safleoedd CBST

Canfod safleoedd a’u diweddaru yn Ch 1

  • Gwneud y gorau o fesurau effeithlonrwydd ynni i leihau’r ynni a ddefnyddir

Canfod safleoedd a’u diweddaru yn Ch 1

  • Cynnal "archwiliadau dwfn" ar adeiladau i benderfynu ar gostau a strategaeth i gyflawni carbon sero net

I’w drefnu drwy brosiect Apollo

  • Paratoi strategaeth, fframwaith polisi a chynllun gweithredu sero net ar gyfer y fflyd

Medi 2023

  • Datblygu dealltwriaeth ar y cyd o risgiau i'r hinsawdd a datblygu camau gweithredu sy'n adeiladu dulliau addasol.

Paratoi cynllun erbyn Mawrth 2024

  • Llunio strategaeth rheoli perygl llifogydd a fydd yn nodi blaenoriaethau gweithredu a buddsoddi yn y dyfodol i ddiogelu Torfaen rhag y peryglon yn ymwneud â hinsawdd sy'n newid

Cytuno ar Strategaeth erbyn

2024

Cynllun Gweithredu Yr Argyfwng Hinsawdd a Natur

 

  • Byddwn ni'n gweithio gyda CNC ar ddull monitro carbon ar gyfer gweithgareddau cildroi gan gynnwys plannu coed er mwyn sicrhau bod gan bob prosiect ganlyniadau y gellir eu mesur.

Tîm yr Amgylchedd

Datblygu dull

Mawrth 2024

Cynllun Gweithredu Tipio Anghyfreithlon

 

Strategaeth Seilwaith Gwyrdd

  • Cyflawni contract glanhau a thorri porfa mewn partneriaeth ar gyfer 2023 a chytuno ar drefniadau partneriaeth mwy hirdymor mewn cytundeb â Bron Afon

Tîm yr Amgylchedd

Dod i gytundeb erbyn

Awst 2023

Cynllun Gweithredu Yr Argyfwng Hinsawdd a Natur

  • Dechrau'r broses i greu Gwarchodfa Natur Leol newydd i ddathlu, amddiffyn a gwella natur

Tîm yr Amgylchedd

Taro cerrig milltir cynllun y prosiect

Cynllun Gweithredu Ailgylchu a Gwastraff

  • Byddwn ni'n pennu effaith carbon y gwasanaeth ailgylchu a gwastraff

Tîm Ailgylchu a Gwastraff

Tîm Ailgylchu a Gwastraff

Rhagfyr 2023

  • Bwrw ymlaen â'n cynlluniau i adeiladu cyfleuster didoli ailgylchu newydd a chychwyn ar y gwaith o fewn amserlen gynllunio

Rhagfyr 2023

  • Nodi sut rydym yn bwriadu cynyddu ailgylchu er mwyn sicrhau ein bod yn taro targedau LlC a chreu cynllun gweithredu cysylltiedig i gyflawni hyn

Gorffennaf 2023

  • Cyflwyno casgliadau cardbord wythnosol

Medi 2023

  • Byddwn ni'n ailgylchu deunydd ychwanegol wrth ymyl y ffordd (WEEE a batris bach) ac yn ehangu ar gasglu plastig 'ymestynnol' o fannau cymunedol ar draws Torfaen

Medi 2023

  • Cefnogi’r Cyngor a busnesau preifat i gydymffurfio â newidiadau yn y gyfraith ailgylchu sy'n dod i'r amlwg fel y gallant ailgylchu mwy

Hydref 2023

Cynllun Aer Glân i Gymru

  • Byddwn yn monitro ansawdd aer o fewn y fwrdeistref gan gymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd

Diogelwch ar gyfer Tai a Diogelu’r Amgylchedd

Mawrth 2024

Cymru Iachach: Ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol;

Deddf Tai (Cymru) 2014; Cynllun Gweithredu Argyfwng Hinsawdd a Natur; a Chymru Sero Net

  • Byddwn yn cynorthwyo aelwydydd sydd ar incwm isel a’r rheini sy’n fregus, yn y cartrefi hynny sy’n defnyddio ynni yn y ffordd leiaf effeithlon i gael hyd i gynlluniau cymorth sy’n anelu i gynyddu effeithlonrwydd ynni a lleihau tlodi tanwydd ee Eco Flex

Diogelwch ar gyfer Tai a Diogelu’r Amgylchedd

Mawrth 2024

 

Nifer y deiliaid tai sy’n mynegi diddordeb mewn eco flex ac yn gymwys i’w dderbyn

Amcan Llesiant 6

Byddwn yn gwneud Torfaen yn lle gwych i fod mewn busnes trwy weithio gyda chyflogwyr lleol, annog busnesau newydd a gweithgareddau entrepreneuraidd

Amcan Llesiant 6
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Carreg Filltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2023/24

Cynllun Cyflawni Economi a Sgiliau

  • Cefnogi 20 o fusnesau lleol yn yr "economi bob dydd" i sefydlu neu i ddod yn fwy gwydn

Cymunedau ac Adnewyddu

20 o fusnesau lleol

  • Cefnogi 40 o ddarpar entrepreneuriaid i fod yn barod i sefydlu busnes

40 o ddarpar entrepreneuriaid

  • Cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar ddeiliadaeth yn y farchnad dan do i 74% o’r holl stondinau er mwyn helpu Pont-y-pŵl i ddod yn gymuned fwy bywiog a chynaliadwy

74%

  • Cefnogi 25 o bobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau entrepreneuraidd i bobl ifanc

25 o bobl ifanc

Cynllun Gweithredu'r Argyfwng Hinsawdd a Natur

  • Datblygu 10 cynllun datgarboneiddio allyriadau uchel ar gyfer busnesau

Priffyrdd a Newid yn yr Hinsawdd

10 cynllun

 

3 prosiect seilwaith

 

1 Cynllun cymunedol EV

  • Sefydlu 3 prosiect seilwaith ynni isel neu sero carbon
  • Cefnogi 1 Cynllun Cerbydau Trydan Cymunedol

Cynllun Datblygu Lleol

  • Byddwn yn ymgysylltu â busnesau mewn cysylltiad â cheisiadau cynllunio ac yn gwneud penderfyniadau yn unol â'r CDLl

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cael ei arwain gan geisiadau

Cynllun Cyflawni Economi a Sgiliau

  • Creu a gweithredu Prosbectws Buddsoddi i hyrwyddo adnewyddu a sefydlu tir diwydiannol newydd a darganfod pa gymorth sydd ei angen i fynd ati i’w datblygu

Datblygu Economaidd, Asedau ac Eiddo

Medi 2023

  • Sefydlu campws arloesi blaenllaw o ran Ysbyty Athrofaol y Faenor

Rhagfyr 2024

  • Adolygu ac ailsefydlu ffocws Canolfan Arloesi Springboard i ddod yn hwb mewn rhwydwaith o fannau arloesi ar gyfer busnesau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg

Arolwg cyflwr Mawrth 23

 

Gweithredu Busnes / Modelu cyllid Ebr 23

 

Drafftio Achos Busnes Mehefin 23

 

Cabinet Medi / Hyd ’23

 

Caffael Tach. 23

  • Creu llwybr arloesi, a phroses tîm amlddisgyblaethol gyda'r bwrdd iechyd a phrifysgolion rhanbarthol yn y Parc Meddygol

Canfod ffordd glir ymlaen erbyn mis Rhagfyr 24

  • Datblygu a chyflawni Fframwaith Ymgysylltu Busnes Torfaen

Erbyn mis Mawrth 2024

  • Cyflawni prosiect Eco-system Arloesi Busnes y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Erbyn mis Mawrth 2025

(diweddaru’r amserlenni yn Ch1)

  • Cyflawni'r model busnes newydd ar gyfer Llais Busnes Torfaen

Erbyn mis Mawrth 2024

  • Datblygu achos busnes ar gyfer rhaglen buddsoddi portffolio masnachol wrth baratoi ar gyfer newidiadau yn rheoliadau Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni (MEES) yn y dyfodol

Mawrth 2024

Amcan Llesiant 7

Byddwn yn hybu bywydau mwy iach yn Nhorfaen er mwyn gwella lles meddyliol a chorfforol

Amcan Llesiant 7
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Carreg Filltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2023/24

Fframwaith ar ymwreiddio dull ysgol gyfan o ymdrin ag Iechyd Meddwl a Llesiant
Y Cynllun Sirol
Egwyddorion Marmot

 

  • Cefnogi Arweinwyr Gweithredu a phum ysgol newydd i ddefnyddio offeryn Hunanasesu’r Dull Ysgol Gyfan o Ymdrin ag Iechyd Meddwl a Llesiant

Ysgolion Iach

Llwyddo i recriwtio 5 ysgol newydd

Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru

  • Cynyddu'r cynnig o opsiynau llesiant cyfannol i bobl ifanc drwy weithgareddau gwaith ieuenctid, wedi'i arwain a'i ddylunio gan bobl ifanc sy'n defnyddio'r gwasanaeth

Y Gwasanaethau Ieuenctid

2,000 o bobl ifanc

Polisi Bwyd a Ffitrwydd Ysgol-Gyfan Gwent

Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen

  • Annog a chefnogi ysgolion i helpu dysgwyr i gymryd rhan mewn chwaraeon o leiaf 3 gwaith yr wythnos neu fwy, y tu allan i'r cwricwlwm.

Datblygu Chwaraeon

Llwyddo i ymgysylltu â 100% o ysgolion yn Nhorfaen

 

40% o ddysgwyr yn cymryd rhan mewn chwaraeon o leiaf 3 gwaith neu fwy, yr wythnos, y tu allan i'r cwricwlwm, erbyn 2024

  • Gweithio gyda phartneriaid ychwanegol i hyrwyddo manteision ffordd o fyw actif ar bob agwedd ar fywydau trigolion

Datblygu Chwaraeon

30 o sefydliadau sy’n bartneriaid

Cynllun Datblygu Lleol

Prosiectau S106 ar gyfer chwarae

Archwiliad Digonolrwydd Chwarae

 

 

  • Cyflawni prosiect maes chwarae 3G Llantarnam
  • Gorffen ailosod Parc Chwarae Pentre’ Isaf.
  • Creu Cynllun Rheoli ar gyfer Parciau Trefol i gynnal eu gwerth o ran cyfleuster a nodi cyfleoedd ar gyfer bioamrywiaeth 
  • Adnewyddu ac uwchraddio Cyrtiau Tenis Blaenafon
  • Cyflawni Ardal Gemau Aml-ddefnydd Cwmbrân (MUGA) ac uwchraddio’r cwrt tenis. Ariennir gan Chwaraeon Cymru, LTA ac S106.

Tîm yr Amgylchedd

Rhagfyr 2023

 

Parc wedi ei gwblhau Tach-23

 

Cwblhau cynlluniau ar gyfer y parciau Mawrth-24 (datblygir mwy o gynlluniau ar gyfer pob parc yn Ch1 2023-24)

 

Cwblhau Blaenafon erbyn Mawrth -24

 

Cwblhau Cwmbrân erbyn Mehefin -23

Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol;

Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru

  • Byddwn yn cynnal arolygiadau o fusnesau bwyd yn Nhorfaen er mwyn sicrhau bod y bwyd yn ddiogel

Diogelu Bwyd ac Iechyd

Cyflawni 100% o’r arolygiadau arfaethedig

Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol;

Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru; a Strategaeth Ordewdra pwysau Iach, Cymru Iach

  • Byddwn yn cynnal arolygiadau o fusnesau bwyd yn Nhorfaen er mwyn sicrhau bod y bwyd yn ddiogel a’r busnesau bwyd yn dweud y gwir am eu bwyd

Trwyddedu a Safonau Masnach

Cyflawni 100% o’r arolygiadau arfaethedig

Amcan Llesiant 8

Byddwn yn cefnogi ein diwylliant a’n treftadaeth leol ac yn gwneud Torfaen yn lle ffyniannus, diogel a deniadol i fyw ac i ymweld ag e.

Amcan Llesiant 8
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Carreg Filltir / MesurauTîmTarged / Carreg Filltir 2023/24

Fferm Gymunedol Greenmeadow

  • Cwblhau'r gwaith o adnewyddu'r fferm a chyflwyno'r cynnig newydd i ymwelwyr a'r model gweithredu busnes

Cymunedau ac Adnewyddu

Sicrhau cynllunio a bod mewn sefyllfa lle mae yna gontractau erbyn Mehefin 2023/23

Uwch Gynllun Y British

  • Sicrhau caniatâd cynllunio fel rhan o'n nod aml-flwyddyn i ddargyfeirio Nant Blaengafog ar safle’r British allan o’r ceuffosydd ac i mewn i sianel newydd, yn rhan o gam cyntaf uwch gynllun Y British

Cymunedau ac Adnewyddu

Mawrth 2024

  • Datblygu gwaith dichonoldeb gyda phartneriaid/IDRIS i archwilio’r llwybrau treftadaeth, ynni gwyrdd, amaethyddiaeth a chyfleoedd ar gyfer ymwelwyr yn ymwneud â cham 2 uwch gynllun ehangach Y British.

Rhagfyr 2023

Cynllun Cyflawni Economi a Sgiliau

  • Sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer prosiectau’r Gronfa Ffyniant Bro i adfywio canol ein trefi ac annog economi gyda’r nos, gyda mwy o ymwelwyr yn mwynhau lleoedd o ansawdd da i fwyta ac yfed.

Cymunedau ac Adnewyddu

Rhagfyr 2023

  • Byddwn ni'n gweithio gyda chymunedau a sicrhau bod cymaint o gyfleoedd cyllido â phosibl ar waith, i wella golwg cymunedau a chanol trefi i hybu balchder

Medi 2023

  • Gosod paneli gwybodaeth cymunedol a mynd ar drywydd 20 o ddigwyddiadau ymgysylltu i wirfoddolwyr.

20 o ddigwyddiadau ymgysylltu i wirfoddolwyr

  • Cyflawni cynnig Cyrchfan Torfaen  gan y TTA fel rhan o'n nod aml-flwyddyn Ii gysylltu ein hatyniadau rhagorol i ymwelwyr fel y gallwn gynnig pecynnau deniadol i ymwelwyr yn ystod y dydd a dros nos, yn cynnwys lleoliadau ledled y fwrdeistref

Rhagfyr 2023

Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon

  • Cynyddu nifer yr ymwelwyr i Ganolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon  i 25,000 o annog mwy o drigolion ac ymwelwyr lleol i ymweld â’r Fwrdeistref i weld  diwylliant a threftadaeth Torfaen

Cymunedau ac Adnewyddu

25,000

Diogelwch a Chydlyniad Cymunedol

  • Rhoi ymyriadau ataliol ar waith i fynd i’r afael â throseddau casineb, iaith casineb a a diffyg goddefgarwch yn ein cymunedau i greu cymunedau mwy diogel a chynhwysol

 UCGC

Arwain gan y galw

Strategaeth Llesiant Cymunedol

  • Cefnogi Cymunedau Gweithredol:  Adolygu'r ystod eang o weithgareddau amgylcheddol cyfredol y grwpiau cymunedol a’r gwirfoddolwyr, mewn partneriaeth â'r gwasanaeth, a pharatoi cynllun strategol sy'n darparu fframwaith ar gyfer ei ddatblygu ymhellach, i reoli mannau gwyrdd, cynnal ardaloedd heb sbwriel a chreu cyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddiant a phrentisiaethau, sydd yn eu tro, yn cefnogi pobl (gan gynnwys y rhai bregus) i sicrhau gwaith cyflogedig.

Tîm yr Amgylchedd

Mawrth 2024

Papur Gwyn Diogelwch Tomenni Glo (Cymru)

  • Datblygu Cynllun Cyflawni a Strategaeth Rheoli Tomenni Glo i amddiffyn a gwella’r amgylchedd lleol a chadw ein cymunedau’n ddiogel rhag peryglon yn y dyfodol

Priffyrdd a Newid yn yr Hinsawdd

Llunio’r cynllun erbyn mis Mawrth 2024

Cynllun Gweithredu Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon

  • Byddwn yn lleihau/atal tipio anghyfreithlon trwy gyflwyno prosiectau uchelgeisiol gyda phartneriaid ee Cyfoeth Naturiol Cymru, Bron Afon

Tîm yr Amgylchedd

Gostyngiad o 5% yn nifer yr achosion a adroddwyd yn 21-22

  • Byddwn yn cynnal mentrau cadw golwg i ganfod y rheini sy’n tipio’n anghyfreithlon ac yn cymryd camau gorfodi lle bo hynny’n briodol

Iechyd yr Amgylchedd

Cyflawni 100 % o adroddiadau ynghylch tipio anghyfreithlon, lle ceir tystiolaeth o bwy sy’n cyflawni’r drosedd, gan arwain at gamau gorfodi

Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd

  • Buddsoddi mewn ffyrdd a phalmentydd yn unol â’n Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd i sicrhau y gall defnyddwyr deithio’n ddiogel a bod ased y Cyngor yn cael ei gynnal a’r rheoli’n briodol
  • Cyflawni rhaglen o welliannau ar gyfer cyrbau isel i gynyddu hygyrchedd a sicrhau bod yr holl ymyriadau a datblygiadau newydd ar gyfer teithio llesol, yn hyrwyddo a chynnwys cyrbau isel lle bo angen, a lle bo hynny’n briodol.

Priffyrdd a Newid yn yr Hinsawdd

Cyllid cyfalaf gwerth £400k yn cael ei ddefnyddio’n llawn

 

95% o archwiliadau priffyrdd yn cael eu cwblhau ar amser

 

2% yn unig o’r priffyrdd mewn cyflwr gwael

 

Cyllid cyfalaf gwerth £25k ar gyfer cyrbau isel yn cael ei ddefnyddio’n llawn

Amcan Llesiant 9

Byddwn yn darparu gwasanaethau effeithlon sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n adlewyrchu’r ffordd mae pobl yn byw eu bywydau ac yn dymuno cael gwasanaethau

Amcan Llesiant 9
Rhaglen / StrategaethGweithgaredd / Carreg Filltir / Mesurau TîmTarged / Carreg Filltir 2023/24

Strategaeth Cwsmeriaid Digidol yn Gyntaf

  • Lleihau’r gyfradd sy’n rhoi’r gorau i alwadau ‘Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Bathodynnau Glas’ ar "Galw Torfaen" i 3% o’r holl alwadau

Cwsmeriaid, Materion Digidol, TGCh a Llyfrgelloedd

3%

  • Lleihau’r gyfradd sy’n rhoi’r gorau i alwadau ‘Budd-daliadau’ ar “Galw Torfaen” i 8% o’r holl alwadau

8%

  • Lleihau’r gyfradd sy’n rhoi’r gorau i alwadau ‘Treth y Cyngor’ ar “Galw Torfaen” i 8% o’r holl alwadau

8%

  • Cadw’r un gyfradd sy’n rhoi’r gorau i alwadau ar gyfer pob gwasanaethau arall ar “Galw Torfaen” i 10%

10%

  • Lleihau’r amser aros ar gyfartaledd am alwadau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Bathodynnau Glas ar "Galw Torfaen" i 90 o eiliadau.

90 o eiliadau

  • Lleihau’r amser aros ar gyfartaledd am alwadau Budd-daliadau ar "Galw Torfaen" i 360 o eiliadau.

360 o eiliadau

  • Lleihau’r amser aros ar gyfartaledd am alwadau Treth y Cyngor ar "Galw Torfaen" i 360 o eiliadau

360 o eiliadau

  • Lleihau’r amser aros ar gyfartaledd am alwadau ar gyfer ‘pob Gwasanaeth arall’ ar "Galw Torfaen" i 360 o eiliadau.

360 o eiliadau

Cydraddoldeb

  • Darparu cyfnod a hyfforddiant cynefino ar gydraddoldeb i’r aelodau

 UCGC

Rhagfyr 2023

Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd

  • Gweithredu'r protocolau ar gyfer cyfranogiad a chynnwys y cyhoedd, sydd wedi'u mabwysiadu yn ein Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus. Sicrhau ein bod yn rhoi cyfle i bobl ddweud eu dweud am y ffordd yr ydym yn gweithio a'r penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

 UCGC

Rhagfyr 2023

  • Cynyddu cyfleoedd i bobl ifanc ddweud eu dweud am y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt

Mawrth 2024

Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol

  • Darparu 12 sesiwn hyfforddi i staff a gwirfoddolwyr ar sut i ymgysylltu’n effeithiol â phlant a phobl ifanc o ran cynllunio a chyflenwi gwasanaethau

 UCGC

12 sesiwn hyfforddi

Cofrestryddion

  • Cofrestru 94% o enedigaethau cyn pen 42 o ddiwrnodau

 UCGC

94%

  • Cofrestru 94% o farwolaethau (nad ydynt yn galw am wasanaeth y crwner) o fewn 5 diwrnod

94%

Diwygiwyd Diwethaf: 16/05/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen
Tel: 01495 762200

Email: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig