Diweddariad Gwastraff ac Ailgylchu

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 27 Mehefin 2025

Mae criwiau a staff ychwanegol yn gweithio'n galed i ddal i fyny ar y casgliadau ailgylchu a gollwyd ac sy’n weddill yr wythnos hon.

Os yw eich casgliad ailgylchu wedi cael ei golli'r wythnos hon, ewch â'ch bagiau a'ch cynwysyddion yn ôl i mewn dros y penwythnos, eu rhoi allan eto ddydd Llun a'u gadael allan nes eu bod wedi cael eu casglu.

Mae'r criwiau sydd fel arfer yn casglu Gwastraff Gwyrdd a thimau eraill yn cael eu cyfeirio at helpu i glirio'r ôl-groniad o ddeunydd ailgylchu ac mae disgwyl iddynt ddal i fyny ym mhob ardal erbyn diwedd dydd Mercher.

Bydd y pall ar gasgliadau gwastraff gwyrdd y parhau ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher, ond rydym yn disgwyl y byddan nhw’n yn ailddechrau ddydd Iau, 3ydd o Orffennaf.

Mae pob casgliad gwastraff gweddilliol (bin clawr porffor) wedi eu cwblhau bellach yr wythnos hon.

Rhannwch y wybodaeth hon gydag unrhyw deulu, ffrindiau a chymdogion os gwelwch yn dda.

Rydym yn ymddiheuro'n ddiffuant am unrhyw anghyfleustra y mae hyn wedi'i achosi

Diwygiwyd Diwethaf: 27/06/2025 Nôl i’r Brig