Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 15 Mai 2026
Cyn hir, bydd teuluoedd yn gallu cael cymorth i ailddefnyddio cewynnau, diolch i sesiynau galw-heibio misol newydd.
Mae llyfrgelloedd cewynnau yn cael eu sefydlu ym Mhont-y-pŵl a Chwmbrân i roi cyfle i rieni a gofalwyr roi tro ar gewynnau amldro, eu benthyg a chael rhagor o wybodaeth amdanyn nhw, gan eu bod yn cynnig opsiwn cost-effeithiol sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd yn lle cewynnau untro.
Mae dwy lyfrgell gewynnau yn cael eu lansio yr wythnos hon—un yn yr Hwb Eco ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl a'r llall yn Llyfrgell Cwmbrân.
Bydd sesiynau ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl ar ail ddydd Mercher y mis rhwng 1pm a 2.30pm. Bydd sesiynau yn Llyfrgell Cwmbrân ar ail ddydd Gwener y mis.
Meddai Bethan O'Sullivan, Cydlynydd Prosiect Llyfrgelloedd Cewynnau, Wastesavers: "Mae llyfrgelloedd cewynnau yn ffordd gyfeillgar iawn i deuluoedd archwilio cewynnau amldro, heb unrhyw bwysau.
"Yn aml mae pobl yn synnu mor fodern, hawdd a fforddiadwy ydyn nhw, ac mae'r sesiynau hyn yn rhoi cyfle iddyn nhw i holi cwestiynau a gweld yr opsiynau cyn ymrwymo."
Meddai’r Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Gynaliadwyedd a Gwastraff: "Mae'r sesiynau llyfrgell cewynnau hyn yn enghraifft wych o sut y gall newidiadau bach, ymarferol wneud gwahaniaeth go iawn.
"Maen nhw'n helpu teuluoedd i arbed arian a hefyd yn lleihau gwastraff, ac mae'n wych gweld y cymorth hwn ar gael yn lleol ym Mhont-y-pŵl a Chwmbrân."
Mae'r sesiynau’n agored i unrhyw un sy'n disgwyl babi, sydd â phlant ifanc, neu sydd eisiau lleihau gwastraff y cartref a byw'n fwy cynaliadwy.
Am ragor o wybodaeth am gewynnau amldro, gall trigolion fynd i wefan y Cyngor neu gallwch ddilyn The Nappy Library gan Wastesavers ar Facebook.
Os ydych chi'n byw yn Nhorfaen ac mae gennych blant cymwys, gallwch wneud cais am daleb gwerth £30 tuag at brynu cewynnau amldro.
Mae'r daleb o £30 ar gael i bob aelwyd gymwys i bob plentyn cymwys.
Mae'r sesiynau hyn yn rhan o ymdrech ehangach i annog pobl i ailddefnyddio a lleihau gwastraff ar draws Torfaen, gan helpu trigolion i wneud newidiadau syml sy'n well i'w waledi a'r amgylchedd.
Gwnewch gais am yma