Mae cewynnau y gellir eu hailddefnyddio, cyfeirir atynt hefyd fel cewynnau clwt neu gewynnau golchadwy, yn ddewis amgen yn lle cewynnau tafladwy a gellir eu golchi a’u hailddefnyddio. Maen nhw wedi eu gwneud o wahanol ddefnyddiau, gan gynnwys ffibrau naturiol, deunyddiau wedi eu gwneud, neu gyfuniad.
Os ydych chi’n byw yn ardaloedd canlynol Torfaen, ac mae gennych blant sy’n gymwys, gallwch wneud cais am daleb gwerth £30 ar gyfer prynu cewynnau i’w hailddefnyddio.
Mae’r daleb yn £30 i bob aelwyd cymwys i bob plentyn cymwys.
Gwneud cais am daleb cewynnau ailddefnyddiadwyYstyried defnyddio cewynnau y gellir eu hailddefnyddio? Beth am roi cynnig arnyn nhw cyn i chi brynu?
Gall rhieni a gofalwyr sy'n ystyried cewynnau clwt, eu treialu am fis cyn gwneud ymrwymiad i brynu.
Trwy ein partner, Llyfrgell Cewynnau, Gall teuluoedd fenthyg pecyn cewynnau clwt am £10 yn unig, ynghyd â blaendal o £25 y gellir ei ad-dalu'n llawn.
Mae pob pecyn yn cynnwys:
- 25 cewyn clwt
- Bagiau gwlyb a leinwyr
- Cyngor a chefnogaeth arbenigol
Mae cewynnau ar gael i fabanod sy'n pwyso o 2.5kg (5 pwys) hyd at 15kg (36pwys).
I’r teuluoedd hynny lle gall cost fod yn rhwystr, mae bwndeli cewynnau clwt am ddim hefyd ar gael i’w benthyg yn y tymor hir, gan helpu i arbed arian wrth leihau gwastraff a diogelu'r amgylchedd.
Os hoffech gael gwybod mwy, gofyn cwestiynau, neu fanteisio ar y cynnig hwn, ewch i'r Caffi Trwsio ym Marchnad Pont-y-pŵl ar fore Llun cyntaf pob mis. Bydd ein tîm yn hapus i'ch helpu i benderfynu a yw cewynnau y gellir eu hailddefnyddio yn iawn i'ch teulu.