Mae siop ailddefnydd y Steelhouse drws nesaf i’n Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Dafarn Newydd yn gwerthu eitemau o safon, ail-law y mae trigolion wedi eu cyfrannu i leihau gwastraff ac i helpu i gefnogi Wastesavers, elusen leol.
Gall pob un o’n siopwyr deimlo’n dda ynglŷn â gwneud cyfraniad positif i’r amgylchedd trwy ailddefnyddio deunyddiau a fyddai fel arall yn cael eu taflu i ffwrdd. Felly, dewch draw i gael bargen.
Mae ein siop yn Uned 8, Stad Ddiwydiannol Pont-y-pŵl, Panteg Way, Y Dafarn Newydd, NP4 OLS
9:30am – 4:30pm - Dydd Llun – Dydd Sul
Eitemau trydanol, dodrefn pren, addurniadau i’r ardd, bric a brac, eitemau wedi eu hachub, beiciau, offerynnau cerddorol, teganau ac offer chwaraeon.
Ydym. Mae Wastesavers yn aml yn derbyn gwirfoddolwyr; byddwn yn darparu hyfforddiant a threuliau.
Dylai’r rhan fwyaf o’r eitemau ar werth gostio ond ychydig o bunnau.
Caiff y siop ei rhedeg gan Wastesavers mewn partneriaeth ag FCC Environment a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Gallwch, neu fel arall gellir mynd â nhw i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Tŷ yn y Dafarn Newydd. Siaradwch ag aelod staff os oes gennych eitem sy’n rhy dda i’w rhoi yn y sgip.
Ydyn, rydyn ni'n cymryd llyfrau os oes gennym ddigon o le i'w storio. Ond, os ydyn ni'n llawn, gallwch fynd â llyfrau i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref lle byddan nhw'n cael eu hanfon i Goldstone Books i'w gwerthu ymlaen. Gallwch brynu llyfrau ail-law gan Goldstone Books (yn agor mewn tab newydd).
Na, ni chaniateir hyn am resymau iechyd a diogelwch.
Ni allwn gymryd archebion am eitemau ond bydd staff y siop yn ceisio helpu.
Ni allwn gymryd archebion am eitemau ond bydd staff y siop yn ceisio helpu.
Gallwch, mae’r holl nwyddau yn rhai ail-law ac wedi eu defnyddio. Rydym yn argymell eich bod yn archwilio eitemau’n drylwyr cyn eu prynu. Dylid bod derbynneb gyda’r eitem.
Gallwch, mae mynedfa’r siop cyn y fynedfa i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Tŷ yn Panteg Way, y Dafarn Newydd.
Na, yn anffodus mae lle yn brin yn y siop ac felly gallwn ond derbyn eitemau dethol sydd wedi dod o’r ganolfan Ailgylchu Gwastraff Tŷ.
Mae ein siop ailddefnydd ar agor i bawb.
Gallent, mae’r siop ar agor i bawb.
Caniateir plant ond mae diogelwch yn flaenoriaeth i ni felly rhaid eu goruchwylio bob amser.
Oes, mae mynedfa i bobl anabl a lle parcio.
Yn anffodus, nid oes toiledau cyhoeddus ar y safle.
Derbynnir arian parod a’r holl brif gardiau credyd a debyd yn y siop.
Rydym yn gwneud ein gorau i bennu gwerth ar y farchnad trwy brofiad a chwiliadau rhyngrwyd.