Swyddi a Phrentisiaethau

Ymunwch â ni a chreu gyrfa rydych chi'n ei charu

Croeso i dudalennau recriwtio Cyngor Torfaen.

Fel Prif Weithredwr, rwy'n falch iawn o'ch cyflwyno i'r cyfleoedd sy'n eich disgwyl o fewn ein cyngor arloesol a bywiog.

Nid lle i weithio yn unig yw Torfaen; mae'n gymuned lle mae cyfraniad pob aelod yn cael ei werthfawrogi a lle mae ein hymdrechion ar y cyd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.

Ymfalchïwn yn y ffaith ein bod yn gyflogwr o ddewis, sy’n cynnig amgylchedd cefnogol a chynhwysol lle gall bawb ffynnu. Gyda chyflog cystadleuol, buddion rhagorol, ac opsiynau gweithio hyblyg, rydym yn sicrhau bod gan ein staff yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ragori yn broffesiynol ac yn bersonol.

Mae ymuno â Chyngor Torfaen yn golygu dod yn rhan o dîm sy'n ymroddedig i degwch, cefnogaeth, effeithiolrwydd ac arloesedd. Rydym wedi ymrwymo i feithrin talent a meithrin diwylliant o ddysgu a datblygu parhaus. Os ydych yn rhannu ein gwerthoedd ac yn chwilio am yrfa werth chweil sy'n creu effaith wirioneddol, rydym yn eich annog i bori drwy’r swyddi sydd ar gael gennym ac ystyried dod yn rhan o’n teulu yma yn Nhorfaen.

Stephen Vickers, Prif Weithredwr

Dod o hyd i'ch lle yn Nhîm Torfaen

Oedolion a Chymunedau

Mae'r Gyfarwyddiaeth Oedolion a Chymunedau yn atgyfnerthu'r rôl hanfodol y mae ein cymunedau yn ei chwarae wrth wella tegwch iechyd, lles unigol a natur fywiog ein lleoedd lleol
A member of staff working in a library scanning books

Plant a Theuluoedd

Mae'r Gyfarwyddiaeth Plant a Theuluoedd yn codi cyrhaeddiad addysg ac yn helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd i ffynnu
Catering staff holding plates with jacket potatoes covered in cheese and beans

Economi a'r Amgylchedd

Mae'r adran Cymdogaethau, Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd yn gweithio i ddarparu amgylchedd glân, gwyrdd a chynaliadwy i drigolion a busnesau yn Nhorfaen
A member of the recycling team emptying a blue bag into the recycling lorry

Adnoddau

Mae'r gyfarwyddiaeth Adnoddau yn canolbwyntio ar y gwaith o redeg y cyngor o ddydd i ddydd yn ogystal â'r gwasanaethau ariannol y mae'n eu darparu i drigolion
Leadership team meeting