Crëwyd y Gyfarwyddiaeth Plant a Theuluoedd i wella cyrhaeddiad addysg a helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd i ffynnu.

Jason O'Brien yw Cyfarwyddwr Strategol Plant a Theuluoedd.

Mae'r gwasanaeth wedi'i rannu'n ddwy adran:

  • Y Gwasanaeth Addysg
  • Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant

Y Gwasanaeth Addysg

Andrew Powles yw Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg ac mae'n gyfrifol am:

  • Gwasanaeth rheoli addysg sy’n cefnogi ysgolion
  • Y Gwasanaeth Lles Addysg
  • Y Ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Y Gwasanaeth Ieuenctid a Chwarae
  • Glanhau ac Arlwyo
  • Blynyddoedd Cynnar

Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant

Jacalyn Richards yw Pennaeth Gwasanaethau Plant ac mae'n gyfrifol am:

  • Tîm Gwaith Cymdeithasol Plant
  • Gwasanaethau mabwysiadu
  • Tîm gofal maeth
  • Gwasanaeth Cymorth Pobl Ifanc Torfaen

Galw Torfaen