Mae'r adran Economi a'r Amgylchedd yn gweithio i ddarparu amgylchedd glân, gwyrdd a chynaliadwy ac economi ffyniannus i breswylwyr a busnesau yn Nhorfaen. Ein staff medrus a phrofiadol yw asgwrn cefn ein gwasanaethau cyhoeddus yn y fwrdeistref.

Mark Thomas yw Cyfarwyddwr Strategol Dros Dro yr Economi a'r Amgylchedd.

Mae'r gwasanaeth wedi'i rannu i’r meysydd a ganlyn:

  • Gwastraff ac ailgylchu
  • Yr amgylchedd
  • Priffyrdd, newid yn yr hinsawdd ac ynni
  • Economi, asedau, eiddo ac adfywio
  • Cynllunio a datblygu
  • Diogelu'r cyhoedd

Mae gan Mark Thomas gyfrifoldeb strategol dros:

  • Gwastraff ac ailgylchu
  • Priffyrdd
  • Ymateb i newid yn yr hinsawdd

Gareth Beer yw Pennaeth yr Economi a Lle ac mae'n gyfrifol am:

  • Rheoli asedau
  • Cynllunio (rheoli datblygu a pholisi cynllunio)
  • Cynnal eiddo ac adeiladu
  • Adfywio
  • Datblygu economaidd strategol a chyllid allanol

Daniel Morelli yw Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd ac mae'n gyfrifol am:

  • Iechyd a diogelwch bwyd
  • Safonau Masnach
  • Tai, gorfodi materion llygredd a niwsans statudol ee sŵn
  • Trwyddedu
  • Pwysau a mesurau
  • Amgylchedd

Huw Roberts yw'r Prif Swyddog Cynllunio Statudol.

Cysylltu â ni

Dylid anfon gohebiaeth at:

Yr Adran Economi ac Amgylchedd
Y Ganolfan Ddinesig
Pont-y-pŵl
Torfaen
NP4 6YB

Galw Torfaen