Mae’r cyngor yn un o gyflogwyr mwyaf y fwrdeistref sirol, ac rydym bob amser yn chwilio am bobl dalentog a brwdfrydig i ymuno â’n tîm. P’un ai a oes gyda chi ddiddordeb mewn cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, cefnogi’n cymunedau, neu ddatblygu eich sgiliau a’ch gyrfa, mae gyda ni amrywiaeth o gyfleoedd i chi.
Ein gweledigaeth yw creu bwrdeistref sirol sy’n ffyniannus, yn iach ac yn wydn, ble mae pobl am fyw, gweithio ac ymweld â hi.
Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb, yn rhoi gwerth ar amrywiaeth, ac yn cynnig ymrwymiad i gefnogi ein gweithlu ac, yn fwyaf pwysig, eu lles. Mae gennym ddiwylliant cadarnhaol a chynhwysol, ble rydym yn parchu ein gilydd, yn dathlu ein llwyddiannau, ac yn dysgu o heriau. Rydym yn rhoi gwerth ar farn ein cyflogeion ac yn cynnig amgylchedd gwaith cefnogol ble gallwch ddysgu sgiliau newydd, cael cyfleoedd am swyddi a datblygu gyrfa cadarnhaol a gwerth chweil.
Chwilio am swydd (yn agor mewn tab newydd)
Cyflogau cystadleuol
Yma yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, mae cyflogeion yn cael eu talu am gyfrifoldebau eu swyddi o dan ein polisi gwerthuso swyddi. Rydym yn cynnig strwythur cyflog a graddio tryloyw sy’n cynnwys cynnydd cyflog pan fo’ch patrwm gwaith yn cynnwys gwaith gyda’r hwyr ac ar benwythnosau.
I gael mwy o wybodaeth gweler y Polisi Cyflogau (yn agor mewn tab newydd)

Hawl i wyliau hael
Lleiafswm hawl cyflogeion yw 24 diwrnod y flwyddyn, pro-rata i gyflogeion rhan amser. Ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth parhaus mewn llywodraeth leol, mae’r lleiafswm yn codi i 29 diwrnod y flwyddyn, ac ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth parhaus mewn llywodraeth leol, mae’r hawl yn codi i 32.
Mae hawl i 11 diwrnod o wyliau banc y flwyddyn.

Gweithio hyblyg
Mae’r cyngor wedi ymrwymo i gynnig amgylchedd cefnogol a hyblyg i’n staff. Rydym yn deall fod gan bobl wahanol anghenion a dewisiadau gwahanol, ac rydym am eich helpu i gael cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.
Gall trefniadau gweithio hyblyg gynnwys gweithio rhan amser, patrymau gwaith amrywiol, oriau cywasgedig etc..
Ble mae anghenion y gwasanaeth yn caniatáu hynny, mae gweithio hybrid a threfniadau hyblyg yn cynnig dewis i gyflogeion, gan eich helpu i gydbwyso ymrwymiadau gwaith a bywyd cartref.
Mae technoleg y cyngor yn eich galluogi chi i weithio o'r swyddfa neu gartref i gynyddu hyblygrwydd a lleihau amser a chostau teithio.

Polisïau cyfeillgar i deuluoedd
Mae gyda ni bolisïau amrywiol cyfeillgar i deuluoedd mewn grym ar gyfer:
- Mamolaeth ac Tadolaeth
- Mabwysiadu
- Absenoldeb Arbennig ac Ychwanegol
- Absenoldeb Rhieni

Cynlluniau pensiwn hael
Gall cyflogeion elwa o rai o’r cynlluniau pensiwn mwyaf hael a diogel yn y DU. Gan ddibynnu ar eich rôl, gallwch ymuno â naill ai’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (yn agor mewn tab newydd) neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon (yn agor mewn tab newydd).
Mae’r ddau gynllun yn cynnig rhyddhad o dreth ar y cyfraniadau yr ydych yn eu talu ac amrywiaeth o fuddion i chi a’ch dibynyddion.

Cynilion a benthyciadau gydag Undeb Credyd Gateway
Mae cynilo’n uniongyrchol o’ch cyflog yn ffordd hawdd a chyfleus i gynllunio talu am achlysuron arbennig, gwyliau, y Nadolig neu’n gyffredinol ar gyfer costau annisgwyl fel atgyweiriadau i gar. Cynilion i’r teulu i gyd gyda chyfrifon Cynilwyr Ifanc a Chronfeydd Ymddiriedolaeth Plant.
Benthyciadau am gost is am hyd at £10,000 gyda chyfraddau o 4.9% a chynigion a all fod yn well na’ch banc.
Mae cynilion a benthyciadau i gyd ar gael i’n cyflogeion i gyd.
Gwybodaeth bellach ar gael trwy www.gatewaycu.co.uk (yn agor mewn tab newydd)

Iechyd a lles
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi ymrwymo i iechyd a lles cyflogeion.
yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cefnogaeth gyda chyfleoedd am amrywiaeth o gyrsiau sy’n rhoi gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau iechyd a lles.

Cynlluniau buddion i staff ac aberthu cyflog
Mae ein cyflogeion i gyd yn elwa o raglen arbedion a buddion arbennig sy’n cynnig amrywiaeth wych o arbedion pob dydd ar 1000oedd o gynigion unigryw sydd ar gael ar-lein neu ar y stryd fawr, ledled y wlad ac yn ein hardal leol, gan gynnwys gostyngiadau ar nwyddau pob dydd, gwyliau, bwyta allan, DIY, offer trydanol, yswiriant, moduro a mwy.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gynlluniau aberthu cyflog, gan gynnwys Beicio i’r Gwaith a Buddion Car.
Mae aelodaeth o Halo Leisure ar gael i bob un o gyflogeion Cyngor Torfaen. Mae’r pecyn yn llawn dop gydag amrywiaeth o weithgareddau sy’n addas ar gyfer bywyd prysur gyda mynediad ar unrhyw adeg i’w campfeydd, nofio, dosbarthiadau ymarfer corff mewn grŵp, trac rhedeg ac ystafelloedd iechyd.
Gall cyflogeion Cyngor Torfaen elwa o gost aelodaeth gorfforaethol yng Nghlwb Iechyd Nuffield yng Nghwmbrân.

Cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad
Yn Nhorfaen rydym wedi buddsoddi mewn pobl a’u dyfodol. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu, yn fewnol ac yn allanol a mynediad at gymwysterau.
Rydym yn cefnogi ac yn annog pob cyflogai i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u profiad.
Mae ein Rhaglen Datblygu Gyrfa (yn agor mewn tab newydd) wedi cael ei datblygu ar gyfer ein gweithlu presennol ac yn y dyfodol. Mae’n gynhwysol ac mae’n cefnogi pobl i gyrraedd eu potensial llawn

Costau teithio
Cyfradd teithio busnes y cyngor yw 45c y milltir yn unol â chyfradd gymeradwy CThEF.