Mae tua thraean o allyriadau carbon y DU yn cael eu cynhyrchu gan gartrefi.
Bydd lleihau’r ynni yr ydych yn ei ddefnyddio yn lleihau eich ôl-troed carbon a'ch biliau ynni. Mae cynyddu ailgylchu hefyd yn cyfrannu at leihau allyriadau o gartrefi.
Cymorth Grant
Mae nifer o grantiau ar gael i helpu aelwydydd i ddefnyddio mesurau effeithlonrwydd ynni os ydynt yn derbyn budd-daliadau penodol, ar incwm isel neu os oes ganddynt gyflyrau iechyd perthnasol.
Mae'r rhain yn cynnwys ECOFlex, Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr a chynllun Nyth Llywodraeth Cymru. I gael gwybod a ydych yn gymwys i gael cymorth, cysylltwch ar Tîm Rheoli Ynni.
Lleihau ynni yn y cartref
Gall ein tîm ynni roi cyngor ar leihau’r ynni yr ydych yn ei ddefnyddio a newid i ynni adnewyddadwy.
Gallwch hefyd gael cyngor gan Gweithredu ar Hinsawdd Cymru (yn agor mewn tab newydd) a'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (yn agor mewn tab newydd)
I gael help gyda chostau os hoffech sicrhau bod eich cartref yn defnyddio ynni yn fwy effeithlon, ewch i'n tudalen cymorth costau byw.
Gall defnyddio llai o ddŵr - yn enwedig dŵr poeth – hefyd leihau allyriadau. I gael awgrymiadau, ewch i Dŵr Cymru Welsh Water (yn agor mewn tab newydd)
Newid i ynni adnewyddadwy
Mae cyngor am bympiau gwres, paneli solar a boeleri biomas ar wefan Gweithredu ar Hinsawdd Cymru (yn agor mewn tab newydd).
Mae Cynllun Cartrefi Clyd - Nyth (yn agor mewn tab newydd) yn rhoi cyngor am ddim ar well ynni yn y cartref, yn cynnwys ynni adnewyddadwy.
Mae cynllun uwchraddio boeleri Llywodraeth y DU (yn agor mewn tab newydd) yn cynnig cymorth ariannol tuag at uwchraddio boeleri i bwmp gwres neu foeler biomas.