Cyfraddau ailgylchu gwastraff bwyd yn dal i godi

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 26 Mawrth 2026
kuwtj-eng_original

Mae cyfraddau ailgylchu ar draws y Fwrdeistref yn codi o hyd diolch i’r trigolion sydd wedi  cymryd rhan yn ymgyrch Cystadlu â’ch Cymdogion y Cyngor.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod ailgylchu gwastraff bwyd wedi cynyddu 12 y cant ym mis Chwefror 2026 ac ailgylchu arall wrth ymyl y palmant wedi codi 13 y cant, o gymharu â mis Chwefror 2025. Gwelwyd gostyngiad o 0.8 y cant yn y sbwriel yn y biniau â chlawr porffor yn ystod yr un cyfnod.

Ers mis Medi 2025, mae swyddogion addysg a gorfodi ailgylchu'r Cyngor wedi bod yn ymweld ag aelwydydd, yn cyflwyno llyfrynnau gwybodaeth Cystadlu â’ch Cymdogion ac yn cynnig cyngor i helpu trigolion i leihau’r gwastraff yn y biniau porffor.

Mae mwyafrif y trigolion y siaradwyd â nhw naill ai’n defnyddio'r gwasanaeth ailgylchu wrth ymyl y palmant yn llawn neu wedi cymryd camau cadarnhaol i ailgylchu mwy.

Fodd bynnag, cymerwyd camau gorfodi yn erbyn nifer fach o aelwydydd sydd wedi parhau i roi gormod o sbwriel ar gyfer y bin â chlawr porffor allan.

Ers mis Hydref 2025, mae swyddogion wedi cyhoeddi:

  • Dros 500 o lythyrau rhybudd Cam 1
  • 29 Hysbysiad Adran 26 (ail lythyr rhybudd)
  • 2 Hysbysiad Cosb Benodedig o £100

Gallwch ddarllen am Bolisi Addysg a Gorfodi Gwastraffy Cyngor ar ein gwefan.

Darganfyddwch beth allwch chi ei ailgylchu ar stepen eich drws

Am awgrymiadau ynghylch ailgylchu gwastraff bwyd, dilynwch #ByddWychAilgylcha ar y cyfryngau cymdeithasol.

Angen bocsys neu fagiau ailgylchu ychwanegol? Dewch o hyd i'ch hwb ailgylchu agosaf

Mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor saith niwrnod yr wythnos.

Atgoffwn unrhyw un sy’n ymweld â’r Ganolfan i ddod ag ID gyda nhw, ac i sicrhau eu bod wedi gwahanu eu deunydd i’w ailgylchu a'u sbwriel cyn cyrraedd.

Diwygiwyd Diwethaf: 26/03/2026 Nôl i’r Brig