Gwirfoddolwyr yn taclo sbwriel

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 26 Mawrth 2026
final spring clean

Caniau, plastig, sgwter ac olwyn feic... dim ond ambell un o'r eitemau o sbwriel a godwyd yn rhan o ymgyrch Gwanwyn Glân flynyddol Torfaen.

Casglwyd dros 100 o fagiau o sbwriel o bum ardal lle mae sbwriel yn bla, eleni, yn rhan o'r gwaith glanhau, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Cadwch Gymru'n Daclus.

Cynhaliwyd ymgyrch gasglu sbwriel Gwanwyn Glân Torfaen ym Mhentre’ Uchaf, Llyn Cychod Cwmbrân, Cold Barn Farm, Llynnoedd y Garn a Phont-y-pŵl. Roedd pob lleoliad yn addas i wirfoddolwyr ag anawsterau symudedd.

Meddai Daniel Hodson, Rheolwr Polisi a Phartneriaethau Tirwedd a Hamdden: "Diolch i bawb a gymerodd yr amser i wirfoddoli a glanhau ardaloedd lle mae sbwriel yn bla, yn rhan o ymgyrch Gwanwyn Glân Torfaen eleni.

"Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar i'r unigolion a’r grwpiau cymunedol niferus sy'n codi sbwriel trwy gydol y flwyddyn – rydyn ni’n gwerthfawrogi eich gwaith caled parhaus yn fawr iawn.

"Mae sbwriel yn salw ac yn frwnt, a gall hefyd fod yn beryglus iawn i anifeiliaid. Does dim rheswm dros ollwng sbwriel, yn enwedig gyda mwy na 700 o finiau ar gael ar draws y Fwrdeistref.

"Yn rhan o Fargen Torfaen, rydyn ni’n bob amser yn hapus i gefnogi trigolion a grwpiau sy'n dymuno casglu sbwriel, gan gynnwys cynnig cyngor ac arweiniad am fenthyg offer. Os yw hyn yn rhywbeth yr hoffech chi neu'ch grŵp ei wneud, cysylltwch â ni.".

Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli amgylcheddol, ymunwch â'n grŵp Facebook arbennig neu ewch i Cysylltu Torfaen.

Os hoffech gynnal eich ymgyrch codi sbwriel eich hun, gallwch gasglu offer am ddim o un o Hybiau Codi Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus.

Os ydych chi'n rhedeg busnes neu'n gweithio i fusnes a hoffai ddod yn Ardal Ddi-sbwriel, ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus.

Mae'r prosiect hwn yn cyfrannu at amcanion llesiant y Cyngor i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur trwy weithio tuag at gyflawni'r Cynllun Gweithredu Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon. Cewch ragor o wybodaeth am Gynllun Sirol y Cyngor yma. 

Diwygiwyd Diwethaf: 26/03/2026 Nôl i’r Brig