Rydym yn gweithio gyda Chadwch Gymru’n Daclus i gefnogi hybiau codi sbwriel a chefnogi busnesau a sefydliadau i sefydlu Ardaloedd Di-Sbwriel.

Gall grwpiau codi sbwriel neu wirfoddolwyr unigol gael benthyg offer am ddim, gan gynnwys codwyr sbwriel, cylchoedd, sachau a siacedi high-vis, o’r mannau canlynol:

  • Cyngor Tref Blaenafon
  • Circulate Furniture Recycling, Blaenafon
  • Coedwedd Community Hub, Garndiffaith
  • Fferm Ysgubor Oer, Trefddyn
  • Partneriaeth Costar, Y Ddôl Werdd
  • Cyngor Cymuned Cwmbrân, Ventnor Road, Cwmbrân
  • Marchnad Pont-y-pŵl
  • Caffi’r Tŷ Cychod, Llyn Cychod Cwmbrân
  • Canolfan Gymunedol Bryn Eithin, Cwmbrân
Dweud am godi sbwriel cymunedol (ar gyfer casglu bagiau) (yn agor mewn tab newydd)

Mae’n help os gallwch chi gasglu eitemau y mae modd eu hailgylchu ar wahân i sbwriel cyffredinol.

I awgrymu mannau eraill ar gyfer hybiau codi sbwriel, cysylltwch â’n swyddog atal sbwriel a thipio, Oliver James trwy oliver.james@torfaen.gov.uk

Ardaloedd Di-Sbwriel

Rydym yn gweithio gyda Chadwch Gymru’n Daclus i helpu busnesau a sefydliadau i fod yn Ardaloedd Di-Sbwriel.

Mae sefydlu Ardal Ddi-Sbwriel yn wych i’ch cymuned leol, natur a bywyd gwyllt.

Gall hefyd wella ymddangosiad eich adeilad; dangos i’ch cwsmeriaid a chymdogion eich bod yn sefydliad cyfrifol a helpu i ddod â staff a thimau at ei gilydd.

Y Parthau Di-sbwriel yn Nhorfaen yw:

  • Parth Dysgu Torfaen
  • Fox Moving and Storage
  • Safran
  • Crane Saunders
  • Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Gwent

Cofrestrwch fel Ardal Di-Sbwriel (yn agor mewn tab newydd)

Dysgwch ble mae’r ardaloedd di-sbwriel (yn agor mewn tab newydd)