Mae gan y cyngor rym i roi dirwyon o £100 yn y fan a’r lle i unrhyw un sy’n cael eu dal yn gollwng sbwriel. Mae hyn yn cynnwys sigarennau a phethau fel gweddillion afal a chroen banana. Gall rhai pethau gymryd cannoedd o flynyddoedd i ddadelfennu.
Dysgwch sut yr ydym yn ceisio taclo sbwriel yn Nhorfaen
Beth mae’r cyngor yn ei wneud?
- Gwacau 700 o finiau sbwriel bob wythnos
- Glanhau canolfannau siopa lloeren bob dydd
- Glanhau bob stryd unwaith bob pythefnos
- Gweithio gyda Chadwch Gymru’n Daclus i ddarparu hybiau casglu sbwriel cymunedol
- Gweithio gyda Chadwch Gymru’n Daclus i greu Parthau Di-sbwriel o amgylch ysgolion neu fusnesau
- Cefnogi grwpiau gwirfoddol sy’n casgli sbwriel
Beth allwch chi wneud?
- Codwch sbwriel fed pecynnau creision neu ganiau diodydd a’u rhoi yn y bin sbwriel agosaf.
- Gwirfoddolwch i fod yn godwr sbwriel
- Dywedwch am drolïau wedi eu gadael trwy wefan TrolleyWise (yn agor mewn tab newydd)