Mae’r Cynllun Sirol yn amlygu uchelgeisiau’r Cyngor rhwng 2022 a 2027. Mae’n gosod gerbron hefyd y gweithgareddau cyflenwi allweddol ar gyfer pob blwyddyn a fydd yn helpu timau a gwasanaethau i gyrraedd yr uchelgeisiau yma.
Mae’r cynllun wedi ei ysbrydoli gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’i fwriad yw gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Torfaen.
Mae’n nodi pedwar thema allweddol sy’n sail i naw blaenoriaeth allweddol.
Y themâu yw: lles, cysylltedd, cynaliadwyedd a diwylliant a threftadaeth.
Gallwch ddarllen y blaenoriaethau allweddol – neu’r amcanion lles – yn llawn isod.
Cynllun Sirol 2022 - 2027
Y Lle
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yw’r drydedd fwrdeistref leiaf yng Nghymru ac mae’n gorwedd ychydig i’r gogledd o goridor yr M4. Mae’n ffinio â Sir Fynwy, Casnewydd, Caerffili a Blaenau Gwent. Yn ogystal, Torfaen yw’r drydedd ardal awdurdod lleol dwysaf ei phoblogaeth yng Nghymru ac mae ganddi boblogaeth o dros 91,000 o bobl a 18 Ward Etholiadol a gynrychiolir gan 40 o gynghorwyr. Mae’n gwm amrywiol ei natur sydd 12 milltir o hyd ac yn ymestyn o Flaenafon yn y gogledd i Gwmbrân yn y de. Fel cymoedd eraill Cymru, mae gan yr ardal dreftadaeth haearn, dur a glo bwysig.
Sefydlwyd Blaenafon er mwyn ymelwa ar yr adnoddau glo a haearn yn yr ardal. Â hithau yn amgylchedd dramatig sy’n gyfoeth o asedau diwylliannol a hanesyddol ac yn llawn amrywiaeth ecolegol, arysgrifiodd UNESCO y dirwedd ddiwylliannol o amgylch Blaenafon ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd yn 2000. Mae’n un o bedwar Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru a chydnabu UNESCO fod Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn un o’r ardaloedd gorau yn y byd lle mae modd astudio proses gymdeithasol, economaidd a thechnolegol gyflawn diwydiannaeth trwy gynhyrchu haearn a glo, a deall y broses honno.
Mae’r ardal yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ac mae ganddi lawer o nodweddion treftadaeth pwysig sy’n gysylltiedig â’i gorffennol diwydiannol. Erbyn hyn, mae’r dref yn enwog oherwydd Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, ei gwaith haearn o’r 18fed ganrif, Rheilffordd Dreftadaeth Blaenafon, Neuadd y Gweithwyr a Chanolfan Treftadaeth y Byd. Oherwydd ei hamgylchedd naturiol dramatig, a’r ffaith ei bod yn agos at Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae hefyd yn denu llawer o gerddwyr, beicwyr a phobl sydd wrth eu bodd yn yr awyr agored.
Mae Pont-y-pŵl yng nghanol Torfaen ac fe’i hadeiladwyd o amgylch cyfoeth diwydiannol. Honnir yn gadarn mai hon yw’r ‘dref ddiwydiannol’ gyntaf yng Nghymru. Roedd ffwrneisi haearn a gefeiliau ar waith mor gynnar â’r 1400au. Rhwng y 1700au a’r 1900au roedd yr ardal yn ffynnu fel canolfan bwysig ar gyfer haearn a llestri Japan wedi’u tunplatio, a datblygodd tref farchnad a oedd yn haid o weithgarwch. Mae gan y dref gysylltiadau cryf â theulu’r Hanbury, ac mae’r cysylltiadau hynny’n dal i fodoli heddiw. Yn y 19eg ganrif roedd teulu’r Hanbury yn gyfrifol am greu mwyafrif adeiladau dinesig a chrefyddol pwysig y dref, yn ogystal â Pharc Pont-y-pŵl.
Erbyn heddiw, mae Pont-y-pŵl yn adnabyddus am ei threftadaeth bensaernïol nodedig, ei pharc a’i gerddi Eidalaidd rhestredig, ei marchnad Fictoraidd ac ymdeimlad cryf o ysbryd cymunedol. Yng nghanol y dref ceir siopau, swyddi a chyfleoedd niferus ar gyfer hamdden ac ymarfer corff awyr agored a dan do, ac mae Canolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl a Chanolfan Sgïo Pont-y-pŵl ym Mharc Pont-y-pŵl.
Gall cerddwyr ddewis crwydro ar hyd yr Afon Lwyd, archwilio tirweddau’r ucheldir ac ymweld â’r Ffoledd neu’r Groto Cregyn, neu ymlacio yn heddwch Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Mae basn y gamlas ym Mhont-y-moel yn fan cychwyn rhagorol os am archwilio ar hyd y llwybr tynnu . Mae cronlyn Llandegfedd yn igam-ogamu i’r naill ochr a’r llall o ffin Torfaen a Sir Fynwy ac yn lleoliad gwych ar gyfer chwaraeon dŵr, gwylio adar, pysgota a cherdded.
Mae Cwmbrân wedi’i lleoli o amgylch rhwydwaith o bentrefi hŷn ac fe’i dynodwyd yn Dref Newydd gyntaf Cymru yn 1949. Cafodd ei dylunio fel tref nodedig a modern a fyddai’n cynnig cyfleoedd newydd i’w thrigolion. Mae tirwedd Cwmbrân yn wahanol i Flaenafon neu Bont-y-pŵl ac mae’r dref yn swatio rhwng cefndir trawiadol maes glo de Cymru a dyffryn Wysg.
Siopa Cwmbrân Shopping yw’r brif ganolfan siopa ac mae’n denu ymwelwyr o agos ac ymhell. Gyda’i orsaf fysiau a threnau, canol y dref yw prif ganolfan drafnidiaeth gyhoeddus Torfaen. Er bod llawer wedi ei gywasgu i mewn i ardal fechan, mae gan Gwmbrân ddewis helaeth o wasanaethau, o’r ardal siopa wedi’i phedestreiddio i gyfleoedd hamdden, theatr a chelfyddydau. Heddiw, mae Cwmbrân yn dal i fod yn lle poblogaidd i fyw. Mae canol y dref yn llwyddiannus, mae ganddi gysylltiadau rhagorol o ran ffyrdd a thrafnidiaeth, amgylchedd naturiol o ansawdd uchel a dewis amrywiol o swyddi. Gallwch hefyd ymweld â Fferm Gymunedol Greenmeadow, sy’n atyniad poblogaidd, a mwynhau milltiroedd o fannau gwyrdd agored sy’n dilyn llif yr Afon Lwyd ac yn arwain at y llyn cychod.
Y Cyngor
Sefydlwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar 1 Ebrill 1996. Gwerthoedd y cyngor yw bod yn Deg, yn Effeithiol, yn Arloesol ac yn Gefnogol.
Mae’r Cynllun Sirol yn ddogfen strategol allweddol a fydd yn arwain y ffordd y bydd Cyngor Torfaen yn darparu ei wasanaethau dros y pum mlynedd nesaf. Bydd y Cynllun Sirol yn sicrhau bod adnoddau’r cyngor yn canolbwyntio ar weithio gyda chymunedau i greu dyfodol gwell i bobl Torfaen; dyfodol sy’n fwy cyfartal a chynaliadwy.
Mae’n cyflwyno’r Amcanion Llesiant a fydd, ym marn y cyngor, yn creu dyfodol tecach lle mae pob un yn cael cyfle i fyw bywyd iach, annibynnol, waeth pwy ydynt a ble y maent yn byw, lle mae pobl yn cyflawni’r canlyniadau gorau posibl mewn bywyd a phawb yn cyfrannu at greu cymunedau glanach a chryfach.
Mae’r blaenoriaethau hyn yn cydnabod yr heriau y mae trigolion Torfaen yn eu hwynebu yn sgil y straen ar gyllidebau, y cynnydd mewn anghydraddoldebau mewn canlyniadau iechyd a’r cynnydd yn y galw am wasanaethau.
Mae’r Cynllun Sirol hwn yn amlygu’r uchelgeisiau ar gyfer 2022-27 ac yn cyflwyno’r prif weithgareddau sydd wedi eu cynllunio ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23 er mwyn ein helpu i wireddu ein huchelgeisiau mwy hirdymor.
Datblygwyd y cynllun hwn ar sail ymrwymiadau a gyrwyr allweddol blaenorol gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, er mwyn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Torfaen trwy geisio sicrhau bod ‘anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau’.
Yn sgil pandemig Covid a’r argyfwng costau byw sydd ar ein gwarthaf, cafwyd atgof pwerus o bwysigrwydd gwasanaethau llinell-flaen a rôl ganolog y cyngor wrth gefnogi cymunedau. Roedd hefyd yn gadarnhad o bŵer cydweithio wrth roi sylw i faterion pwysig a gwella bywydau pobl.
Sylweddolwn beth yw maint yr her - wrth i ni golli cyllid wrth y llywodraeth, wynebu costau cynyddol a gweld newidiadau yn y galw, mae gennym ddewisiadau anodd i'w gwneud wrth i ni benderfynu ble i ffocysu ein hadnoddau. Mae ein gwasanaethau bobdydd yn bwysig er mwyn sicrhau y gall ein trigolion fwrw ymlaen â’u bywydau bobdydd, er mwyn i fusnesau ffynnu, ac er mwyn cefnogi pobl ar gyfnodau gwahanol yn eu bywydau.
Mae ffocws ein cynllun cyflawni ar ymrwymiadau y tu hwnt i’n gwasanaethau bob-dydd, er mwyn dangos sut y bydd y cyngor yn symud ei flaenoriaethau yn eu blaen wrth wireddu ein gweledigaeth, sef…
Gwella cynaliadwyedd, cysylltedd a llesiant ein sir, drwy atgyfnerthu ein cymunedau, trwy greu economi leol ffyniannus a thrwy amddiffyn a gwella ein hamgylchedd
Anthony Hunt
Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Cyflwyna ein Cynllun Sirol ein huchelgais a’n dyhead dros Dorfaen, a sut y byddwn yn gwneud pethau’n wahanol wrth ymateb i’r anghenion, yr heriau a’r cyfleodd, ar gyfer ein trigolion a’n cymunedau.
Nid glasbrint ar gyfer ein gwaith yw’r Cynllun Sirol. Yn hytrach, mae’n fframwaith, ac o fewn y fframwaith hwn gallwn annog newid, cyfeirio newid ac ymateb i newid. Adolygir y cynllun yn rheolaidd ac wrth i gynlluniau a phrosiectau ddatblygu byddant yn dod yn rhan o gynllun cyflawni blynyddol sy’n rhoi ein huchelgais ar waith.
Mae’r dull gweithredu hwn yn bwysig er mwyn sicrhau bod y cynllun yn un parhaus ac ystwyth ac er mwyn sicrhau bod modd ymateb i fentrau, heriau a chyfleoedd newydd trwy gydol oes y cynllun. Er enghraifft, sefydlu egwyddorion Marmot sy’n rhoi sylw i lesiant ac annhegwch ac yn cyd-fynd â’n 9 amcan llesiant.
Wrth galon ein cynllun mae yna bedair thema ganolog a fydd yn arwain y ffordd y byddwn yn llunio polisïau ac yn cynllunio gwasanaethau dros y blynyddoedd nesaf. Dyma yw’r themâu hynny: Cysylltedd Llesiant, Cynaliadwyedd a Diwylliant a Threftadaeth. Bydd y themâu hyn yn ein helpu i sicrhau bod ein penderfyniadau a’n gwaith cynllunio yn canolbwyntio ar y darlun mawr a’r weledigaeth ar gyfer y Sir.
Mae cysylltiadau gwell yn golygu mwy na’r seilwaith ffisegol neu ddigidol. Mae’n golygu cysylltu pobl a’u cymuned, a galluogi pobl i deimlo eu bod yn perthyn er mwyn iddynt allu mwynhau’r dewis o weithgareddau, gwasanaethau a chymorth sydd ar gael, pan fydd arnynt eu hangen.
Ein dymuniad yw bod pob plentyn ac unigolyn ifanc yn cael dechrau gwych mewn bywyd a’u bod yn iach, yn ddiogel ac yn llawn ysbrydoliaeth i fod y gorau y gallant fod. Rydym yn cydnabod y gall bywyd fod yn arbennig o anodd i rai plant a phobl ifanc, ac rydym yn benderfynol o roi sylw i’r anghydraddoldebau sy’n gosod y plant a’r bobl ifanc hyn dan anfantais. Dymunwn i’n bobl ifanc fod yn falch o gael eu magu yn Nhorfaen ac i deimlo y gallant adeiladu eu bywydau yma, ac er mwyn gwneud hyn mae arnom angen darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu rhagorol, cyfleoedd gwych am swyddi a chartrefi y gall pobl ifanc fforddio eu prynu neu rentu.
Dymunwn greu economi ffyniannus a datgloi potensial y sir fel lle unigryw ac arbennig i ymweld ag ef, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. Gall Torfaen gynnig cyfuniad unigryw o dreftadaeth, tirweddau garw, mannau cyhoeddus o ansawdd uchel, atyniadau hamdden modern, profiad siopa amrywiol a datblygiadau newydd ym maes diwylliant a’r celfyddydau.
Dymunwn ddatblygu’r amgylchedd a’r seilwaith sy’n gymorth i’r sir ymateb i heriau newid hinsawdd ac iechyd cyhoeddus. Sir wyrddach sy’n gynaliadwy, a chanddi ddewisiadau gwell ar gyfer cerdded a beicio a chysylltiadau trafnidiaeth da, er mwyn annog ffyrdd o fynd o le i le sy’n llesol i iechyd pobl ac yn well i’r amgylchedd.
Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gyda chynghorau tref a chymuned, partneriaid cymunedol, mentrau preifat a’n partneriaid yn y sector cyhoeddus. Rydym yn cydnabod mai’r unig ffordd o wireddu ein huchelgais yw trwy gydweithio’n effeithiol.
Rhaid i’r cyngor hefyd gynnal ei gadernid ariannol er mwyn ein galluogi i barhau i wasanaethu pobl Torfaen. Rhaid i ni fuddsoddi’n ddoeth yn y sir a pharhau i ddarparu’r gwasanaethau y mae ar ein trigolion eu hangen.
Bydd hyn yn parhau i fod yn flaenllaw yn ein ffordd o feddwl. Cyflwynir ein huchelgeisiau yn y cynllun hwn, ac er mwyn eu gwireddu rhaid i ni adeiladu ar gryfderau ein pobl, ein llefydd a’n gorffennol a chofleidio’r dyfodol ar yr un pryd, er mwyn creu sir sydd wedi’i chysylltu’n well ymhob ffordd.
Mewn cenedl lle mae yna gystadleuaeth rhwng y rhanbarthau, mae ar Dorfaen angen sefyll allan a bod yn barod i ddenu buddsoddiad o’r tu allan sydd o fudd i’n holl drigolion ac yn sicrhau bod Torfaen yn parhau i fod yn lle gwych i fyw, i ymweld, i weithio, i ddysgu ac i drafod busnes.
Stephen Vickers
Prif Swyddog Gweithredol
Llesiant
Mae angen i ganlyniadau i ddysgwyr yn Nhorfaen wella ymhob un o ysgolion y cyngor. Wrth i’r cyngor ymateb i'w arolygiad gan Estyn, mae’n datblygu systemau hunanarfarnu cadarn i sicrhau y gall gynllunio a chanolbwyntio ei waith yn well ar feysydd gwaith allweddol, a hynny gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA). Bydd hyn yn cefnogi pob ysgol i wella ansawdd ei harweinyddiaeth a'i haddysgu i gael canlyniadau gwell i bob dysgwr.
Bydd y Cwricwlwm i Gymru newydd hefyd yn cael ei gyflwyno yn ein holl ysgolion cynradd a rhai o'n hysgolion uwchradd o fis Medi 2022. Bydd ysgolion yn symud i ffwrdd oddi wrth Gwricwlwm Cenedlaethol rhagnodedig, ac yn symud at fframwaith eang sy'n eu galluogi i ddylunio cwricwlwm eu hysgolion. Dyma un o'r newidiadau mwyaf ym myd addysg ers cenhedlaeth.
Rhaid i’r cyngor ymateb i'r nifer cynyddol o ddysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) cymhleth. Dros y pum mlynedd ddiwethaf rydym wedi parhau i weld cynnydd graddol yn niferoedd y dysgwyr ag anghenion lluosog a chymhleth. Rydym yn ehangu ysgol Crownbridge a bydd yn parhau i weithio gydag ysgolion i ddeall a chynllunio'r ffordd orau o ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADY mewn ysgolion prif ffrwd, canolfannau adnoddau arbenigol ac yn Crownbridge yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Yn rhan o'r uchelgais genedlaethol i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’r sir yn wynebu rhai heriau sylweddol wrth ddatblygu siaradwyr Cymraeg mewn ardal lle mae nifer y siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd yn isel. Mae’r cyngor yn wynebu rhai heriau gwirioneddol hefyd o ran recriwtio staff i'w leoliadau addysg.
Mae cynllun y cyngor yn amlinellu sut y bydd yn creu darpariaeth ychwanegol ar gyfer Gofal Plant y Blynyddoedd Cynnar, gan ymestyn y cyfleoedd ar gyfer addysg yn y Gymraeg, a sut y bydd yn creu cyfleoedd i ddysgwyr "ymdrochi" fel y gallant ymuno ag ysgol gyfrwng Cymraeg yn ddiweddarach ar eu siwrnai addysgol ac yn gwella ansawdd ein hysgolion Cymraeg.
Mae anghenion y cwricwlwm a dysgwyr wedi’u gweddnewid dros y 40 mlynedd ddiwethaf ac maent yn parhau i esblygu. Cynlluniwyd y rhan fwyaf o adeiladau ysgolion y cyngor ar gyfer oes a oedd yn bodoli cyn y rhyngrwyd, pan oedd dulliau addysgu yn canolbwyntio i raddau helaeth ar addysgu dosbarth cyfan. Mae gofynion y cwricwlwm modern, a'r dulliau addysgu modern, yn golygu bod yn rhaid i nifer o athrawon ddod o hyd i ffyrdd o oresgyn y diffygion sydd ynghlwm ag adeiladau ein hysgolion. Yn sgil rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y cyngor mae wedi creu nifer sylweddol o ysgolion newydd a chymryd camau i adnewyddu ysgolion i fynd i'r afael â hyn, ac mae llawer mwy i'w gyflawni o hyd.
Mae yna amrywiaeth o heriau ar draws y gwasanaethau gofal cymdeithasol sy'n ymwneud â'r galw cyffredinol am wasanaethau statudol a’r disgwyl i wasanaethau statudol ddiwallu lefel y galw yn sgil hynny. Yn sgil yr her hon mae angen parhau i ganolbwyntio ar ddatblygu a darparu gwasanaethau sy’n anelu at atal sefyllfaoedd rhag dwysau i mewn i’r gwasanaethau a thrwyddynt.
Mae ffocws parhaus ar leihau'r galw am Ofal Cymdeithasol i Blant a Theuluoedd a hynny mewn modd diogel, drwy gydnabod a datblygu cryfderau cymunedol, y teulu ac unigolion. Wrth leihau lefel y galw am y gwasanaeth, gall y cyngor symud mwy o adnoddau a’u targedu at ddatblygu ac ehangu ei gynnig lleol a sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu targedu’n fwy effeithiol ac effeithlon at y rhai sydd angen gwasanaethau statudol.
Mae galw mawr am Ofal Cymdeithasol i Oedolion, yn enwedig yn ganlyniad i bandemig COVID-19 a'r sgil-effaith o fewn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gwaith y cyngor yn pwysleisio pwysigrwydd gwybodaeth, cyngor a chymorth a dangos y ffordd yn briodol, er mwyn sicrhau nad yw trigolion yn cael eu tynnu i mewn i system a gwasanaeth pan fyddai cymorth anstatudol amgen yn eu galluogi i gynnal eu hannibyniaeth a byw'r bywyd y maen nhw eisiau ei fyw.
Er mwyn rhoi sylw i’r heriau, mae’r cyngor yn cydnabod bod angen ymestyn y ddarpariaeth Ymyrryd yn Gynnar ac Atal a datblygu darpariaeth gymunedol sy’n golygu bod modd cynnig gwell datrysiad yn y gymuned. Bydd hyn yn galluogi’r cyngor i ddefnyddio’i adnoddau a’i wasanaethau statudol i fodloni anghenion y rheiny sydd â’r angen mwyaf am gymorth.
Cynaliadwyedd
Mae galw mawr am dai fforddiadwy, o ansawdd da, nid yn unig yn Nhorfaen ond hefyd ledled Cymru a'r DU. Mae prisiau prynu a rhentu tai a ar eu lefel uchaf erioed, ac mae hyn yn effeithio ar yr hyn sydd ar gael i'r cyhoedd, yn enwedig gan ein bod yn wynebu argyfwng costau byw ar hyn o bryd.
Mae hyn hefyd yn effeithio ar ddigartrefedd gan nad yw aelwydydd yn gallu cael mynediad at dai fforddiadwy. Mae’r cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i ymateb ar ffurf gweithgarwch atal digartrefedd, ond mae hefyd yn gweithio gyda'i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddod â thai newydd a thai sydd eisoes yn bodoli, i'r blaen, cyn gynted â phosibl.
Mae balchder a hyder ein trigolion yn eu sir yn aml yn seiliedig ar y ffordd y maen nhw'n gweld eu hamgylchedd lleol - sef ble maen nhw'n byw, ble maen nhw'n gweithio a ble maen nhw'n mynd ar gyfer hamdden a siopa.
Mae’r cyngor am i'w drefi, ei strydoedd a'i amgylchedd naturiol fod yn hardd, yn ddeniadol, yn lân ac yn gynaliadwy. Yn rhy aml o lawer mae'r balchder aruthrol mewn cymunedau lleol yn cael ei niweidio gan y lleiafrif. Er nad ydym yn wahanol iawn i'r ardaloedd cyfagos, rydym yn gweld gormod o sbwriel, mae gennym ormod o dipio anghyfreithlon ac mae’r cyngor am weithio mewn partneriaeth â'n cymunedau i ddileu'r ymddygiad hwn er lles pawb.
Mae cynnal mannau gwyrdd a naturiol yn ogystal â’n ffyrdd a'n palmentydd, a buddsoddi ynddynt, er mwyn hyrwyddo teithio llesol, sicrhau bod ein cymunedau yn eu defnyddio, hwyluso cysylltedd rhwng trigolion a chymunedau, a helpu pobl i gael hyd i gyfleoedd hamdden a swyddi, yn hanfodol er mwyn cyflawni nodau'r cynllun hwn.
Drwy weithio gyda chymunedau a hefyd gyda rhaglenni cenedlaethol, rhaid i’r cyngor fod yn arweinydd cymunedol a rhaid iddo hwyluso newid system-gyfan at garbon sero net er mwyn sicrhau y diogelir yr amgylchedd a llesiant cenedlaethau sydd i ddod.
Mae cynyddu cyfraddau ailgylchu a chompostio yn un ffordd y gall bob un o’n trigolion fyw bywyd sy’n fwy cynaliadwy. Mae gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru ailgylchu a chompostio 70% erbyn 2024/25, ac mae hon yn elfen allweddol o strategaeth ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’ Llywodraeth Cymru. Mae hon yn her sylweddol i Gyngor Torfaen ac mae’n un a fydd yn gofyn am gydweithio agos gyda chymunedau er mwyn sicrhau y cyrhaeddir y garreg filltir hon.
Mae llwyddiant a ffyniant yr economi leol yn elfen sylfaenol wrth gyflawni llawer o'r hyn sydd yn y Cynllun Sirol. Mae yna gysylltiad sydd wedi ei brofi rhwng canlyniadau economaidd gwell ac iechyd unigolion, llesiant cymunedol, a hyder ymysg pobl ifanc i anelu a llwyddo, beth bynnag yw eu huchelgais. Ni all economi Torfaen weithredu ar ei phen ei hun. Mae'n rhan o jig-so rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol llawer yn fwy, ond gall y rhaglenni a ddarperir gan y cyngor, a'r perthnasoedd y mae’n eu ffurfio, hwyluso ac annog twf.
Mae gan Dorfaen economi amrywiol a chanddi gryfderau y gallwn dynnu arnynt yn ogystal â heriau y dymunwn eu goresgyn. Dymuna’r cyngor wneud y mwyaf o gryfder y gweithlu medrus iawn sy’n gweithio’n bennaf ym maes gweithgynhyrchu blaengar er mwyn arallgyfeirio’r sectorau y gall gweithgynhyrchu blaengar dyfu i mewn iddynt gyda ffocws penodol ar y sector gwyddorau bywyd.
Mae’r cyngor yn dymuno adeiladu ar raglenni cenedlaethol a rhanbarthol sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo arloesi, gan feithrin entrepreneuriaeth yn lleol a hyder i fynd i mewn i farchnadoedd newydd a chymryd cyfleoedd er mwyn adeiladu economi ddeinamig, actif sy'n cael ei harwain gan ymchwil.
Trwy greu Cynlluniau Bro ar gyfer canol ein trefi, mae'r cyngor eisiau newid eu pwrpas. Er mwyn atal y dirywiad a meithrin uchelgais a gobaith, mae'r cyngor am ennyn hyder yng nghanol ei drefi, gyda buddsoddiad arloesol, uchelgeisiau beiddgar i adfywio a chreu mannau cyhoeddus sy’n denu trigolion, busnesau ac ymwelwyr, i helpu i gadw'r bunt i gylchredeg yn yr economi leol.
Cysylltedd
Bwriad y Cynllun Sirol yw ceisio ffrwyno’r rôl y mae cymunedau eisoes yn ei chwarae wrth gyfleu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, a helpu ffocysu adnoddau ymyrraeth gynnar ac atal yn fwy effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn mae gofyn ailgynllunio gwasanaethau o amgylch y cwsmer a sut maen nhw'n byw eu bywydau ac yn defnyddio gwasanaethau’r cyngor.
Un o' brif gyfrifoldebau’r cyngor yw rhoi'r sgiliau a'r adnoddau i'n cymunedau er mwyn iddynt allu dod yn fwy gwydn i'r heriau y maent yn eu hwynebu mewn byd sy'n newid yn gyflym. Mae’r cyngor am gefnogi a grymuso ei gymunedau fel y gall ddylunio ymatebion i'r bygythiadau hyn ar y cyd, mewn ffordd sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf ac yn adlewyrchu pa mor unigryw yw pob ardal. Yn fyr, mae’r cyngor am ddatblygu ‘Dull Cymunedau’ wrth fynd ati i ymdrin â gwasanaeth cyhoeddus.
Mae cymunedau wrth wraidd pob un o'i 9 amcan llesiant. Mae cyd-ddylunio a chydddarparu gwasanaethau gyda chymunedau yn hanfodol os ydym am godi dyheadau ymhlith ein pobl ifanc, lleihau anghydraddoldeb, cefnogi ffyrdd iach o fyw, ac ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. I wneud hyn mae angen i ni fod yn glir o ran sut y gall ein trigolion gael gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chefnogaeth, pryd y gallant eu cael a chan bwy. Mae’r cyngor am greu 'drws ffrynt a rennir' gyda chymunedau a phartneriaid lleol, sy’n cyfeirio pobl at y lefel gywir o gymorth ar yr adeg gywir o'r ffynhonnell gywir er mwyn sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu’n gyson ac o’r ansawdd uchaf.
Wrth gwrs, mae yna heriau ynghlwm â datblygu Dull Cymunedau i ymdrin â gwasanaethau cyhoeddus. Mae pob ardal yn wahanol ac mae gan bob ardal ei chyfres ei hun o anghenion gwasanaeth a chynnig unigryw o ran yr hyn y gall ei chymuned ei hun ei gynnig. Ar hyn o bryd nid oes digon o drigolion yn teimlo y gallant siapio neu ddylanwadu ar y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yn eu hardal leol, ac mae angen i ni wella cydlyniad gwirfoddolwyr ar draws y fwrdeistref.
Diwylliant a Threftadaeth
Cyflwynir heriau ehangach y cyngor o dan themâu llesiant, cysylltedd a chynaliadwyedd ac maent wedi eu gosod yng nghyd-destun ei heriau ariannol. Mae thema diwylliant a threftadaeth yn cyfrannu at drechu’r heriau ymhob un o’r meysydd hyn ac ar bob talcen.
Mae mynediad at dreftadaeth a diwylliant yn ehangu gorwelion, yn cyfoethogi bywydau ac yn creu ymdeimlad o falchder a pherthyn. Trwy fanteisio ar gryfderau unigolion, cymunedau a’r cyd-asedau yn Nhorfaen, gall y sir fod yn fwy diogel, yn iachach ac yn fwy annibynnol a chanddi economi hyfyw.
Mae diwylliant a threftadaeth Torfaen yn adlewyrchiad o brofiad, ymdrech a chyrhaeddiad y sir dros ganrifoedd. Mae ar y sir angen dathlu ei hanes a’i lle yn y byd yn ogystal â chydnabod gyda’n gilydd pwy ydym, dros beth yr ydym yn sefyll ac i ble yr ydym yn perthyn.
Mae bywydau cyndeidiau’r sir, ei chymunedau hanesyddol a’r cymunedau sy’n ffurfio o’r newydd, a’r asedau yn y sir, yn gefndir i holl obeithion a dyheadau’r dyfodol. Trwy barchu gorffennol y sir, gallwn ddeall ei phresennol a goleuo dyfodol pob un ohonom. Trwy gydweithio, gall y sir ddathlu ei hamrywiaeth a chreu hunaniaeth gydlynol y gall bob un fod yn falch ohoni.
Ariannol
Mae’r sector cyhoeddus ac awdurdodau lleol ledled Cymru yn wynebu sefyllfa ariannol hynod o heriol a dyma’r cyd-destun ar gyfer y Cynllun Sirol, wrth i’r cyngor ganolbwyntio ar y gwasanaethau sydd bwysicaf a’r adnoddau y mae arno’u hangen i gyflawni’r gwasanaethau hynny.
Yng Nghynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022 manylwyd ar her ariannol o £16.2miliwn, dros gyfnod o bedair blynedd. Nawr, mae’r rhagolygon ariannol ar gyfer 2023/24 yn unig yn awgrymu her ariannol o £12.5miliwn. Mae maint yr her, a pha mor gyflym y mae wedi codi, yn ddigynsail, a’r hyn sy’n ei gyrru’n bennaf yw chwyddiant uchel, yn arbennig, cost ynni a chwyddiant sylweddol mewn cyflogau. Yn ogystal, mae yna argyfwng costau byw ac mae’r galw am lawer o’n gwasanaethau costus yn parhau i gynyddu, ac yn cynnwys y straen sydd wedi codi wrth i’r cyngor a chymunedau barhau i adfer ar ôl y pandemig.
Er bod y sefyllfa ariannol yn heriol iawn, nid dyma’r amser i leihau uchelgais na dyfalbarhad y cyngor i oresgyn yr heriau hyn. Fel pob cyngor cyfrifol, bydd gofyn lleihau costau mewn ffordd gynaliadwy sy’n amddiffyn gwasanaethau llinell-flaen cyhyd ag sy’n bosibl. I’r perwyl hwnnw, bydd y cyngor yn mynd ati i gyflwyno toriadau mewn ffordd thematig, sy’n trawstorri, yn hytrach na thorri canrannau oddi ar ein holl gyllidebau. Serch hynny, byddwn yn dal i wynebu dewisiadau a phenderfyniadau anodd.
Byddwn yn codi cyrhaeddiad addysgol, gan helpu pobl ifanc ac oedolion i gael y cymwysterau a’r sgiliau y mae eu hangen i fyw bywydau cadarnhaol
- Bydd gan bob plentyn ac unigolyn ifanc fynediad at addysg o ansawdd da ac ni fydd unrhyw ysgolion mewn mesurau arbennig
- Byddwn wedi lleihau cyfran y bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol heb fynd ymlaen at addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant
- Byddwn wedi sefydlu’r Cwricwlwm i Gymru newydd yn llwyddiannus ar draws ein hysgolion er mwyn paratoi plant ac unigolion ifanc yn well at fyd sy’n newid
- Byddwn yn diwallu Anghenion Dysgu Ychwanegol plant ac unigolion ifanc yn well gan eu helpu i oresgyn rhwystrau rhag dysgu a chyrraedd eu llawn botensial
- Bydd gennym fwy o gymorth er mwyn rhoi sylw i effeithiau negyddol Covid ar addysg pobl ifanc, er enghraifft oedi wrth ddysgu, gorbryder cynyddol, cymhlethdodau ymddygiad a phresenoldeb gwael
- Byddwn wedi helpu i roi sylw i faterion recriwtio a materion yn ymwneud â’r gweithlu yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg
- Yn gyfraneddol, bydd mwy o bobl yn ennill cymwysterau TGAU neu’r cywerth, y mae eu hangen arnynt er mwyn byw bywydau cadarnhaol
- Bydd mwy o bobl yn ymgymryd ag addysg gymunedol a sgiliau sylfaenol a fydd yn gymorth iddynt i gael swyddi
- Byddwn yn datblygu rôl yr ysgol yn y gymuned a rôl y gymuned wrth gefnogi ein hysgolion
Byddwn yn annog ac yn hybu plant, pobl ifanc a theuluoedd fel y gallan nhw ffynnu
- Bydd mwy o blant yn cael gofal plant ac addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gyfrannu at ddyheadau Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru
- Bydd mwy o deuluoedd yn defnyddio’r rhaglen Dechrau’n Deg
- Bydd mwy o ysgolion ag arnynt angen buddsoddiad gan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cael eu moderneiddio
- Bydd mwy o blant a phobl ifanc yn rhan uniongyrchol o benderfyniadau’r cyngor ac yn dylanwadu ar siâp gwasanaethau’r cyngor
- Byddwn wedi lleihau ein poblogaeth o Blant sy’n Derbyn Gofal a bydd cyfran uwch yn byw gyda gofalwyr maeth mewnol
- Byddwn wedi cynyddu nifer y gofalwyr maeth mewnol sydd â’r sgiliau i reoli sefyllfaoedd cymhleth
- Byddwn wedi datblygu opsiynau llety therapiwtig yn y sir ar gyfer plant ag anghenion cymhleth
- Byddwn yn gweithio gyda mwy o bobl ifanc er mwyn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan atal pobl rhag mynd i mewn i’r system gyfiawnder troseddol
- Byddwn wedi cefnogi mwy o ffoaduriaid i ymgartrefu yn ein cymunedau
- Byddwn yn hyrwyddo rôl ac anghenion gofalwyr ifainc yn y gymuned, er mwyn iddynt allu defnyddio gwasanaethau mewn ffordd deg
- Byddwn yn amddiffyn plant rhag sylweddau a chynnyrch niweidiol trwy gynnal ymarferion prawf-brynu gyda phartneriaid mewn perthynas â gwerthu nwyddau sydd ag oed cyfyngedig, er enghraifft alcohol, tybaco a chyllyll
Byddwn yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb trwy ganolbwyntio ar weithgareddau adnabod ac atal sy’n cefnogi pobl i fyw bywydau annibynnol a boddhaus
- Byddwn yn anelu at atal pob teulu ac unigolyn rhag dod yn ddigartref, trwy ymyriad a chymorth wedi’u targedu
- Byddwn yn lleihau digartrefedd trwy weithio gyda phartneriaid i sicrhau gwell mynediad at lety addas a gwasanaethau cymorth
- Byddwn yn gweithio gyda chymunedau i’w cefnogi i ddod yn fwy cydnerth ac yn llai dibynnol ar wasanaethau statudol
- Bydd mwy o bobl yn dod yn fwy annibynnol gartref a thrwy ddefnyddio gwasanaethau yn eu cymuned wrth i ni ddatblygu ein gwasanaethau ail-alluogi yn y gymuned ymhellach
- Byddwn yn sicrhau bod plant ag anableddau yn cael gwasanaeth o ansawdd da sy’n hyrwyddo bywyd teuluol, annibyniaeth a mynediad at gyfleusterau cymunedol
- Byddwn wedi helpu i roi sylw i rai o effeithiau difrifol yr argyfwng costau byw a bydd dewis o gymorth ariannol ar gael i’r rheiny â’r mwyaf o angen amdano
- Byddwn yn dod â thai preifat newydd a thai fforddiadwy i’r farchnad trwy weithio gyda pherchnogion tir er mwyn dod o hyd i ddarnau newydd o dir ar gyfer tai
- Byddwn yn darparu prydau bwyd am ddim i bob plentyn oed meithrin a chynradd
- Byddwn yn gweithio’n gyda’n partneriaid a busnesau er mwyn darparu swyddi cynaliadwy da yn y Fwrdeistref sy’n galluogi pobl i fyw’n dda
- Byddwn yn gwella safonau tai ac yn adnabod risgiau i iechyd a diogelwch trwy ymateb i gŵynion gan drigolion ynghylch eiddo a rentir yn breifat, ac yn dysgu o’r cwynion hynny
- Bydd mwy o bobl yn byw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain trwy fwy o ddefnydd o dechnoleg gynorthwyol
Byddwn yn gwneud Torfaen yn fwy cynaliadwy trwy gysylltu pobl a chymunedau, yn gymdeithasol, yn ddigidol ac yn gorfforol
- Bydd mwy o bobl yn dewis trafnidiaeth gyhoeddus fel ffordd o deithio at ddibenion cymdeithasol a busnes a bydd mwy o drenau yn aros yng Ngorsafoedd Trenau Cwmbrân, Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd
- Bydd gennym fwy o lwybrau teithio llesol a mwy o bobl yn cerdded ac yn seiclo, a bydd gwell hygyrchedd i bobl anabl er mwyn iddynt allu mwynhau eu hamgylchedd lleol
- Bydd mwy o bobl yn teithio mewn cerbydau trydan a chefnogir hynny trwy gynyddu nifer y mannau gwefru cerbydau trydan yn y sir
- Byddwn yn gweithio gyda mwy o wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol er mwyn gwella amgylcheddau lleol a chymunedau
- Bydd mwy o bobl yn cael mynediad at wasanaethau’r cyngor trwy ddefnyddio Wi-Fi sy’n gyflymach ac ar gael yn ehangach
- Byddwn yn defnyddio datrysiadau digidol i’n helpu i fonitro sut y mae pobl yn defnyddio canol ein trefi
- Bydd llai o bobl wedi eu hallgau yn ddigidol diolch i fynediad gwell at fand eang
Byddwn yn ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, yn ailgylchu mwy ac yn gwneud gwelliannau i’r amgylchedd lleol
- Byddwn wedi cynyddu arwynebedd y tir sy’n eiddo i’r cyngor a reolir ar gyfer bioamrywiaeth
- Byddwn yn dod ymlaen yn dda tuag at gyrraedd ein targed o fod yn garbon sero net erbyn 2030
- Byddwn wedi rhagori ar ein targedau ailgylchu a byddwn yn casglu dewis ehangach o ddeunyddiau i’w hailgylchu
- Byddwn yn cau’r rhwyd ar droseddau amgylcheddol er mwyn atal sbwriel, tipio sbwriel yn anghyfreithlon a baw cŵn
- Byddwn yn meithrin mwy o falchder yn ein bro trwy gynnig mwy o gymorth i weithredu amgylcheddol yn y gymuned
- Bydd adeiladau’r cyngor yn defnyddio llai o danwydd ffosil a bydd adeiladau addas yn cael eu defnyddio i gynhyrchu trydan adnewyddadwy
- Bydd mwy o’n cerbydau yn rhai sy’n isel iawn o ran allyriadau, gan leihau ôl troed carbon cyffredinol y cyngor
- Byddwn wedi cynyddu gorchudd coed y fwrdeistref ac wedi sefydlu perllannau newydd er mwyn dal mwy o garbon a hyrwyddo bioamrywiaeth
- Byddwn wedi hyfforddi dros 1,000 o hyrwyddwyr hinsawdd er mwyn i staff helpu pobl i ddeall effaith eu penderfyniadau ar y newid yn yr hinsawdd
- Byddwn wedi datblygu gwarchodfa natur leol newydd er mwyn dangos ein hymrwymiad i amddiffyn yr amgylchedd a chreu mannau a drysorir y gall ein cymunedau eu mwynhau
- Byddwn yn gweithio gyda chymunedau ac yn uchafu’r cyfleoedd am nawdd i harddu’r amgylchedd naturiol lleol a chyflwr parciau a mannau awyr agored cyhoeddus lleol
- Byddwn yn gwella ansawdd yr aer yn y fwrdeistref ac yn cymryd y camau angenrheidiol i amddiffyn iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd
Byddwn yn gwneud Torfaen yn lle gwych i fod mewn busnes trwy weithio gyda chyflogwyr lleol, annog busnesau newydd a gweithgareddau entrepreneuraidd
- Byddwn wedi cefnogi busnesau yn y sir i dyfu’n economaidd drwy helpu trigolion i gael swyddi medrus, llewyrchus a diogel
- Byddwn wedi annog twf yn nifer y mentrau bach a chanolig, microfusnesau a busnesau sy’n dechrau o’r newydd
- Byddwn yn creu ecosystem arloesi er mwyn hyrwyddo ymchwil a datblygiad lleol yn ein busnesau i’w helpu i dyfu ac i ddod yn fwy llewyrchus
- Byddwn wedi hyrwyddo Torfaen fel lle i fuddsoddi ac wedi gweithio gyda datblygwyr i drawsnewid safleoedd tir llwyd at ddibenion cyflogaeth
- Byddwn wedi adnabod darnau newydd o dir diwydiannol/cyflogaeth, gan weithio gyda pherchnogion tir i ddod â nhw i’r farchnad
- Byddwn wedi gyrru gwariant yn ein heconomi leol i fyny trwy wella sgiliau lleol a thrwy ein gwariant ni ein hunain fel cyngor
- Byddwn wedi uwchsgilio’r gweithlu lleol i ddenu cyflogwyr a’u cadw
- Byddwn yn defnyddio rhai o adeiladau’r cyngor yn wahanol er mwyn annog cefnogaeth ar gyfer busnesau newydd a diwydiannau newydd
Byddwn yn hybu bywydau mwy iach yn Nhorfaen er mwyn gwella lles meddyliol a chorfforol
- Bydd gan bob ysgol gynllun i gefnogi llesiant emosiynol a meddyliol staff a dysgwyr
- Dylai pob disgybl fod yn gallu cymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch bob dydd
- Byddwn yn ehangu’r cymorth iechyd meddwl i bobl o bob oed
- Byddwn yn ehangu cyfleusterau chwarae cynhwysol sy’n addas i bob plentyn
- Byddwn yn gweithio gyda chymunedau i ddatblygu dewis o wasanaethau er mwyn i fwy o drigolion allu cael mynediad at weithgareddau gwirfoddoli a chymryd rhan ynddynt
- Byddwn yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen er mwyn i ddisgyblion ysgol gael gwell mynediad at gyfleusterau
- Byddwn yn datblygu gwasanaethau cymorth cymunedol ac yn lleihau nifer yr oedolion a’r plant ag arnynt angen gofal ffurfiol
- Byddwn yn cynnal arolygiadau o fusnesau bwyd yn Nhorfaen er mwyn sicrhau bod y bwyd yn ddiogel a’r busnesau bwyd yn dweud y gwir am eu bwyd
- Byddwn yn datblygu strategaeth chwaraeon a hamdden gyda’n partneriaid er mwyn i fwy o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau iach ac er mwyn cynyddu cyfleoedd i fwy o bobl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol
Byddwn yn cefnogi ein diwylliant a threftadaeth leol ac yn gwneud Torfaen yn lle ffyniannus, diogel a deniadol i fyw ac i ymweld ag ef
- Byddwn yn cynyddu nifer yr ymwelwyr sy’n ymweld â chyrchfannau i dwristiaid yn Nhorfaen gan gynnwys Fferm Gymunedol Greenmeadow a fydd wedi ei hadfywio
- Byddwn yn adnewyddu canol ein trefi ac yn annog economi gyda’r nos gyda mwy o ymwelwyr yn mwynhau llefydd bwyta ac yfed o ansawdd uchel
- Bydd Nant Blaengafog ar Y British yn cael ei thynnu allan o gylfatiau ac yn llifo mewn sianel newydd fel cam cyntaf y cynllun meistr ar gyfer Y British
- Byddwn wedi lleihau lefel yr ymddygiad gwrthgymdeithasol a’r trais difrifol yn ein cymunedau
- Byddwn yn gweithio gyda chymunedau ac yn uchafu cyfleoedd am nawdd sy’n gwella ymddangosiad cymunedau a chanol trefi ac yn helpu hyrwyddo balchder yn ein bro
- Byddwn yn hyrwyddo Torfaen fel ‘Cyrchfan’, gan weithio gyda’n hatyniadau neilltuol i ymwelwyr er mwyn i ni allu cynnig pecynnau deniadol i ymwelwyr sy’n dod yma am y dydd ac yn aros dros nos, gan gynnwys safleoedd ar draws y Fwrdeistref
Byddwn yn darparu gwasanaethau effeithlon sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n adlewyrchu’r ffordd mae pobl yn byw eu bywydau ac yn dymuno cael gwasanaethau
- Byddwn yn gyngor effeithiol sydd wedi ein galluogi’n ddigidol ac sy’n darparu gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol gan alluogi mwy o drigolion i gwblhau eu trafodion ar-lein
- Byddwn yn rhagweithiol wrth ddangos y ffordd i drigolion at ddewis ehangach o wybodaeth a gwasanaethau atal, er mwyn hyrwyddo llesiant a chynyddu nifer y bobl sy’n cael gwybodaeth a chefnogaeth gan eu cymuned
- Bydd mwy o drigolion yn cael mynediad at wybodaeth gyhoeddus, cyngor ac arweiniad ar unrhyw adeg, yn unrhyw fan ac yn unrhyw ardal
- Byddwn yn sicrhau bod ein gwasanaethau yn cael eu dylunio i adlewyrchu anghenion cwsmeriaid ac nid anghenion busnes, trwy gynnwys cwsmeriaid ac ymgysylltu ac ymgynghori â nhw, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn gwrando ac yn gwella
Rheolir y gweithgarwch y manylir arno yn y cynllun hwn trwy ddull gweithredu cadarn ar gyfer rheoli prosiectau a rheoli perfformiad, er mwyn sicrhau bod unrhyw gynnydd, risgiau ac atebolrwydd dros weithredu yn weladwy.
Elfen hanfodol yw cynnwys trigolion a rhanddeiliaid wrth ddatblygu gwasanaethau a phrosiectau, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y pethau iawn ar yr adeg iawn ac yn y ffordd iawn.
Yn rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 mae’r cyngor wedi adolygu ei drefniadau llywodraethu a chyfranogiad yn fanwl, ac mae hyn wedi arwain at eglurder o ran y modd y gall aelodau o’r cyhoedd fod yn rhan o brosesau penderfynu a chraffu a dal y cyngor i gyfrif.
Rydym yn cydnabod rhan ganolog ein cyflogeion, a gwerth y rôl honno, wrth gyflawni’r cynllun hwn a rhedeg ein gwasanaethau statudol niferus. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn gweithgareddau sy’n sicrhau ein bod yn denu gweithlu medrus ac ymroddgar ac yn cadw’r gweithlu hwnnw. Byddwn hefyd yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i weithio gyda phartneriaid allanol, i rannu arbenigedd penodol i sicrhau bod y cynllun hwn yn cael ei gyflawni.
Mae ein Cynllun Sirol 2022-27 yn dangos yr allbynnau y byddwn yn eu monitro er mwyn dangos cynnydd a’r canlyniadau lefel uchel, a fydd yn dystiolaeth o lwyddiant ein huchelgeisiau. Byddwn yn rheoli gweithgarwch trwy ddull rheoli prosiectau cadarn, er mwyn sicrhau bod ein cynnydd ac unrhyw risgiau ac atebolrwydd dros gyflawni’r cynllun, yn weladwy, a bydd hwn yn sylfaen ar gyfer ein hadroddiadau a’n gwaith monitro chwarterol ar gyfer 2022/23 ac wedi hynny.
Bydd ein proses o gynllunio gwasanaethau yn ganolog wrth i ni wireddu ein dyheadau. Rydym yn datblygu’r broses er mwyn sicrhau bod cynlluniau pob maes gwasanaeth yn ddogfennau cynhwysfawr, byw, sy’n gerbyd ar gyfer cyflawni’r holl gynlluniau a strategaethau lefel uchel, adrodd arnynt a rhoi cyfrif amdanynt. Byddwn yn parhau i feithrin diwylliant o berfformio ar lefel uchel ar draws y cyngor, gan fonitro effaith ein gweithgarwch yn rheolaidd er mwyn ein galluogi i ddatblygu fel sefydliad ac i wireddu ein dyheadau ar gyfer Torfaen.
- Y Cynghorydd Anthony Hunt - Arweinydd Cyngor Torfaen
- Y Cynghorydd Richard Clark - Dirprwy Arweinydd Cyngor Torfaen / Aelod o’r Cabinet dros Addysg Y
- Cynghorydd Sue Morgan - Aelod o’r Cabinet dros Adnoddau
- Y Cynghorydd David Daniels - Aelod o’r Cabinet dros Wasanaethau Oedolion a Thai
- Y Cynghorydd Fiona Cross - Aelod o’r Cabinet dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau
- Y Cynghorydd Joanne Gauden - Aelod o’r Cabinet dros Yr Economi, Sgiliau ac Adfywio
- Y Cynghorydd Amanda Owen - Aelod o’r Cabinet dros Yr Amgylchedd
- Y Cynghorydd Peter Jones - Aelod o’r Cabinet dros Lywodraethu Corfforaethol a Pherfformiad
Cynllun Cyflawni 2026/2027
Dyma'r Cynllun Cyflawni olaf sy’n rhan o Gynllun Sirol y Cyngor 2022-2027.
Dyma'r cyntaf i ddangos sut mae'r cyngor yn gweithio tuag at bum cenhadaeth Bargen Torfaen yn ogystal â'r naw Amcan Llesiant.
Byddwn yn codi cyrhaeddiad addysgol, gan helpu pobl ifanc ac oedolion i gael y cymwysterau a’r sgiliau y mae eu hangen i fyw bywydau cadarnhaol
| Gweithgaredd / Cerrig Milltir / Mesurau | Targed/ carreg filltir |
|---|---|
| Ailwampio Ysgol Bryn Onnen | Disgwylir i'r gwaith ddechrau ym mis Gorffennaf 2026 a'i gwblhau erbyn mis Hydref 2027 |
| Cynnal a chadw adeiladau ysgol ac asedau eraill | Yn barhaus, dry gydol 2026/27 |
| Ehangu a chryfhau darpariaeth ADY o fewn addysg cyfrwng Cymraeg | Cwblhau asesiad digonolrwydd a chapasiti erbyn Mawrth 2027 |
| Gweithio gyda theuluoedd, ysgolion a chymunedau i ymgorffori ymdeimlad o berthyn, gwella presenoldeb a lleihau absenoldeb cronig | Cynnydd o 1 pwynt canran erbyn Gorffennaf 2026 a chynnydd o 0.75% pellach erbyn Mawrth 2027 |
| Lleihau canran y bobl ifanc sy'n gadael blwyddyn 11 sy’n cael eu cyfri fel 'ddim mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant' | 2.5% o bobl ifanc yn gadael blwyddyn 11, ddim mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant erbyn mis Rhagfyr 2026 |
| Nifer y trigolion sydd wedi cofrestru gyda rhaglen Cyflogaeth a Sgiliau Torfaen yn Gweithio | 600 o drigolion wedi cofrestru |
| Y rhai a gofrestrodd yn cael cymorth i gael cyflogaeth | 30% |
| Canran o’r rheini a gafodd gefnogaeth sydd wedi cynnal cyflogaeth ar ôl 6 mis | 25% |
Byddwn yn annog ac yn hybu plant, pobl ifanc a theuluoedd fel y gallant ffynnu
| Gweithgaredd / Cerrig Milltir / Mesurau | Targed/ carreg filltir |
|---|---|
| Sicrhau bod cynnydd parhaus yng nghyfraddau nifer y plant sy’n cael eu lleoli gyda gofalwyr maeth yr awdurdod lleol | 90% o blant wedi eu lleoli gyda gofalwyr maeth yr awdurdod lleol erbyn Mawrth 2027 |
| Sicrhau bod cyfathrebu cydweithredol, yn seiliedig ar gryfderau ac egwyddorion sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, drwyddi draw yn y Gwasanaethau i Blant | Sicrhau bod gan bob tîm 2 arweinydd enwebedig. Hyfforddiant i aelodau staff a holl gynlluniau gofal yn canolbwyntio ar gryfderau |
| Lleihau nifer y plant rydym yn gofalu amdanynt, yn ddiogel, er mwyn cyflawni ein huchelgais i gael cyfradd sydd gywerth â'r cyfartaledd cenedlaethol neu'n is na'r cyfartaledd cenedlaethol erbyn 2028/29 | <260 children looked after |
| Lleihau nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n cael eu lleoli mewn gofal preswyl a allai fynd i leoliad gofal maeth | Gostyngiad ar ffigurau diwedd-blwyddyn 2025/26 |
| Adolygu a datblygu ystod eang o lety i Blant sy’n Derbyn Gofal na ellir diwallu eu hanghenion mewn gofal maeth | Parhau i adolygu a datblygu, yn unol ag amserlenni, fel y nodir yn agenda dileu elw o ofal Llywodraeth Cymru erbyn 2030 |
| Cynyddu nifer y bobl ifanc sy'n cael cymorth trwy weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau statudol a gwirfoddol | 350 o bobl ifanc yn cael cefnogaeth |
| Parhau i weithio gyda'r gymuned ac ysgolion i deilwra'r ddarpariaeth chwarae yr ydym yn ei chynnig at anghenion y gymuned/ysgolion | Cyflwyno dros 100 o brosiectau gwahanol sy'n gysylltiedig â chwarae i 1,600 o ddisgyblion a 4,500 yn y cymunedau |
| Darparu pecynnau cymorth chwarae i blant a phobl ifanc ag angen cymorth ychwanegol | Cyflwyno 200 o brosiectau chwarae bob blwyddyn yn cynnwys chwarae ar benwythnosau, darpariaethau seibiant ac yn ystod y gwyliau |
| Hybu Prydau Ysgol am Ddim mewn Ysgolion Cynradd | 75% yn manteisio |
| Rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc fod yn rhan o benderfyniadau / polisïau / strategaethau'r Cyngor e.e. Diwrnodau Meddiant a gweithio gydag aelodau Fforymau Ieuenctid i ethol aelod o’r Senedd Ieuenctid i Dorfaen | Yn parhau |
| Canran yr holl bobl ifanc ag angen atal ac ymyrraeth arnynt ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd wedi cael cymorth i adael y broses gyda chanlyniad cadarnhaol | 90% o bobl ifanc wedi cael canlyniad cadarnhaol |
| Canran y plant sydd ddim yn mynd nôl i mewn i'r system ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn 6 mis ar ôl cael cymorth | 85% o blant ddim yn mynd nôl i mewn i'r System Ymddygiad Gwrthgymdeithasol o fewn 6 mis |
| Bydd canran y teuluoedd sydd wedi adsefydlu'n llwyddiannus o dan gynlluniau Adsefydlu y DU, ac sydd ddim angen cymorth ychwanegol ar ôl 12 mis, wedi cynyddu | Adsefydlu 95% o deuluoedd yn llwyddiannus ac nid oes angen cymorth ychwanegol arnynt |
Byddwn yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb trwy ganolbwyntio ar weithgareddau adnabod ac atal cynnar sy'n cefnogi pobl i fyw bywydau annibynnol a boddhaus
| Gweithgaredd / Cerrig Milltir / Mesurau | Targed/ carreg filltir |
|---|---|
| Gweini prydau maethlon i ddisgyblion cynradd | Gweini 702,000 o brydau bwyd (75% yn manteisio) i ddisgyblion cynradd erbyn mis Mawrth 2027 |
| Paratoi Cydgynllun Lleol Newydd (CGLlN) yn unol ag Amserlen y Cytundeb Cyflawni ac fel rhan o'r Model Ffederal | Mehefin 2030 |
| Sicrhau tai fforddiadwy trwy'r system gynllunio | Mawrth 2027 |
| Cyflawni Strategaeth a Chynllun Gweithredu Bwyd | Mawrth 2027 |
| Sicrhau bod cymaint â phosibl yn manteisio ar fudd-daliadau | Rhoi cyngor drwy atgyfeiriadau |
| Gweinyddu Budd-daliadau Tai yn effeithlon yn unol â rheoliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau | £20m |
| Dyfarnu Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai | £329,000 |
| Gweinyddu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor | £11.7 miliwn i 9,350 o dderbynwyr |
| Rhoi Prydau Ysgol am Ddim | 4,000 |
| Dyfarnu grantiau gwisg ysgol | 3,200 |
| Dyfarnu taliadau gwarcheidiaeth/mabwysiadu | 200 |
| Cynnal asesiadau profion modd gofal cymdeithasol | 1,200 |
| Adnabod trigolion ac yn eu hamddiffyn rhag risgiau a pheryglon posibl yn eu cartrefi | Mawrth 2027 |
| Gweithredu'r System Rheoli Gofal newydd | Ionawr 2026 |
| Nifer yr achosion sydd ar agor o fewn y Gwasanaethau Oedolion | Llai na 4,200 o achosion agored |
| Nifer yr asesiadau a gwblhawyd heb fod angen unrhyw ymyrraeth bellach | Atgyfeiriad Cymunedol 88% Atgyfeiriad Ysbyty 71% |
| Yr asesiadau cychwynnol a gwblhawyd lle gellir diwallu anghenion trwy ddulliau heblaw gofal a chymorth (gan gynnwys) | 85% |
| Nifer yr Hysbysiadau Diogelu'r Cyhoedd a dderbynnir gan y Tîm IAA | Llai na 1,300 |
| Grwpiau cymunedol sy’n weithgar ar lwyfan Cysylltu Torfaen | 50% |
| Nifer y cwsmeriaid y mae’r Hwb Ymyrraeth Gynnar ac Atal yn cynnig cymorth cymunedol iddynt | 70% |
| Amser ar gyfartaledd y mae Cysylltwyr yn ei dreulio yn cefnogi cwsmer | 6 wythnos |
| Ychwanegu mwy o dai â chymorth ac ail-alinio darpariaeth llety â chymorth i leihau'r niferoedd sydd mewn perygl o ddigartrefedd | 10 |
| Atal digartrefedd | 40% o achosion |
| Lleihau canran yr aelwydydd sydd wedi'u lleoli mewn llety dros dro am 6 mis neu fwy ar ddiwedd pob chwarter | Gostwng 20% |
| Yr amser, ar gyfartaledd, y mae’n ei gymryd i symud ymlaen o lety dros dro i gartref mwy parhaol (unigolion) | 260 diwrnod |
| Yr amser, ar gyfartaledd, y mae’n ei gymryd i symud ymlaen o lety dros dro i gartref mwy parhaol (teuluoedd) | 100 diwrnod |
| Canran y cartrefi newydd a adeiladir sy'n fforddiadwy | 30% |
| Datblygu cynllun gweithredu eiddo gwag i flaenoriaethu, targedu a lleihau nifer yr eiddo gwag yn Nhorfaen | Chwarter 3 |
Byddwn yn gwneud Torfaen yn fwy cynaliadwy trwy gysylltu pobl a chymunedau, yn gymdeithasol, yn ddigidol ac yn ffisegol
| Gweithgaredd / Cerrig Milltir / Mesurau | Targed/ carreg filltir |
|---|---|
| Gweithio gyda chymunedau trwy weithdai i ddatblygu grwpiau gwydnwch cymunedol, gan gynyddu parodrwydd cymunedol ar gyfer sefyllfaoedd brys a bod yn wydn iddynt | Sefydlu dau grŵp gwydnwch cymunedol |
| Cyflawni cyfres o gynlluniau Teithio Llesol yn 26/27 yn unol â'r Cynllun Cyflawni Teithio Llesol a gymeradwywyd a’r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol | Mawrth 2027 |
| Cyflawni prosiectau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn rhan o’r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol | |
| Cefnogi cwsmeriaid i gael mynediad at TGCh A Chymorth Digidol yn ein llyfrgelloedd/hybiau | 1,800 |
| Cynyddu nifer yr ymweliadau â llyfrgelloedd cyhoeddus flwyddyn ar ôl blwyddyn tuag at darged Llywodraeth Cymru | 3,260 o ymweliadau fesul 1,000 o'r boblogaeth |
| Nifer sydd wedi Cofrestru o dan Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar gyrsiau Sgiliau Hanfodol | 900 wedi cofrestru |
| Nifer y clybiau chwaraeon y gweithiwyd gyda nhw i ddatblygu eu cyfleusterau a darparu cyfleoedd cynaliadwy ar gyfer y gymuned | 40 o glybiau chwaraeon |
| Datblygu rhaglen gwirfoddoli | Chwarter 3 |
Byddwn yn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, yn ailgylchu mwy ac yn gwneud gwelliannau i'r amgylchedd lleol
| Gweithgaredd / Cerrig Milltir / Mesurau | Targed/ carreg filltir |
|---|---|
| Cyflawni'r camau gweithredu a nodir ar gyfer y Cyngor yn y Cynllun Ynni Ardal Leol | Gweithgaredd Aml-flwyddyn |
| Gweithredu Cynllun Gweithredu Fflyd Sero-net a rhaglen a arweinir gan ddata er mwyn lleihau allyriadau'r fflyd a chynyddu arbedion | Mawrth 2027 |
| Adolygu Cynllun Cydnerthedd Bioamrywiaeth ac Ecosystemau y Cyngor a’i ddiweddaru | Rhagfyr 2026 |
| Byddwn yn cyflawni Cytundeb Partneriaeth aml-flwyddyn gyda Bron Afon ar gyfer cynnal a chadw tir, gan sicrhau bod strydoedd a mannau gwyrdd yn cael eu rheoli'n gynaliadwy | Mawrth 2028 |
| Cynlluniau i adeiladu cyfleuster didoli deunyddiau wedi'u hailgylchu newydd, a'r gwaith i ddechrau o fewn yr amserlen gynllunio | |
| Ehangu mentrau Ailddefnyddio, Atgyweirio ac Ailgylchu, gan weithio gyda'r gymuned fel rhan o’r Fargen | Datblygu achos busnes ac argymhellion erbyn mis Mawrth 2027 |
| Cynyddu ailgylchu a lleihau gwastraff gweddilliol a'i gostau cysylltiedig drwy'r Ymgyrch Cystadlu â’ch Cymdogion | Mawrth 2027 |
Byddwn yn gwneud Torfaen yn lle gwych i gynnal busnes trwy weithio gyda chyflogwyr lleol, annog egin fusnesau a busnesau newydd
| Gweithgaredd / Cerrig Milltir / Mesurau | Targed/ carreg filltir |
|---|---|
| Cynhyrchu dogfen Glasbrint ar gyfer Twf | Mehefin 2026 |
| Cynhyrchu Bargen Siarter Busnes | Hydref 2026 |
| Cynhyrchu rhaglen ar gyfer cyflawni ffrydiau gwaith | Hydref 2026 |
| Creu Prosbectws Buddsoddi i ddenu buddsoddiad newydd a hyrwyddo argaeledd/gwasanaethu tir diwydiannol newydd a/neu dir llwyd | Awst 2026 |
| Symud ymlaen â chynigion amlinellol ar gyfer safle cyflogaeth gwyddoniaeth, technoleg ac arloesi blaenllaw o amgylch Ysbyty Athrofaol Y Faenor | Rhagfyr 2028 |
| Gweithredu'r achos busnes aml-flwyddyn ar gyfer Canolfan Arloesi Busnes Springboard gyda ffocws cychwynnol ar ganolfan beirianneg newydd i ddarparu gweithle arbenigol a chyfleusterau hyfforddi | Mawrth 2027 |
| Gweithredu cam nesaf porth busnes Cyswllt Busnes Torfaen | Trwy gydol 2026/7 |
| Ymgysylltu â busnesau, cymunedau a thrigolion mewn perthynas â cheisiadau cynllunio a gwneud penderfyniadau’n unol â’r CDLl | Trwy gydol 2026/27 |
| Nifer y Busnesau sydd wedi cofrestru ar gwrs hyfforddiant masnachol | 60 |
Byddwn yn hybu ffyrdd iachach o fyw yn Nhorfaen i wella lles meddyliol a chorfforol
| Gweithgaredd / Cerrig Milltir / Mesurau | Targed/ carreg filltir |
|---|---|
| Cefnogi ysgolion newydd i gael mynediad at yr offeryn Hunanwerthuso Dull Ysgol Gyfan (WSA) ar gyfer Lles Emosiynol a Llesiant Meddyliol | 8 ysgol newydd |
| Cynyddu'r cynnig o opsiynau llesiant i bobl ifanc | 2,300 o bobl ifanc |
| Cynnal arolygiadau safonau bwyd ac ymyriadau ar gyfer busnesau bwyd a chymryd camau gorfodi priodol a bod angen | Mawrth 2027 |
| Cymryd camau ymyrryd i sicrhau bod pobl sy’n gwerthu fêps yn cydymffurfio â chyfreithiau perthnasol | Mawrth 2027 |
| Cynyddu benthyciadau o'r stoc lyfrau iechyd a llesiant, gan gynnwys casgliadau Darllen yn Well | Cynnydd o 5% |
| Grwpiau cymunedol a redir yn annibynnol a sefydlwyd ar ôl ymyrraeth Iechyd, Chwaraeon a Lles | 5 grŵp cymunedol |
Byddwn yn cefnogi ein diwylliant a'n treftadaeth leol ac yn gwneud Torfaen yn lle ffyniannus, diogel a deniadol i fyw ac ymweld ag ef
| Gweithgaredd / Cerrig Milltir / Mesurau | Targed/ carreg filltir |
|---|---|
| Dechrau’r gwaith i fynd â Nant Blaengafog allan o gwlferau ar safle’r British ac i mewn i sianel newydd, fel cam cyntaf Uwchgynllun Y British | Awst 2027 |
| Symud ymlaen â’r gwaith i gael hyd i bartner i ddatblygu cynigion ar gyfer y safle er mwyn cyflawni | Mawrth 2027 |
| Cefnogi Bwrdd Tref Cwmbr ân i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cytuno ar Gynllun Cwmbrân y Dyfodol (Tref Tymor Hir) a hwyluso'r gwaith o gyflawni Blwyddyn Gyntaf y Cynllun Buddsoddi | Yn parhau 2026/27 |
| Datblygu cynlluniau cyflawni tair-blynedd cychwynnol ar gyfer pob un o Gynlluniau Creu Lleoedd Torfaen (Blaenafon, Pont-y-pŵl a Chwmbrân) a dechrau eu gweithredu | Ymchwilio a nodi cyllid i fwrw ymlaen â chyflawniad y Cynllun Creu Lleoedd drwy gydol 26/27 |
| Gweithredu prosiectau Cronfa Ffyniant Bro Pont-y-pŵl | Cwblhau blwyddyn ariannol 26/27 |
| Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet a chyhoeddi'r Cynllun Rheoli Cyrchfannau | Chwarter 2 |
Byddwn yn darparu gwasanaethau effeithlon sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n adlewyrchu'r ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau ac yn dymuno cael gwasanaethau
| Gweithgaredd / Cerrig Milltir / Mesurau | Targed/ carreg filltir |
|---|---|
| Cofrestru genedigaethau | Cofrestru 98% o enedigaethau o fewn 42 diwrnod |
| Cofrestru marwolaethau | Cofrestru 98% o farwolaethau o fewn 5 diwrnod |
| Gwefan newydd gan ddefnyddio System Rheoli Cynnwys (CMS) llywodraeth leol | 2026/7 |
| Sgôr boddhad cwsmeriaid cyffredinol ar gyfer galwadau i Galw Torfaen | Sgoriau rhwng 4 a 5 (Bodlon a Bodlon Iawn) |
| Rheoli amser aros cyfartalog ar gyfer galwadau gofal cymdeithasol i oedolion a cheisiadau am Fathodyn Glas | Llai na 300 eiliad |
| Rheoli amser aros cyfartalog ar gyfer galwadau yn ymwneud â budd-daliadau | Llai na 300 eiliad |
| Rheoli amser aros cyfartalog ar gyfer galwadau yn ymwneud â’r dreth gyngor | Llai na 300 eiliad |
| Cadw amser aros cyfartalog ar gyfer galwadau i bob gwasanaeth arall | 360 eiliad |
| Mesur sgoriau boddhad cwsmeriaid | Sefydlu Gwaelodlin |
| Mesur sgoriau monitro ansawdd | Sefydlu Gwaelodlin |
| Nifer y gweithgareddau dan arweiniad y gymuned a ddarparwyd yn Hwb Cymunedol a Llyfrgell Cwmbrân | Sefydlu Gwaelodlin |
| Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i wella cyflymder ymateb | Chwarter 3 |
| Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i gyfieithu dogfennau polisi | 90% o ddogfennau polisi |
| Nifer y staff sy’n defnyddio’r offeryn cyfarfodydd digidol mewn cyfarfodydd gofal cymdeithasol oedolion a phlant | 80% o staff |