Casgliadau gwastraff swmpus mwy hyblyg

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 10 Gorffennaf 2026
flexible bulky waste cym

O ddydd Llun 13 Gorffennaf, bydd gwasanaeth casglu gwastraff swmpus y cartref mwy hyblyg ar gael i drigolion wrth i ni dreialu ffordd newydd o wneud pethau am chwe mis.

Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth casglu gwastraff swmpus y cartref yn cynnig cyfle i drigolion gael gwared ar dair eitem fawr am ffi sefydlog.

Er bod y gwasanaeth fel arfer yn cael ei ddefnyddio gan drigolion i ailgylchu eitemau mawr y cartref fel oergelloedd, peiriannau golchi dillad a matresi, mae hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer eitemau canolig sydd ddim yn gallu cael eu hailgylchu wrth ymyl y palmant, fel sgriniau cyfrifiadur a setiau teledu.

O ddydd Llun, bydd trigolion yn gallu trefnu i ddwy eitem ganolig gael eu casglu, er enghraifft bwrdd wrth ochr y gwely a sgwter plentyn, yn lle un eitem fawr,  am y ffi o £29 a godir ar hyn o bryd.

Gall trigolion drefnu i dair eitem fawr gael eu casglu o hyd, neu ddewis cyfuniad o eitemau mawr a chanolig. Er enghraifft, gallai casgliad gynnwys:

  • Tair eitem fawr
  • Dwy eitem fawr a dwy eitem ganolig
  • Un eitem fawr a phedair eitem o faint canolig
  • Chwe eitem o faint canolig

Gellir trefnu casglu eitemau maint canolig ychwanegol hefyd am hanner cost eitem fawr.

Y nod yw gwneud y gwasanaeth yn decach ac yn fwy ymarferol i aelwydydd sy'n trefnu casglu eitemau llai swmpus, a pharhau i gefnogi pobl i gael gwared ar eitemau mewn ffordd gyfrifol pan na fyddant yn gallu mynd ag eitemau i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd.

Meddai’r Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd: "Rydyn ni wedi gwrando ar adborth gan drigolion a ddywedodd wrthym fod rhai eitemau y mae’n anodd cael gwared arnynt, yn enwedig i aelwydydd sydd ddim yn gallu cyrraedd Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

"Bydd y cynllun peilot yn ein helpu i asesu'r galw am wasanaeth casglu eitemau canolig a chefnogi'r newidiadau ehangach rydyn ni’n eu cyflwyno i’n helpu i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70 y cant o wastraff."

Mae enghreifftiau o eitemau canolig yn cynnwys sgriniau cyfrifiadur, setiau teledu bach o dan 45 modfedd, argraffwyr, byrddau wrth ochr y gwely, sgwteri plant, beiciau bach, cadeiriau gwthio a chadeiriau uchel.

Mae'r newidiadau arfaethedig yn mynd law yn llaw ag ymgyrch addysg a gorfodi Cystadlu â’ch Cymdogion y Cyngor, sy'n canolbwyntio ar helpu trigolion i ailgylchu'n gywir a lleihau faint o sbwriel sy'n cael ei roi yn y bin â chlawr porffor.

Arweiniodd cam cyntaf yr ymgyrch, a oedd yn targedu cartrefi a oedd yn cyflwyno biniau â chlawr porffor wedi eu gorlenwi neu fagiau sbwriel ychwanegol, at gynnydd o 19 y cant mewn ailgylchu gwastraff bwyd, cynnydd o chwech y cant mewn ailgylchu cynwysyddion a gostyngiad o bump y cant mewn gwastraff clawr porffor.

Mae'r Cyngor hefyd yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer gorsaf drosglwyddo ailgylchu fodern ym Mlaenafon, a fydd yn gallu prosesu deunyddiau ychwanegol a ailgylchir wrth ymyl y palmant.

Diwygiwyd Diwethaf: 10/07/2026 Nôl i’r Brig