Ehangu ymgyrch Cystadlu â'ch Cymdogion

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 29 Mehefin 2026
Recycling boxes

Fe fydd swyddogion ailgylchu a gorfodi yn cysylltu ag aelwydydd sydd ddim yn ailgylchu eitemau penodol, fel bwyd neu gardfwrdd, gan ddechrau’r wythnos nesaf.

Ers mis Medi, mae'r tîm wedi canolbwyntio ar siarad â thrigolion y mae eu biniau â chlawr porffor wedi'u gorlenwi, neu’r rheiny  sy’n gosod bagiau sbwriel ychwanegol ochr yn ochr â nhw.

Maen nhw wedi rhoi gwybodaeth a chyngor am sut i ailgylchu mwy, ac mae hyn wedi arwain at gynnydd o 19 y cant yn y gwastraff bwyd sy’n cael ei ailgylchu, cynnydd o chwech y cant mewn ailgylchu cynwysyddion a lleihad o bump y cant yn y gwastraff o’r biniau â chlawr porffor.

Ond, mae cyfraddau ailgylchu cyfartalog y Fwrdeistref yn dal i fod yn is na tharged Llywodraeth Cymru o 70 y cant.

O'r wythnos nesaf, bydd y tîm yn cysylltu ag aelwydydd sydd ddim yn cyflwyno pob un o’r bagiau ailgylchu neu gadis dros gyfnod o bythefnos, ac yn parhau i fonitro’r gwastraff yn y biniau â chlawr porffor.

Y nod fydd helpu trigolion i ailgylchu popeth posibl, gan ddefnyddio'r gwasanaeth wrth ymyl y palmant a lleihau'r gwastraff maen nhw'n ei roi yn eu biniau â chlawr porffor.

Bydd unrhyw un sy'n cael trafferth lleihau eu gwastraff yn cael cymorth. Ond, os na fydd unrhyw newid, gellid rhoi llythyr o rybudd iddynt ac, yn y pen draw, Hysbysiad Cosb Benodedig o £100.

Meddai Claire Cutforth, Pennaeth Trawsnewid Gwastraff: "Rydyn ni’n gwybod bod llawer o drigolion eisiau gwneud y peth iawn o ran ailgylchu, ond, mae ymchwil yn dangos y gallai'r rhan fwyaf o eitemau sy'n cael eu taflu allan fel sbwriel fod wedi cael eu hailgylchu yn rhan o'n gwasanaeth ailgylchu wythnosol wrth ymyl y palmant.

"Trwy siarad yn uniongyrchol â thrigolion, bydd ein swyddogion yn gallu cynnig cymorth ac arweiniad i helpu trigolion i leihau eu sbwriel ac ailgylchu mwy."

Ers mis Medi, mae 42,000 o lyfrynnau ailgylchu Cystadlu â’ch Cymdogion wedi cael eu dosbarthu, a siaradwyd â channoedd o drigolion. Mae'n wirioneddol gadarnhaol gweld bod y rhan fwyaf o'r rhain nawr yn rheoli eu gwastraff yn gywir, sy'n golygu mai dim ond 25 Hysbysiad Adran 46 ac 11 Hysbysiad Cosb Benodedig a gyhoeddwyd.

Mae'r tîm hefyd wedi llwyddo i ddod o hyd i dystiolaeth yn ymwneud ag 11 o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon posibl ac anfonwyd y dystiolaeth at dîm diogelu'r cyhoedd.

Gallwch ddarllen mwy am Bolisi Addysg a Gorfodi Gwastraff y Cyngor ar ein gwefan.

Darganfyddwch beth allwch chi ei ailgylchu ar garreg eich drws  

Oes angen bocsys neu fagiau ailgylchu ychwanegol arnoch? Dewch o hyd i'ch hwb ailgylchu agosaf 

Mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor saith niwrnod yr wythnos. Cofiwch wahanu eich ailgylchu a’ch sbwriel. 

Diwygiwyd Diwethaf: 29/06/2026 Nôl i’r Brig