Beth sydd yn yr hybiau?
- Sach Goch
- Bagiau Glas
- Blychau Du
- Sachau i’r Cadi Brown bach
- Cadi Bach gwyrdd gwastraff bwyd i’r gegin
- Cadi Mawr Brown gwastraff bwyd
- Bagiau melyn
Mannau presennol hybiau ailgylchu
Gellir casglu mwyafswm o ddau flwch, cadi neu sach ailgylchu o:
- Canolfan Treftadaeth y Byd, Blaenafon (dydd Mawrth i ddydd Sul, 10am tan 5pm)
- Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm)
- Llyfrgell Cwmbrân
- Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Dafarn Newydd
Sylwch efallai na fydd rhai cynwysyddion / bagiau ar gael oherwydd cyflenwad byd-eang a galw uchel.
Ydych chi’n cludo blychau ailgylchu?
I drigolion sy’n ddeiliaid bathodyn glas, sy’n cael casgliad â chymorth, neu sy’n wirioneddol ddim yn gallu mynd i’r pedwar hwb oherwydd rhesymau meddygol neu eraill, gellir cludo eitemau atoch chi ar gais.
Gofyn am gynhwysydd ailgylchu (yn agor mewn tab newydd)A fydd yr hybiau ar agor pob diwrnod yr wythnos?
Mae gan bob hwb oriau agor gwahanol felly sicrhewch os gwelwch yn dda eich bod yn edrych ar y rhain cyn ymweld.