Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 06/12/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Mae ein tîm addysg a gorfodi yn ymweld ag ardaloedd i wirio bod cartrefi yn defnyddio eu gwasanaeth ailgylchu yn gywir, a ddim yn rhoi gormod o sbwriel allan.

Os ydyn nhw'n dod o hyd i finiau sydd wedi'u gorlenwi neu sydd â bagiau ychwanegol o sbwriel nesaf iddyn nhw, bydd y tîm yn dilyn proses â 4 cam:

  1. Bydd yr aelwydydd yn cael taflen wybodaeth Cystadlu â'ch Cymdogion sy'n dweud yn gryno sut i gyflwyno eu gwastraff yn gywir.
  2. Bydd y trigolyn yn cael ail lythyr os ydyn nhw'n dal i roi gormod o wastraff allan.
  3. Os ydyn nhw'n dal i gyflwyno gormod o wastraff bagiau du byddan nhw'n cael Hysbysiad Adran 46.
  4. Os bydd y trigolyn yn dal i roi gormod o sbwriel allan ar ôl cael hysbysiad adran 46, bydd yn cael Hysbysiad Cosb Benodedig o £100.

Cymorth gydag ailgylchu

Mae help ar gael i aelwydydd mwy o faint, pobl oedrannus, a thrigolion â rhai anghenion meddygol penodol.

Rydyn ni'n cydnabod bod gan rai pobl anableddau meddyliol neu gorfforol sy'n gallu golygu ei bod yn anodd iddyn nhw i ailgylchu. Mae ein tîm Addysg a Gorfodi yn blaenoriaethu dull "ymgysylltu yn gyntaf" a bydd yn nodi pobl sydd ddim yn gallu bod yn rhan o gamau addysgu neu orfodi. Bydd y tîm hefyd yn awgrymu help o fath arall lle bo hynny'n briodol, fel casgliadau â chymorth.

Sut alla’ i leihau fy ngwastraff?

Rydym yn darparu gwasanaeth ailgylchu wythnosol, sy'n golygu y gall gwastraff bwyd, cardbord, plastig, tuniau, gwydr, papur, batris cartref, tecstilau ac eitemau trydanol bach gael eu hailgylchu, a gallwn eu casglu o stepen y drws.

Gallwch hefyd ailgylchu dewis eang o eitemau eraill yn ein Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, yn Y Dafarn Newydd.

Gallwch roi eitemau o ansawdd da nad oes eu hangen arnoch mwyach i Siop Ailddefnyddio y Steelhouse, ger y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, Circulate neu unrhyw siopau elusen eraill.

Gallwch drwsio eitemau trydanol bach fel tostiwr a thegell yn y Caffi Trwsio, ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl.

Rhagor o wybodaeth am ffyrdd eraill o arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu (yn agor mewn tab newydd).

A alla' i dalu rhywun arall i gael gwared ar fy sbwriel?

Mae gan aelwydydd ddyletswydd gofal i fod yn gyfrifol wrth drefnu i wastraff gael ei waredu.

Os ydych chi'n talu rhywun i gael gwared ar eich gwastraff ar eich rhan, defnyddiwch ddarparwr sgipiau trwyddedig neu gludwr gwastraff cofrestredig addas; gallech chi wynebu camau gorfodi o hyd os darganfyddir bod eich gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon.

Cyfoeth Naturiol Cymru / Cofrestr cyhoeddus cludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff (yn agor mewn tab newydd)

Galw Torfaen (Gwastraff)