Ailgylchu i fusnesau yn nhorfaen

Rhaid i bob safle busnes ddidoli eu heitemau ailgylchu cyn iddynt gael eu casglu:

  • Gwastraff bwyd (safleoedd sy'n cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd yr wythnos)
  • Papur a cherdyn
  • Gwydr
  • Caniau metel
  • Poteli plastig
  • Cartonau a phecynnau tebyg
  • Offer trydanol ac electronig bach heb eu gwerthu (WEEE)
  • Tecstilau heb eu gwerthu

Mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar fusnesau i ddefnyddio cludwr gwastraff cofrestredig i waredu ar wastraff ac eitemau ailgylchu.

Am fanylion cwmnïau cofrestredig sy’n gwaredu ar wastraff, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (yn agor mewn tab newydd).

Mae'r cyngor yn cynnig gwasanaeth ailgylchu masnachol. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chyswllt Busnes Torfaen.

Gofyn am gasgliad sbwriel masnachol (yn agor mewn tab newydd)Archebu Sachau Gwastraff Masnachol (yn agor mewn tab newydd)

Meddianwyr eiddo sy’n gyfrifol am gydymffurfio â Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle, Llywodraeth Cymru.

Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn gorfodi’r rheoliadau a gallai meddianwyr wynebu dirwyon o hyd at £300 am bob trosedd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd).

Gall cwsmeriaid busnes y cyngor gael cyngor gan y tîm drwy gysylltu â BusinessRecycling@torfaen.gov.uk