Lleoliad ac oriau agor
Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, Ffordd Panteg, Y Dafarn Newydd
Haf (29 Mawrth 2026 - 24 Hydref 2026)
- Dydd Llun i ddydd Sadwrn - 08:00 i 17.45
- Dydd Sul - 09:00 i 17.45
Gaeaf (25 Hydref 2026 - 27 Mawrth 2027)
- Dydd Llun i ddydd Sul – 10:00 i 15:45
Bydd mynediad olaf i gerbyd ar yr amser cau uchod.
Mae'r safle hwn ar agor bob dydd heblaw am Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Ymweld â'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Mae'r cyfleusterau i drigolion Torfaen yn unig. Gofynnir i bob ymwelydd gyflwyno prawf o gyfeiriad, sef trwydded yrru, bil cyfleustodau neu fil y dreth gyngor wrth y fynedfa.
Byddwch hefyd yn barod i gael eich holi am ba eitemau rydych chi'n eu cario i sicrhau bod y safle yn eu derbyn, ac i gael eich cyfeirio i'r lleoliad cywir i’w gollwng.
Gwahanwch yr holl wastraff, gan gynnwys bagiau du, ymlaen llaw. Mae'r ardal arbennig ar y safle i wahanu eitemau mewn bagiau du sy'n cynnwys eitemau ailgylchu. Byddwch yn barod i ddidoli gwastraff ar y safle cyn cael gwared arno.
Mae gweithwyr y safle yn cadw'r hawl i archwilio bagiau gwastraff cymysg cyn eu derbyn, i gadarnhau nad ydynt yn cynnwys deunyddiau ailgylchu, neu eitemau peryglus.
Ni oddefir trais na cham-drin ac mae staff yn gwisgo camerâu er mwyn diogelu'r cyhoedd a staff.
Rhaid i blant ac anifeiliaid anwes aros yn y cerbydau bob amser.
Gall cerbydau sy'n dod o dan y polisi trwydded gael mynediad i'r safle, os byddant wedi archebu ymlaen llaw yn unig, rhwng 10.00am a 3.00pm yn ystod y gaeaf ac 8:00am a 4:30pm drwy'r haf.
Sylwch: gofynnir i ymwelwyr yr amheuir bod ganddynt wastraff masnach lofnodi ymwadiadau wrth fynd i mewn i'r safle.
Gwneud cais am drwydded cerbyd (yn agor mewn tab newydd)Beth y gellir ei ailgylchu ar y safle?
- Pren, batris ceir, nwyddau gwynion ac oergelloedd, offer domestig mawr a bach (offer trydanol ac electronig gwastraff).
- Fêps
- Paent
- Setiau teledu
- Carpedi
- Tiwbiau fflwrolau
- Matresi
- Plastigau caled
- Byrddau plastro
- Ffenestri UPVC
- Cemegau peryglus o’r cartref
- Olew injan
- Olew coginio
- Darnau o borfa, gwrychoedd a choed
- Caiff rwbel a cherrig eu derbyn i'w hailddefnyddio hefyd, er eu bod wedi'u cyfyngu i feintiau bach yn unig (rhaid i'r deunydd hwn fod mewn bagiau).
Cadwch y llifoedd gwastraff hyn yn lân ac ar wahân i'w gilydd.
Asbestos
Os ydych chi'n ystyried dymchwel adeilad yr ydych yn credu ei fod yn cynnwys asbestos, ewch i wefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (yn agor mewn tab newydd)
Fel arall, os ydych yn dymuno i gael gwared ar symiau bach o asbestos yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref rhaid i chi gysylltuTorfaen Ffoniwch ar 01495 762200.
Beth na ellir ei ailgylchu ar y safle?
Nid yw "japanese knotweed" a "himalayan Balsam" yn cael eu derbyn yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref. Heblaw am fatris, teiars ac olew injan ni all y safle yma dderbyn unrhyw ddarnau cerbydau modur.
Gwastraff crefftau'r cartref/adnewyddu
Nid yw gwastraff crefftau'r cartref/adnewyddu yn cael ei dderbyn yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref mewn unrhyw fath o gerbyd (fan, trelar neu gar). Os ydych am gael gwared â'r math hwn o wastraff, dylech:
- Cael sgip gan gwmni rheoli gwastraff preifat, neu
- Talu costau'r bont bwyso i Viridor yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Dylai trigolion ffonio Viridor ar 01495 755890 ynghylch y costau
- Defnyddio cwmni preifat sydd wedi'i awdurdodi i gludo gwastraff. Rhaid i'r cwmni roi nodyn trosglwyddo gwastraff i chi sy'n dweud i le mae'r gwastraff yn mynd i gael ei waredu
Caiff gwastraff crefftau'r cartref ei ddiffinio fel gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu o ganlyniad i waith adnewyddu mawr neu brosiect crefftau'r cartref yn eich eiddo.
Mae enghreifftiau o'r prosiectau hyn yn cynnwys – adnewyddu eich ystafell ymolchi neu'ch cegin, cloddio eich hardd i osod patio, taro waliau mewnol neu frestyn simnai i lawr. Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol. If you have any queries, please contact 01495 762200.