Ein hadroddiad hunanasesu a llesiant blynyddol

Mae ein 'Adroddiad Hunanasesu a Llesiant Blynyddol' yn nodi hunanasesiad blynyddol o'r ffordd yr ydym yn perfformio a lle rydym yn hoelio'n sylw yn y flwyddyn i ddod.

Mae gofyn i ni, fel pob corff cyhoeddus ledled Cymru gydymffurfio â dyletswyddau penodol. Mae ein 'Adroddiad Hunanasesu a Llesiant Blynyddol', yn cyfuno'n gofynion adrodd statudol a'n dyletswyddau cyhoeddi statudol, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (LGE) 2021, sy'n galw arnom i;

  • Gyhoeddi adroddiad blynyddol yn dangos ein cynnydd yng nghyd-destun ein hamcanion llesiant (mae ein hamcanion lles i’w gweld yma Cynllun Sirol 2022-2027); a
  • Cyhoeddi Adroddiad Hunanasesu blynyddol yn nodi i ba raddau yr ydym yn diwallu ein gofynion o ran perfformiad.

Ochr yn ochr â’n Cynllun Sirol, i’n helpu ni i asesu’r graddau iddynt yr ydym yn bodoli’n gofynion o ran perfformiad, rydym wedi datblygu fframwaith sy’n gosod allan yr hyn yr ydym yn credu yw nodweddion cyngor rhagorol, mae hyn i’w weld yma Nodweddion a Disgrifwyr.

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 yn gosod nifer o ddyletswyddau ar gyrff cyhoeddus, ond yn ganolog i'r  drefn berfformio mae'n ofynnol i bob cyngor gadw golwg ar eu trefniadau perfformio. Byddwn yn gwneud hyn drwy hunanasesiad cadarn a pharhaus. Cyhoeddir trosolwg o'n canfyddiadau a'n hymrwymiadau i greu gwelliannau a datblygu ymhellach, yn ein hadroddiad blynyddol.

Fe wnaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 ddeddfu ar saith nod llesiant sydd o flaenoriaeth, y mae'n ofynnol i bob corff cyhoeddus weithio tuag atynt, gan fanylu ar y modd y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus weithio, a chydweithio i welliant yng Nghymru.

Wrth weithio tuag at y nodau hyn, mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried effaith eu penderfyniadau yn y tymor hir, i weithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd. Mae ein hadroddiad blynyddol yn nodi sut y mae darparu ein gwasanaethau mewn modd cynaliadwy wedi cyfrannu at gyflawni ein hamcanion a’u cyfraniad at y nodau llesiant cenedlaethol.

Mae manylion llawn adroddiadau diweddaraf a blaenorol y Cyngor i’w gweld isod:

Diwygiwyd Diwethaf: 14/11/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Gwella

Ffôn: 01495 742158

E-bost: improvement@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig