Cynllunio a Monitro Perfformiad

Bob blwyddyn, mae ein Cyfarwyddiaethau yn adolygu eu gweithgareddau, eu mesurau perfformiad a'u targedau o fewn eu cynlluniau gwasanaeth, i sicrhau bod gwasanaethau’n:

  • Cyflawni'r canlyniadau gorau posibl, ac yn eu darparu o fewn yr adnoddau sydd ar gael,
  • Cyfrannu tuag at ein hamcanion a chysylltu â nhw, fel y nodir yng Nghynllun Cyflawni ein Cynllun Sirol, Hunanasesiad y Cyngor, strategaethau a rhaglenni gwaith allweddol a Chynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Torfaen, ac yn
  • Cyflawni ein dyletswyddau a'n gofynion statudol, ac yn eu bodloni, yn enwedig wrth weithredu yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

Er bod proses flynyddol ynghylch datblygu cynlluniau gwasanaeth, mae’n cael ei gweld fel proses barhaus ac mae yna hyblygrwydd o fewn y cynlluniau i ystyried blaenoriaethau a gweithgareddau newydd sy'n codi yn ystod y flwyddyn. Dydy hynny ddim yn golygu bod ganddynt y rhyddid i newid gweithgareddau a mesurau yn ystod y flwyddyn, ond gellir gwneud hynny trwy'r trefniadau llywodraethu priodol, wrth i raglenni / prosiectau / strategaethau / blaenoriaethau newydd ddod i'r amlwg a phan cytunir i’w cynnwys yn y cynlluniau.

Mae ein cynlluniau, felly, yn ddogfen hanfodol ar gyfer pob un o'n cyfarwyddiaethau. Dylent fod yn gasgliad cynhwysfawr o'r holl weithgareddau pwysig y mae pob cyfarwyddiaeth yn eu cyflawni. Wrth adrodd am y cynnydd sydd wedi'i wneud, dylai fod yn bosibl adrodd am gynnydd o fewn y gyfarwyddiaeth, ond hefyd am gyfraniadau at gynlluniau a strategaethau allweddol y sefydliad.

Bydd gweithgareddau allweddol o fewn Cynlluniau Gwasanaeth yn cael eu cynnwys yn ein Cynllun Cyflawni Blynyddol, sef ein mecanwaith ar gyfer sicrhau ein bod yn parhau i fwrw ymlaen â'r dyheadau, fel y nodir yn y Cynllun Sirol. Mae'r iteriad diweddaraf o'n Cynllun Cyflawni ar gael yma.

Felly, bydd monitro cynlluniau gwasanaeth fel mater o drefn yn galluogi'r Cyngor i fonitro camau gweithredu allweddol sy'n gysylltiedig â Chynllun Sirol y Cyngor a’i gynlluniau cyflawni strategol. Rydym yn adrodd am y cynnydd gyda’n Cynllun Cyflawni Blynyddol ddwywaith y flwyddyn gerbron y Cyngor, bob mis Gorffennaf a mis Rhagfyr. Gallwch weld adroddiadau'r Cyngor yma.

Byddwn hefyd yn defnyddio ein hadroddiadau monitro yn ystod y flwyddyn i oleuo ein Hadroddiad hunanasesu a llesiant blynyddol statudol, sy'n cael ei gyhoeddi'n flynyddol bob blwyddyn ym mis Hydref.

Diwygiwyd Diwethaf: 19/11/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Gwella

Ffôn: 01495 742158

Nôl i’r Brig