Monitro Risg

Yn rhan o'r dyletswyddau a osodwyd arnom gan Fesur newydd Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, nid yw'n ofynnol rhagor sefydlu Asesiad Risg ar y Cyd y cytunwyd arno gyda'n rheoleiddwyr allanol. Fodd bynnag, mae angen inni arddangos o hyd fod gennym drefniadau priodol ar waith i reoli ein swyddogaethau corfforaethol a gwasanaeth mewn modd strategol a gweithredol.             

Mae proses cynllunio gwella gwasanaeth y Cyngor bellach yn cynnwys fformat ar gyfer amlygu ein risgiau posibl. Mae'r fformat yn gofyn bod meysydd gwasanaeth yn amlygu unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â darparu gweithgareddau yn eu cynlluniau gwasanaeth blynyddol, a'u bod yn rhoi lefel i bob risg, yn amrywio o lefel isel i lefel uchel iawn, yn seiliedig ar yr effaith bosibl ac ar debygolrwydd y risg honno'n digwydd. 

Mae pob maes gwasanaeth yn cynnig camau lliniaru i fynd i'r afael â'r risgiau a nodwyd mewn cysylltiad â gweithgareddau eu gwasanaeth a chanlyniadau'r Cynllun Corfforaethol. Caiff effeithiolrwydd y camau lliniaru hyn ei fonitro yn ystod y flwyddyn ac ailasesir lefel pob risg er mwyn i'r Cyngor wybod am unrhyw fygythion posibl i ddarpariaeth gwasanaeth neu gyfleoedd a gollwyd. 

Gellir lawrlwytho copi o Gofrestr Risg gyfredol y Cyngor yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 02/03/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Improvement Team

Ffôn: 01495 766038

E-bost: improvement@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig