Y Gofrestr Risgiau

Y Gofrestr Risgiau
Cyf. RisgSgôr Risg Haen y RisgDisgrifiad o'r RisgSgôr Tebygolrwydd Disgrifiad TebygolrwyddSgôr EffaithDisgrifiad o'r EffaithCyferiaid Hynt PresennolDyddiad Disgwyliedig Dad-ddwysâdTrin neu OddefSwyddog sy'n Gyfrifol
1 20 Corfforaethol Mae perygl na fydd ysgolion o flaenoriaeth ym Mand B yn cael eu gwella oherwydd diffyg arian.    5 Sicr 4 Sylweddol Sefydlog Ch4 23/24 Trin   Cyfarwyddwr Strategol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd
23 16 Corfforaethol Mae perygl na fydd Torfaen yn taro targedau ailgylchu statudol Llywodraethau Cymru yn y tymor hir oherwydd diffyg gallu’r trigolion i ailgylchu’n gywir, gan arwain at ddirwyon sylweddol i'r Cyngor. 4 Bron yn sicr 4 Sylweddol Sefydlog Rhag-2024 Trin   Cyfarwyddwr Strategol Economi ac Amgylchedd
56 16 Corfforaethol Mae perygl y bydd llai o leoliadau maeth a phreswyl ar gael i blant ag anghenion cymhleth, felly’n arwain at ddefnyddio lleoliadau heb eu rheoleiddio, sy'n costio’n sylweddol fesul lleoliad, gan arwain yr Awdurdod Lleol i fynd yn groes i reoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru.  O ganlyniad, mae yna gynnydd yn y risg y bydd yr ALl yn wynebu ymchwiliad troseddol ac erlyniad wedyn o ganlyniad i dorri'r rheoliadau. 4 Bron yn sicr 4 Sylweddol Sefydlog Mawrth 2024   dylai effaith mentrau'r flwyddyn fod yn lleihau nifer y lleoliadau sydd heb eu rheoleiddio. Trin   Cyfarwyddwr Strategol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd
61 16 Corfforaethol Mae perygl oherwydd methu â chyrraedd targedau ailgylchu statudol (64%) yn 2021-22 y bydd y Cyngor yn cael dirwyon gan Lywodraeth Cymru. 4 Bron yn sicr 4 Sylweddol Sefydlog Disgwyl dad-ddwysáu’r risg erbyn Mawrth 24 Trin   Cyfarwyddwr Strategol Economi ac Amgylchedd
72 16 Corfforaethol Mae perygl y bydd y Cyngor yn methu â sicrhau na all cenedlaethau'r dyfodol sy'n byw yn Nhorfaen elwa o amgylchedd naturiol fioamrywiol sy'n cefnogi eu lles. Mae'r gwaith o gyflwyno'r Cynllun Cyflawni Argyfwng Hinsawdd a Natur yn llwyddiannus yn ddibynnol ar dechnoleg ac offer mesur newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg. Felly, y perygl ar hyn o bryd yw ein gallu i ddeall effaith y camau gweithredu a fwriedir, yn llawn. 4 Bron yn sicr 4 Sylweddol Sefydlog Diweddariad Blynyddol Ch1 2024/25 Trin   Cyfarwyddwr Strategol Economi ac Amgylchedd
74 20 Corfforaethol Mae perygl na fydd y Cyngor yn llwyddo i gefnogi, arwain a hwyluso'r Fwrdeistref yn ddigonol i fod yn garbon sero-net erbyn 2050.  Mae'r gwaith o gyflwyno'r Cynllun Cyflawni Argyfwng Hinsawdd a Natur yn llwyddiannus yn ddibynnol ar dechnoleg ac offer mesur newydd yn ogystal â rhai sy'n dod i'r amlwg. Felly, y perygl ar hyn o bryd yw ein gallu i ddeall effaith y camau yr ydym yn bwriadu eu cymryd, yn llawn. 4 Bron yn sicr 5 Argyfyngus Sefydlog Diweddariad Blynyddol Ch12024/25 Trin   Cyfarwyddwr Strategol Economi ac Amgylchedd
81 16 Corfforaethol Mae perygl y bydd y Cyngor yn methu â chyflawni prosiectau/rhaglenni rheoli eiddo/asedau allweddol oherwydd prinder staff medrus a phrofiadol. 4 Bron yn sicr 3 Cymedrol Cynyddu Parhau i Fonitro Trin   Cyfarwyddwr Strategol Economi ac Amgylchedd
100 16 Corfforaethol Mae perygl y gallai cyflwr y to yng nghyfleuster pentyrru a bwndelu Tŷ Coch effeithio ar brosesu ailgylchu yn y safle, gan effeithio ar weithrediadau casglu ailgylchu a chyfradd ailgylchu'r Cyngor   4 Bron yn sicr 4 Sylweddol Newydd Meh-24 Trin   Cyfarwyddwr Strategol Economi ac Amgylchedd
4 12 Cyfarwyddiaeth Mae perygl y bydd y cynnydd yn niferoedd atgyfeiriadau gan y boblogaeth oedolion sy’n ddibynnol, a chymhlethdod eu natur yn rhoi mwy o straen ar wasanaethau a arweinir gan alw (statudol) gan greu amseroedd aros amhriodol, yn peri bygythiad i annibyniaeth , ymreolaeth a chanlyniadau unigolion sydd angen gofal a chymorth. 3 Tebygol 4 Sylweddol Sefydlog Dylai effaith ailstrwythuro Oedolion a Chymunedau weld hyn yn gostwng yn faterol o fis Mawrth 2024 Trin   Cyfarwyddwr Strategol dros Oedolion a Chymunedau
8 5 Cyfarwyddiaeth Gallai’r Cyngor fethu i barhau i ddarparu gwasanaethau yn ei adeiladau oherwydd cyfyngiadau ar adnoddau a natur asedau sy’n heneiddio (yn cynnwys strwythur, peiriannau a gwasanaethau). 1 Posibl  5 Argyfyngus Cynyddu Parhau i Fonitro Trin   Cyfarwyddwr Strategol Economi ac Amgylchedd
11 10 Cyfarwyddiaeth Mae perygl y gall y Cyngor wynebu diffyg cynaladwyedd ariannol os na chytunir ar gynllun corfforaethol, cynllun gwasanaeth a chynllun ariannol tymor canolig priodol. 2 Posibl  5 Argyfyngus Sefydlog Chw-2024 Trin Dirprwy Prif Weithredwr  
14 12 Cyfarwyddiaeth Mae perygl na fydd modd ateb y galw am gartrefi a thai fforddiadwy o safon / fforddiadwy os na allwn gynyddu'r cyflenwad. 4 Tebygol 3 Cymedrol Sefydlog Goddef Goddef Cyfarwyddwr Strategol dros Oedolion a Chymunedau
19 15 Cyfarwyddiaeth Mae perygl na fydd y cyngor o bosib yn gallu cwrdd â'i ofynion statudol i asesu a lleoli pobl ifanc ag anghenion dysgu hyd at 25 oed pan ddaw'r ddeddf i rym.  3 Tebygol 5 Argyfyngus Sefydlog Ch4 23/24   Trin   Cyfarwyddwr Strategol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd
21 12 Cyfarwyddiaeth Heb ddigon o arian, mae perygl y bydd cyflwr rhwydwaith priffyrdd y cyngor, yn parhau i ddirywio. 4 Bron yn sicr 3 Cymedrol Sefydlog Ch3 24/25  Trin   Cyfarwyddwr Strategol Economi ac Amgylchedd
39 12 Cyfarwyddiaeth Mae perygl y bydd nifer y tai sector preifat (sy'n cael ei rentu) yn gostwng ymhellach ac na fyddant yn fforddiadwy i nifer o drigolion yn Nhorfaen. 4 Bron yn sicr 3 Cymedrol Sefydlog Goddef Goddef Cyfarwyddwr Strategol dros Oedolion a Chymunedau
46 12 Cyfarwyddiaeth Mae perygl y bydd cartrefi preswyl, cartrefi nyrsio lleol ac asiantaethau gofal cartref yn rhoi'r gorau i fasnachu yn y farchnad bresennol a fydd yn effeithio ar y gallu i gomisiynu cefnogaeth briodol i bobl fregus 3 Tebygol 4 Sylweddol Sefydlog Mawrth 24 Trin   Cyfarwyddwr Strategol dros Oedolion a Chymunedau
47 9 Cyfarwyddiaeth Mae perygl na fydd plant sydd angen ymyriadau cynnar yn cael cymorth oherwydd bod plant â mwy o anghenion yn cael y flaenoriaeth a chyrhaeddir y capasiti ar lefel ataliol. 3 Tebygol 3 Cymedrol Gostwng Goddef Goddef Cyfarwyddwr Strategol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd
54 9 Cyfarwyddiaeth Mae perygl o fframwaith polisi lleol statudol wan o ran penderfynu ar geisiadau cynllunio/apeliadau ar ôl 31 Mawrth 2021 pan fydd y Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd i Dorfaen yn dod i ben. 3 Tebygol 3 Cymedrol Sefydlog Adolygiad Rhag 2026 Trin   Cyfarwyddwr Strategol Economi ac Amgylchedd
58 12 Cyfarwyddiaeth Mae perygl y bydd coed yn disgyn yn peryglu pobl, eiddo a’r amgylchedd oherwydd clefyd ffwngaidd sy’n effeithio ar Goed Ynn (Fraxinus Excelsior)    3 Tebygol 4 Sylweddol Sefydlog Maw-25 Trin   Cyfarwyddwr Strategol Economi ac Amgylchedd
64 12 Cyfarwyddiaeth Mae perygl y gall safonau fethu â gwella ar y cyflymder priodol o ganlyniad i faterion a nodwyd yn ansawdd addysgu, dysgu ac arweinyddiaeth yn un o'n hysgolion uwchradd.   4 Bron yn sicr 3 Cymedrol Gostwng Ch1 24/25 Trin   Cyfarwyddwr Strategol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd
67 9 Cyfarwyddiaeth Mae perygl y byddwn yn methu â recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol eang y sector yn effeithio ar ein gallu i asesu a chefnogi ein trigolion bregus mewn modd amserol. 3 Tebygol 3 Cymedrol Sefydlog Erbyn mis Mawrth 2024 dylai effaith mentrau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol fod yn effeithio ar recriwtio a chadw staff. Trin   Cyfarwyddwr Strategol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd
70 12 Cyfarwyddiaeth Mae perygl y gallai tomenni glo symud yn Nhorfaen gyda'r potensial i ddifrodi eiddo, asedau neu dir. 3 Tebygol 4 Sylweddol Sefydlog I’w adolygu ar ôl i’r ddefwriaeth gael ei chymeradwyo Trin   Cyfarwyddwr Strategol Economi ac Amgylchedd
73 12 Cyfarwyddiaeth Mae perygl na fydd y Cyngor yn llwyddo i droi'n carbon sero net erbyn 2030.  Mae'r gwaith o gyflwyno'r Cynllun Cyflawni Argyfwng Hinsawdd a Natur yn llwyddiannus yn ddibynnol ar dechnoleg ac offer mesur newydd yn ogystal â rhai sy'n dod i'r amlwg. Felly, y perygl ar hyn o bryd yw ein gallu i ddeall effaith ein camau gweithredu arfaethedig yn llawn. 3 Tebygol 4 Sylweddol Sefydlog Diweddariad Blynyddol Ch1 2024/25 Trin   Cyfarwyddwr Strategol Economi ac Amgylchedd
76 15 Cyfarwyddiaeth Mae perygl, oherwydd y newidiadau ym mholisi digartrefedd Llywodraeth Cymru "Neb Heb Help" bydd cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion digartrefedd a chyflenwad annigonol o lety dros dro i'r unigolion hynny sy’n destun dyletswydd dan Ddeddf Tai Cymru 2014. 5 Bron yn sicr 3 Cymedrol Sefydlog Goddef Goddef Cyfarwyddwr Strategol dros Oedolion a Chymunedau
77 12 Cyfarwyddiaeth Mae perygl na fydd canlyniadau i ddysgwyr yn gwella, yn enwedig yn ein hysgolion uwchradd.   3 Tebygol 4 Sylweddol Lleihau  Ch1 24/25 Trin Cyfarwyddwr Strategol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd
78 12 Cyfarwyddiaeth Mae perygl na fydd y Cyngor yn cyflawni ei amcanion strategol ar gyfer addysg heb systemau perfformiad a hunanwerhis trwyadl. 3 Tebygol 4 Sylweddol Lleihau  Ch4 23/24 Trin Cyfarwyddwr Strategol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd
79 12 Cyfarwyddiaeth Mae perygl na fydd y ddarpariaeth i ddysgwyr, gan gynnwys y rheiny ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, cystal ag y gallai fod onid yw'r arweiniyddiaeth strategol yn y Gwasanaeth Addysg yn gwella. 3 Tebygol 4 Sylweddol Lleihau  Ch4 23/24 Trin Cyfarwyddwr Strategol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd
80 12 Cyfarwyddiaeth Mae yna berygl y bydd cwmniau sy'n gweithredu bysiau yn dat-gofrestru gwasanaethau bws trwy gydol 2024/2025 ac y bydd hyn yn cael effaith ar hyfywedd tymor hirach gwasanathau bws ar draws Torfaen ac yn arwain at anawsterau hygyrchedd ac, o bosibl, ynysu ymhlith pobl sy'n agored i niwed. 3 Tebygol 4 Sylweddol Cynyddu Goddef Goddef Cyfarwyddwr Strategol Economi ac Amgylchedd
87 9 Cyfarwyddiaeth Mae perygl na fydd y Cyngor yn gallu gosod eiddo yn ei bortffolio masnachol oherwydd newidiadau graddol yn y rheoliadau Safonau Effeithlonrwydd Ynni Gofynnol (MEES) gan arwain at ostyngiad yn y ffrwd incwm flynyddol ac asedau sydd yn werth llai dros amser 3 Tebygol 3 Cymedrol Sefydlog Disgwyl Dad-ddwysáu'r risg erbyn Mawrth 2024 Trin   Cyfarwyddwr Strategol Economi ac Amgylchedd
89 12 Cyfarwyddiaeth Mae perygl y bydd cynnydd arafach gyda thrawsnewid digidol pe bai dibyniaeth ar dîm canolog i ddarparu pob gweithgaredd trawsnewid. 4 Bron yn sicr 3 Cymedrol Sefydlog Rhag-24 Trin   Cyfarwyddwr Strategol dros Oedolion a Chymunedau
49A 10 Cyfarwyddiaeth Mae perygl i iechyd a diogelwch yn sgil peryglon naturiol ar y safle’r British sy’n hygyrch i'r cyhoedd 2 Posibl  5 Argyfyngus Sefydlog Goddef Goddef Cyfarwyddwr Strategol dros Oedolion a Chymunedau
49B 12 Cyfarwyddiaeth Mae perygl y gallai methu â chwblhau gwaith Cam 1 ar Safle’r British gael effaith niweidiol a hynny’n ariannol ac o ran enw da.   3 Tebygol 4 Sylweddol Sefydlog Meh-24 Trin   Cyfarwyddwr Strategol dros Oedolion a Chymunedau
95 9 Cyfarwyddiaeth Mae perygl na fydd ysgolion yn gallu darparu amgylchedd dysgu effeithiol a diogel os oes gwaith atgyweirio neu gynnal a chadw adeiladau ysgol a/neu os yw safleoedd yn annigonol a/neu’n aneffeithiol 3 Tebygol 3 Cymedrol Sefydlog Dyddiad Adolygu Blynyddol Ch3 24/25 Trin   Cyfarwyddwr Strategol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd
97 9 Cyfarwyddiaeth Mae yna risg i iechyd a diogelwch defnyddwyr adeiladau a staff oherwydd ansicrwydd parhaus o gylch trenfiadau rheoli adeiladau.  3 Tebygol 3 Cymedrol New Ebr-2024 Trin   Cyfarwyddwr Strategol dros Oedolion a Chymunedau
98 12 Cyfarwyddiaeth Mae risg, os bydd presenoldeb mewn ysgolion yn parhau i fod yn sywleddol is na lefelau cyn y pandemig, y bydd effaith negyddol ar gyrhaeddiad a lles plant. 3 Tebygol 4 Sylweddol New Chwarter 2 2024/25 Trin   Cyfarwyddwr Strategol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd
99 12 Cyfarwyddiaeth Mae risg y gallai ysgolion fod heb Wasanaeth SIMS os nad ydynt wedi symud draw at SIMS Connect erbyn y dyddiad terfyn yn Rhagfyr.  4 Bron yn sicr 3 Cymedrol New Maw-24 Trin   Cyfarwyddwr Strategol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd
12 3 Gwasanaeth  Mae perygl y gellir rhwystro’r gwasanaethau a ddarperir yn y tymor hir heb gynllunio strategol ar gyfer y gweithlu. 1 Prin 3 Cymedrol Sefydlog Risg i barhau hyd nes y bydd pob gweithgaredd yn y strategaeth wedi eu cwblhau Trin   Dirprwy Prif Weithredwr  
28 4 Gwasanaeth  Mae perygl bod Gwerth Cyffredinol Eithriadol Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon mewn perygl, a allai, o bosib arwain at golli statws Safle Treftadaeth Byd (STB) a niwed i enw da'r Cyngor. 1 Prin 4 Sylweddol Sefydlog Adolygu ar ôl  cael canlyniadau Adolygiad Cyfnodol  WHS Trin   Cyfarwyddwr Strategol dros Oedolion a Chymunedau
30 6 Gwasanaeth  Mae perygl y gellir effeithio’n andwyol ar gyllid y cyngor o ganlyniad gorwario yn erbyn terfynau cyllideb gorfforaethol. 2 Posibl  3 Cymedrol Sefydlog Parhau Trin Dirprwy Prif Weithredwr  
31 3 Gwasanaeth  Mae perygl y bydd y cyngor yn wynebu dirwyon / posibilrwydd o gael gwared ar elfen o'i gyfleuster talu â chardiau os nad yw Safonau'r Diwydiant Cerdyn Talu yn cael eu bodloni. 1 Prin 3 Cymedrol Sefydlog Goddef Goddef Dirprwy Prif Weithredwr  
32 6 Gwasanaeth  Mae perygl y gellir mynd i gostau ychwanegol a/neu golli cynhyrchiant os nad yw absenoldeb oherwydd salwch yn cael ei reoli'n effeithiol, heb fynd i’r afael â chynnydd yn yr absenoldebau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl gwael. 2 Posibl  3 Cymedrol Sefydlog Goddef Goddef Dirprwy Prif Weithredwr  
48 8 Gwasanaeth  Mae perygl y gallai llywodraethu a rheoli gwybodaeth wael gael effaith andwyol ar gyllid ac enw da'r cyngor ac y gallem fethu â chydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data. 2 Posibl  4 Sylweddol Sefydlog Goddef Goddef Cyfarwyddwr Strategol dros Oedolion a Chymunedau
63 8 Gwasanaeth  Mae perygl bod Lleoliadau Tu Allan i'r Sir ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol cymhleth yn dsigwydd yn amlach ac maent yn fwy costu 2 Posibl  4 Sylweddol Sefydlog Goddef Goddef Cyfarwyddwr Strategol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd
71 6 Gwasanaeth  Mae perygl bod ein gallu i gadw cofnodion rheoli gofal cywir a diogel ar gyfer Plant, Teuluoedd ac Oedolion sy’n derbyn gwasanaethau statudol os na fydd ein System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) yn anaddas at y diben.   2 Posibl  3 Cymedrol Sefydlog Goddef Goddef Cyfarwyddwr Strategol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd
86 6 Gwasanaeth  Mae perygl y bydd y Cyngor yn methu dod o hyd i fodel gweithredu priodol,  newydd a’i weithredu ar gyfer Canolfan Arloesi Springboard, felly’n arwain at ganlyniadau datblygu economaidd is, a’r galw ar CBST barhau i ddarparu cymhorthdal ariannol 2 Posibl  3 Cymedrol Sefydlog Disgwyl dad-ddwysáu'r risg erbyn Mawrth 2024 Trin   Cyfarwyddwr Strategol Economi ac Amgylchedd
90 6 Gwasanaeth  Mae perygl bod atebion TGCh a Digidol yn cael eu caffael:
- Nad ydynt yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth neu’r safonau angenrheidiol (ee hygyrchedd, diogelwch, GDPR, y Gymraeg, NEU;
- Nad ydynt yn diwallu anghenion busnes, NEU;
- Efallai nad oes eu hagen oherwydd atebion presennol sydd eisoes ar gael
2 Posibl  3 Cymedrol Sefydlog Adolygu ar ddiwedd y flwyddyn gyda'r bwriad o ddad-ddwysáu Mawrth 2024 Trin   Cyfarwyddwr Strategol dros Oedolion a Chymunedau
91 8 Gwasanaeth  Mae perygl y gallai ymosodiadau parhaus a chyson ar y rhwydwaith corfforaethol effeithio’n sylweddol ar fusnes gweithredol y Cyngor ac o ganlyniad gellir colli data sylweddol. 2 Posibl  4 Sylweddol Sefydlog Bydd y risg bob amser yn bodoli a byddwn yn ei thrin yn unol â hynny  Trin   Cyfarwyddwr Strategol dros Oedolion a Chymunedau
92 5 Gwasanaeth  Mae risg y bydd methu â thalu costau prydiau ysgol i i ddisgyblion yn arwain at ddiffyg ariannol yn y gyllideb arlwyo. Argyfwng costau byw yn ychwanegu pwysau ychwanegol ar deuluoedd lleol a allai gael effaith uniongyrchol arlefelau dyled.  Byddai awydd gwleidyddol i gosbi teuluoedd nad ydynt yn talu'n isel.  5 Sicr 1 O Fawr Bwys Sefydlog Maw-24 Trin   Cyfarwyddwr Strategol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd

* Trin - Lleihau'r risg i lefel dderbyniol drwy gymryd camau(au) lliniarol
* Goddef - Gall y Cyngor oddef risg lle na ellir lliniaru'r risg yn gost effeithiol neu ei lliniaru'n effeithiol gan reolaethau mewnol hyd yn oed os yw'n parhau'n uchel

Diwygiwyd Diwethaf: 29/02/2024 Nôl i’r Brig