Croeso i Dorfaen

Y Lle

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yw’r drydedd fwrdeistref leiaf yng Nghymru ac mae’n gorwedd ychydig i’r gogledd o goridor yr M4. Mae’n ffinio â Sir Fynwy, Casnewydd, Caerffili a Blaenau Gwent. Yn ogystal, Torfaen yw’r drydedd ardal awdurdod lleol dwysaf ei phoblogaeth yng Nghymru ac mae ganddi boblogaeth o dros 91,000 o bobl a 18 Ward Etholiadol a gynrychiolir gan 40 o gynghorwyr. Mae’n gwm amrywiol ei natur sydd 12 milltir o hyd ac yn ymestyn o Flaenafon yn y gogledd i Gwmbrân yn y de. Fel cymoedd eraill Cymru, mae gan yr ardal dreftadaeth haearn, dur a glo bwysig.

Sefydlwyd Blaenafon er mwyn ymelwa ar yr adnoddau glo a haearn yn yr ardal. Â hithau yn amgylchedd dramatig sy’n gyfoeth o asedau diwylliannol a hanesyddol ac yn llawn amrywiaeth ecolegol, arysgrifiodd UNESCO y dirwedd ddiwylliannol o amgylch Blaenafon ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd yn 2000. Mae’n un o bedwar Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru a chydnabu UNESCO fod Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn un o’r ardaloedd gorau yn y byd lle mae modd astudio proses gymdeithasol, economaidd a thechnolegol gyflawn diwydiannaeth trwy gynhyrchu haearn a glo, a deall y broses honno.

Mae’r ardal yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ac mae ganddi lawer o nodweddion treftadaeth pwysig sy’n gysylltiedig â’i gorffennol diwydiannol. Erbyn hyn, mae’r dref yn enwog oherwydd Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, ei gwaith haearn o’r 18fed ganrif, Rheilffordd Dreftadaeth Blaenafon, Neuadd y Gweithwyr a Chanolfan Treftadaeth y Byd. Oherwydd ei hamgylchedd naturiol dramatig, a’r ffaith ei bod yn agos at Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae hefyd yn denu llawer o gerddwyr, beicwyr a phobl sydd wrth eu bodd yn yr awyr agored.

Mae Pont-y-pŵl yng nghanol Torfaen ac fe’i hadeiladwyd o amgylch cyfoeth diwydiannol. Honnir yn gadarn mai hon yw’r ‘dref ddiwydiannol’ gyntaf yng Nghymru. Roedd ffwrneisi haearn a gefeiliau ar waith mor gynnar â’r 1400au. Rhwng y 1700au a’r 1900au roedd yr ardal yn ffynnu fel canolfan bwysig ar gyfer haearn a llestri Japan wedi’u tunplatio, a datblygodd tref farchnad a oedd yn haid o weithgarwch. Mae gan y dref gysylltiadau cryf â theulu’r Hanbury, ac mae’r cysylltiadau hynny’n dal i fodoli heddiw. Yn y 19eg ganrif roedd teulu’r Hanbury yn gyfrifol am greu mwyafrif adeiladau dinesig a chrefyddol pwysig y dref, yn ogystal â Pharc Pont-y-pŵl.

Erbyn heddiw, mae Pont-y-pŵl yn adnabyddus am ei threftadaeth bensaernïol nodedig, ei pharc a’i gerddi Eidalaidd rhestredig, ei marchnad Fictoraidd ac ymdeimlad cryf o ysbryd cymunedol. Yng nghanol y dref ceir siopau, swyddi a chyfleoedd niferus ar gyfer hamdden ac ymarfer corff awyr agored a dan do, ac mae Canolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl a Chanolfan Sgïo Pont-y-pŵl ym Mharc Pont-y-pŵl.

Gall cerddwyr ddewis crwydro ar hyd yr Afon Lwyd, archwilio tirweddau’r ucheldir ac ymweld â’r Ffoledd neu’r Groto Cregyn, neu ymlacio yn heddwch Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Mae basn y gamlas ym Mhont-y-moel yn fan cychwyn rhagorol os am archwilio ar hyd y llwybr tynnu . Mae cronlyn Llandegfedd yn igam-ogamu i’r naill ochr a’r llall o ffin Torfaen a Sir Fynwy ac yn lleoliad gwych ar gyfer chwaraeon dŵr, gwylio adar, pysgota a cherdded.

Mae Cwmbrân wedi’i lleoli o amgylch rhwydwaith o bentrefi hŷn ac fe’i dynodwyd yn Dref Newydd gyntaf Cymru yn 1949. Cafodd ei dylunio fel tref nodedig a modern a fyddai’n cynnig cyfleoedd newydd i’w thrigolion. Mae tirwedd Cwmbrân yn wahanol i Flaenafon neu Bont-y-pŵl ac mae’r dref yn swatio rhwng cefndir trawiadol maes glo de Cymru a dyffryn Wysg.

Siopa Cwmbrân Shopping yw’r brif ganolfan siopa ac mae’n denu ymwelwyr o agos ac ymhell. Gyda’i orsaf fysiau a threnau, canol y dref yw prif ganolfan drafnidiaeth gyhoeddus Torfaen. Er bod llawer wedi ei gywasgu i mewn i ardal fechan, mae gan Gwmbrân ddewis helaeth o wasanaethau, o’r ardal siopa wedi’i phedestreiddio i gyfleoedd hamdden, theatr a chelfyddydau. Heddiw, mae Cwmbrân yn dal i fod yn lle poblogaidd i fyw. Mae canol y dref yn llwyddiannus, mae ganddi gysylltiadau rhagorol o ran ffyrdd a thrafnidiaeth, amgylchedd naturiol o ansawdd uchel a dewis amrywiol o swyddi. Gallwch hefyd ymweld â Fferm Gymunedol Greenmeadow, sy’n atyniad poblogaidd, a mwynhau milltiroedd o fannau gwyrdd agored sy’n dilyn llif yr Afon Lwyd ac yn arwain at y llyn cychod.

Y Cyngor

Sefydlwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar 1 Ebrill 1996. Gwerthoedd y cyngor yw bod yn Deg, yn Effeithiol, yn Arloesol ac yn Gefnogol.

Mae’r Cynllun Sirol yn ddogfen strategol allweddol a fydd yn arwain y ffordd y bydd Cyngor Torfaen yn darparu ei wasanaethau dros y pum mlynedd nesaf. Bydd y Cynllun Sirol yn sicrhau bod adnoddau’r cyngor yn canolbwyntio ar weithio gyda chymunedau i greu dyfodol gwell i bobl Torfaen; dyfodol sy’n fwy cyfartal a chynaliadwy.

Mae’n cyflwyno’r Amcanion Llesiant a fydd, ym marn y cyngor, yn creu dyfodol tecach lle mae pob un yn cael cyfle i fyw bywyd iach, annibynnol, waeth pwy ydynt a ble y maent yn byw, lle mae pobl yn cyflawni’r canlyniadau gorau posibl mewn bywyd a phawb yn cyfrannu at greu cymunedau glanach a chryfach.

Mae’r blaenoriaethau hyn yn cydnabod yr heriau y mae trigolion Torfaen yn eu hwynebu yn sgil y straen ar gyllidebau, y cynnydd mewn anghydraddoldebau mewn canlyniadau iechyd a’r cynnydd yn y galw am wasanaethau.

Diwygiwyd Diwethaf: 28/03/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen
Ffôn: 01495 762200

Ebost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig