Sut yr ydym yn monitro'r Cynllun

Rheolir y gweithgarwch y manylir arno yn y cynllun hwn trwy ddull gweithredu cadarn ar gyfer rheoli prosiectau a rheoli perfformiad, er mwyn sicrhau bod unrhyw gynnydd, risgiau ac atebolrwydd dros weithredu yn weladwy.

Elfen hanfodol yw cynnwys trigolion a rhanddeiliaid wrth ddatblygu gwasanaethau a phrosiectau, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y pethau iawn ar yr adeg iawn ac yn y ffordd iawn.

Yn rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 mae’r cyngor wedi adolygu ei drefniadau llywodraethu a chyfranogiad yn fanwl, ac mae hyn wedi arwain at eglurder o ran y modd y gall aelodau o’r cyhoedd fod yn rhan o brosesau penderfynu a chraffu a dal y cyngor i gyfrif.

Rydym yn cydnabod rhan ganolog ein cyflogeion, a gwerth y rôl honno, wrth gyflawni’r cynllun hwn a rhedeg ein gwasanaethau statudol niferus. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn gweithgareddau sy’n sicrhau ein bod yn denu gweithlu medrus ac ymroddgar ac yn cadw’r gweithlu hwnnw. Byddwn hefyd yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i weithio gyda phartneriaid allanol, i rannu arbenigedd penodol i sicrhau bod y cynllun hwn yn cael ei gyflawni.

Mae ein Cynllun Sirol 2022-27 yn dangos yr allbynnau y byddwn yn eu monitro er mwyn dangos cynnydd a’r canlyniadau lefel uchel, a fydd yn dystiolaeth o lwyddiant ein huchelgeisiau. Byddwn yn rheoli gweithgarwch trwy ddull rheoli prosiectau cadarn, er mwyn sicrhau bod ein cynnydd ac unrhyw risgiau ac atebolrwydd dros gyflawni’r cynllun, yn weladwy, a bydd hwn yn sylfaen ar gyfer ein hadroddiadau a’n gwaith monitro chwarterol ar gyfer 2022/23 ac wedi hynny.

Bydd ein proses o gynllunio gwasanaethau yn ganolog wrth i ni wireddu ein dyheadau. Rydym yn datblygu’r broses er mwyn sicrhau bod cynlluniau pob maes gwasanaeth yn ddogfennau cynhwysfawr, byw, sy’n gerbyd ar gyfer cyflawni’r holl gynlluniau a strategaethau lefel uchel, adrodd arnynt a rhoi cyfrif amdanynt. Byddwn yn parhau i feithrin diwylliant o berfformio ar lefel uchel ar draws y cyngor, gan fonitro effaith ein gweithgarwch yn rheolaidd er mwyn ein galluogi i ddatblygu fel sefydliad ac i wireddu ein dyheadau ar gyfer Torfaen.

  • Y Cynghorydd Anthony Hunt - Arweinydd Cyngor Torfaen
  • Y Cynghorydd Richard Clark - Dirprwy Arweinydd Cyngor Torfaen / Aelod o’r Cabinet dros Addysg Y
  • Cynghorydd Sue Morgan - Aelod o’r Cabinet dros Adnoddau
  • Y Cynghorydd David Daniels - Aelod o’r Cabinet dros Wasanaethau Oedolion a Thai
  • Y Cynghorydd Fiona Cross - Aelod o’r Cabinet dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau
  • Y Cynghorydd Joanne Gauden - Aelod o’r Cabinet dros Yr Economi, Sgiliau ac Adfywio
  • Y Cynghorydd Amanda Owen - Aelod o’r Cabinet dros Yr Amgylchedd
  • Y Cynghorydd Peter Jones - Aelod o’r Cabinet dros Lywodraethu Corfforaethol a Pherfformiad
Diwygiwyd Diwethaf: 15/02/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen
Ffôn: 01495 762200

Ebost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig