Hanes Parc Pont-y-pŵl

Mae Parc Pont-y-pŵl yn cynnwys rhyw 64 hectar a chafodd ei osod yn wreiddiol tua 1703 fel ystâd breifat.

Mae hen 'fap' yn dangos rhodfeydd o gastanwydd melys a ffawydd yn dilyn amlinell y cymoedd i fyny tuag at y Tŵr Ffoli.

Mae llawer o'r hen gastanwydd melys yn dal i'w gweld, o amgylch Pyllau Nant-y-Gollen a ger Cylch Meini'r Orsedd ac yn ôl y sôn dyma'r rhai mwyaf mor bell i'r gogledd â hyn.  Cawsant eu plannu'n wreiddiol i gynhyrchu golosg ar gyfer y gefeiliau haearn ar hyd yr Afon Lwyd.

Yn ystod y 100 mlynedd nesaf plannwyd castanwydd, derw, ffawydd ac yw gan guddio'r rhodfeydd ffurfiol a chreu'r ardaloedd coediog ar hyd yr afon a'r prif lwybr i Bontymoile. Cadwodd y Parc ei gymeriad agored a'r golygfeydd tuag ar y crib ffawydd.  Roedd y Groto Cregyn a'r dref ei hun i'w gweld yn amlwg.

Ar ddechrau’r 20fed ganrif, daeth y Parc yn eiddo i'r cyhoedd er budd cymuned Pont-y-pŵl.

Cafodd planhigfeydd coniffer eu cyflwyno yn ystod y 1950-60au a chawsant eu gadael heb eu rheoli ac mae hyn, ynghyd â thyfiant nifer o'r coed a blannwyd yn wreiddiol, wedi newid y tirlun i fod yn barc coediog aeddfed yn bennaf gyda rhywfaint o ddolydd agored.

Mae'r Parc yn cynnwys nifer o ardaloedd hanesyddol yn cynnwys y Gerddi Eidalaidd, Twnnel y Dramffordd, Rhewdai a Groto Cregyn.  Cafodd y Groto Cregyn ei adeiladu oddeutu 1829 gan Molly Mackworth fel tŷ haf, rhyw 220m uwchben yr ardal o amgylch ac mae golygfeydd ysblennydd ar draws y wlad agored ac Aber Hafren oddi yno.

Cronoleg o Ddyddiadau Pwysig

Cronoleg o Ddyddiadau Pwysig
DateEvent
1576 Richard Hanbury'n dod i Bont-y-pŵl
1655 Capel Hanbury yn cymryd prydles am 'lain o dir o'r enw Pont-y-pŵl, ynghyd â'r efail ac adeiladwyd gyda hynny'
1689 Capel Hanbury yn prynu ardal sylweddol o'r hyn a ddaeth i'w adnabod yn ddiweddarach fel Parc Pont-y-pŵl
1694

Uwchgapten John Hanbury yn adeiladu'r tŷ cyntaf yn y Parc 1720 adeiladu giatiau Pontymoile

1730

Ralph Allen o Prior Park (Caerfaddon) yn ymweld

1752

Tŷ yn ehangu tua'r gorllewin

1765 Gwneud bwrdd Japan
1808

Adeiladu gwaith tun Pontymoile

1800-10 Ailwampio'r tŷ yn gyfan gwbl i wynebu'r de
1830au Adeiladu'r Groto Cregyn
1831 Datgymalu Gefail y Parc
1834 Tŵr Ffoli Castellog yn cael ei adeiladu ar safle bresennol y tŷ haf
1835

Ail fodelu Giatiau Pontymoile

1835

Cwblhau'r stablau, dymchwel y colomendy a'r capel  

Wedi 1834

Dymchwel Gefail y Dref

1850au Datblygu'r Gerddi Americanaidd
1872 John Hanbury Leigh yn dymchwel pen gorllewinol y tŷ ac adeiladu'r estyniad Fictorianaidd presennol
1915 Tŷ'n cael ei osod i Chwiorydd yr Ysbryd Glân
1920 Gwerthu'r Parc i'r awdurdodau cyhoeddus
1920 Cau rheilffordd y dramffordd
1923 Creu Cylch Meini'r Orsedd
1924 Eisteddfod Genedlaethol Cymru
1924 Adeiladu cyrtiau tennis
1924 Gerddi Eidalaidd yn cael eu trosglwyddo i'r awdurdodau lleol
1925 Gosod y lawnt fowlio
1925 Gosod y cae rygbi (hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer criced)
1931 Codi'r Safle Seindorf
1940 Dymchwel y Tŵr Ffoli
1945 Adeiladu'r Eisteddle
1952 Codi'r Cloc Coffa
1952 Plannu'r Rhodfa Geirios
1959 Dymchwel Porthdy Pontymoile
1974 Adeiladu canolfan hamdden ac ardal chwarae
1975 Adeiladu llethr sgïo sych
1994 Agor y Tŵr Ffoli newydd yn swyddogol gan EUB y Tywysog Charles
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig