Gwaith Adfer Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Bu Parc Pont-y-pŵl yn llwyddiannus yn cael cymorth grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i adfer ardaloedd hanesyddol penodol a nodweddion y Parc.

Mae ardaloedd y prosiect yn cynnwys:

  • Amnewid y goleuo ar hyd y prif lwybrau gyda golau mwy 'cadarn' ond o arddull sy'n gweddu
  • Gwella ac uwchraddio llwybrau gyda gorffeniad graean er mwyn cael gwared ar y teimlad trefol sy'n cael ei gysylltu â tharmac du
  • Arolwg llawn o'r hen goed a gwaith adferol cysylltiedig
  • Ailwampio Giatiau Pontymoile a'r ardal allanol
  • Adfer y rhewdai dwbl
  • Adfer y Gerddi Eidalaidd
  • Ail adeiladu'r waliau terfyn cerrig
  • Gosod hysbysfyrddau ac arwyddion
  • Ailwampio'r ffensio o amgylch y Groto Cregyn
  • Rheoli glaswelltir ac ecoleg
  • Ailwampio ac ail leoli Giatiau'r Ysgol

 

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Parc Pont-y-pŵl

Ffôn: 01495 766754

 

Nôl i’r Brig