Rhewdai

Mae'r rhewdai ym Mharc Pont-y-pŵl yn arwyddocaol iawn. Maen nhw'n unigryw o fewn Prydain gan nad oes unrhyw gofnod arall o rewdy siambr ddwbl.  Mae'r ffaith bod ganddynt siambr ddwbl ond wedi eu hadeiladu fel un adeilad yn eu gwneud yn nodweddion arbennig o ddiddorol. Fel arfer un siambr yn unig oedd gan rewdy ac roedden nhw'n cael eu hadeiladu'n unigol yn hytrach na fel pâr. Mae eu lleoliad - mor agos at gartref y teulu Hanbury - hefyd yn anghyffredin (Mae Tŷ'r Parc / Park House bellach yn gartref i Ysgol St Albans).

Mae nifer o gofnodion bod y rhewdai wedi dioddef tirlithriad y tu ôl i'r adeilad sydd wedi gorchuddio'r drws mynediad.  Mae ymchwil wedi dangos nad yw hyn yn wir ac mai'r agoriad ar ben yr adeilad yw'r fynedfa.  Mae hefyd yn debygol bod gan yr adeilad do a allai fod yn do gwellt er mwyn sicrhau hynny o insiwleiddio â phosib. 

Byddai'r rhew i lenwi'r tai wedi cael ei gymryd o Byllau Nant-y-Gollen a Chamlas Mynwy ac Aberhonddu gerllaw.  Ym 1864 nododd y Free Press bod "digon o rew ar gael a bod llawer ohono wedi ei glustnodi ar gyfer rhewdai'r Parc”.

Yn ystod y cyfnod hwn roedd rhew wedi ei heintio ac nid oedd yn cael ei ddefnyddio i baratoi bwyd er, yn y blynyddoedd diweddarach gyda dyfodiad y rheilffordd, gellid prynu rhew glan a gellid ei ddefnyddio mewn bwyd.

Mae'r rhewdai wedi cael eu hadfer yn llawn bellach gydag arian gan Cadw, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Parc Pont-y-pŵl

Ffôn: 01495 766754

 

Nôl i’r Brig