Barbeciws

Gallwch gael barbeciw yn y mwyafrif o barciau neu fannau gwyrdd sy'n eiddo i'r Cyngor. Efallai y bydd gan barciau a mannau gwyrdd arwyddion yn ymwneud â barbeciws y dylech eu hufuddhau bob amser.

Yn ystod cyfnodau hir o dywydd sych a phoeth, byddem yn eich cynghori i beidio â chael barbeciw. Gall tân ledaenu’n hawdd pan fydd porfa yn sych, gan achosi difrod i’n parciau a’n bywyd gwyllt.

Ni chaniateir i chi gael barbeciw mewn lle chwarae i blant.

Rhaid bod y barbeciw:

  • wedi ei brynu o siop, nid un yr ydych wedi ei greu eich hun
  • wedi ei osod ar y llawr, nid ar ddodrefn y parc, a hynny
  • ar goesau, fel nad yw’r porfa yn llosgi
  • rhaid ei wylio bob amser ar ôl ei danio, a’i
  • adael i oeri cyn ei rhoi yn y bin sbwriel

Rhaid i chi roi'r holl sbwriel mewn bin neu fynd ag ef adref.

Os ydych chi'n hysbysebu neu'n hyrwyddo'ch barbeciw neu eisiau chwarae cerddoriaeth uchel, rhaid i chi wneud cais am ganiatâd - Cynllunio Digwyddiad

Diwygiwyd Diwethaf: 06/02/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen

Ffôn: 01495 762200
E-bost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig