Cynllunio Digwyddiad

Dylai cynllunio digwyddiad gynnwys ceisio cyngor gan awdurdodau neu asiantaethau perthnasol, caniatâd y tirfeddiannwr, asesiadau risg a chanfod mesurau i gynnal y ddyletswydd i sicrhau diogelwch y rheini sy'n mynychu'r digwyddiad a'r rhai sy'n cael eu cyflogi neu'n gwirfoddoli i sefydlu a rhedeg y digwyddiad.

Mae'n bwysig iawn cynllunio yn gynnar, yn enwedig os ydych yn rhagweld y gall fod materion yn ymwneud â thrwyddedu, cau ffordd, yswiriant, diogelwch bwyd ac ati Mae rhai o'r materion hyn, yn enwedig cau ffyrdd a thrwyddedu yn destun cyfyngiadau amser.

Gwybodaeth ynghylch Trwyddedu

Os yw eich digwyddiad yn cynnwys alcohol, adloniant a lluniaeth gyda'r hwyr ac os yw’r digwyddiad ar gyfer llai na 499 o bobl (sy'n cynnwys staff) mae angen i chi wneud cais am Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro. Os yw’r digwyddiad yn cynnwys dros 500 o bobl mae angen i chi wneud cais am Drwydded Safle.

Mae rhagor o wybodaeth ar bob agwedd o drwyddedu ar gael yn yr adran Trwyddedu ar y wefan.

Diogelwch Bwyd

Mae gwybodaeth bellach ar gael yn yr adran hylendid a diogelwch bwyd ar y wefan, neu ar wefan Yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Rheoli Traffig a Chau Ffyrdd

Gall y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch yn ystod Digwyddiadau gynnig cyngor i drefnwyr digwyddiadau ar gynllunio eu digwyddiad ac i leihau unrhyw effaith ar y briffordd gyhoeddus.

Os byddwch angen rhagor o wybodaeth am reoli traffig, cau ffyrdd, neu os hoffech holi am statws presennol unrhyw geisiadau presennol i gau ffordd, cysylltwch â'r Grŵp Priffyrdd, Traffig a Pheirianneg ar 01495 762200.

Gwrthderfysgaeth a Pharatoi i Gynnal Digwyddiad

Rhaid i drefnwyr digwyddiadau rhoi ystyriaeth i canllawiau lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd yn rhan o’u camau i baratoi ar gyfer Gwrthderfysgaeth. Dylai trefnwyr digwyddiadau ystyried y digwyddiad y maent yn ei drefnu, nodi a oes unrhyw beryglon penodol neu fethodoleg ymosod a allai fod yn berthnasol i'w digwyddiad a gweithredu mesurau lliniaru perthnasol. Mae'r arweiniad yn helpu trefnwyr trwy'r broses hon.

E-ddysgu ACT ar Wrthderfysgaeth

Dylai’r rheiny sy’n trefnu digwyddiadau gwblhau’r hyfforddiant ACT ar lein er mwyn bod yn ymwybodol ac yn barod. Argymhellir bod trefnydd y digwyddiad, swyddog diogelwch ac unrhyw staff diogelwch neu staff stiwardio yn cwblhau’r hyfforddiant hwn.

Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau Torfaen (ESAG)

Mae Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau yn Nhorfaen (ESAG) yn grŵp cynghori y mae ei aelodau'n cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Heddlu Gwent, Tân ac Achub De Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Diben y grŵp yw darparu un pwynt cyswllt i drefnwyr digwyddiadau, trafod materion diogelwch y cyhoedd sy'n ymwneud â digwyddiad a darparu cyngor perthnasol.

Nid oes gan y grŵp unrhyw bwerau cyfreithiol, fel grŵp cynghori ni all roi caniatâd na chymeradwyaeth i ddigwyddiad fynd yn ei flaen, ond bydd yn cynghori trefnydd y digwyddiad ar faterion diogelwch cyhoeddus y gallai fod angen mynd i'r afael â hwy.

Dylech hysbysu ESAG Torfaen os yw unrhyw rhai o’r canlynol yn berthnasol i’ch digwyddiad:

  • mae'n cael ei gynnal yn yr awyr agored gyda thorfeydd mawr, h.y. adloniant cyhoeddus, nifer fawr o gerbydau, tân gwyllt neu goelcerth, gwyliau, enwogion, pobl bwysig ac ati.
  • mae'n ddigwyddiad chwaraeon o bwys - gemau chwaraeon tro cyntaf neu ornestau
  • mae'n ddigwyddiad dan do gyda thorfeydd mawr er enghraifft, digwyddiadau cerddoriaeth boblogaidd, cynulliadau gwleidyddol neu grefyddol
  • mae'n ddigwyddiad yng nghanol y dref
  • mae'n orymdaith neu'n barêd, digwyddiad beicio neu redeg
  • mae'n barti stryd
  • mae'n ffair gymunedol

Dylid cyflwyno ffurflenni hysbysu'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch (SAG) o leiaf wyth wythnos cyn eich digwyddiad er mwyn rhoi amser i'r grŵp ystyried y wybodaeth a rhoi cyngor.

Sur ydw i’n rhoi gwybod i’r Grŵp am fy nigwyddiad?

Gallwch gyflwyno’r digwyddiad i’r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau yma. Bydd y wybodaeth sydd ei hangen yn dibynnu ar yr opsiynau a ddewiswyd ar y ffurflen ac ar ôl ei chyflwyno rhoddir gwybod i'r swyddogion priodol.

I gael cyngor pellach neu i drafod digwyddiad gyda’r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau. Cysylltwch ar 01495 762200 neu e-bostiwch: SAG@torfaen.gov.uk.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi ddweud wrth y Cyngor am fy nigwyddiad?

Bydd aelodau perthnasol y grŵp yn asesu'r wybodaeth a dderbyniwyd ac os bydd angen, bydd yn eich hysbysu ynghylch y camau y dylech eu dilyn i gynllunio eich digwyddiad, ac efallai eich gwahodd i fynychu cyfarfod nesaf y Grŵp.

Cysylltiadau Defnyddiol ar gyfer Trefnwyr Digwyddiadau

Diwygiwyd Diwethaf: 01/12/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: SAG@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig