Cyngor wrth hurio castell neidio/ offer chwarae llawn aer

Dylai'r holl offer aer gael eu rheoli a'i weithredu gan gwmni ag enw da, a dylai'r cwestiynau canlynol fod yn rhan o asesiad risg y digwyddiad.

1) Beth yw rhif tag PIPA neu rif tystysgrif ADIPS yr offer?

Cynllun archwilio yw PIPA a sefydlwyd gan y diwydiant offer aer i sicrhau bod offer aer yn cydymffurfio â safonau diogelwch a gydnabyddir.) Gallwch gael mwy o wybodaeth a gwirio manylion ar www.pipa.org.uk.

Mae ADIPS (Amusement Device Inspection Procedures Scheme) yn sicrhau bod dyfeisiau difyrrwch yn cael eu harchwilio’n rheolaidd ac yn derbyn tystysgrif i ddangos eu bod yn ddiogel i’w defnyddio gan bobl cymwys. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth a gwirio manylion yma ar www.adips.co.uk.

2) Pryd cafodd yr offer ei arolygu'n llawn?

3) A gaf i weld y dystysgrif PIPA bresennol ar gyfer yr offer hwn?

4) A fyddwch yn cynnal y gwiriadau dyddiol ar yr offer fel sy'n ofynnol gan ganllaw gweithrediadau'r gwneuthurwr ac yn adran 7.1.1 o BSEN 14960?

5) A yw'r offer wedi'i farcio'n glir o ran ei gyfyngiadau i ddefnyddwyr, er enghraifft uchafswm uchder y defnyddiwr ac ati.

6) A ydych yn aelod o gymdeithas berthnasol (AIMODS, TIPE neu BIHA)?

7) A gallaf weld copi o’ch Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus?

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Grŵp Cyngor ar Ddiogelwch Torfaen

Ffôn: 01633 647617

Ebost: SAG@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig