Cynllunio digwyddiadau ac ystyriaethau gwrthderfysgaeth

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Heddlu Gwent ac Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn rhoi cyngor a chymorth i drefnwyr digwyddiadau am sut i liniaru’r bygythiad o derfysgaeth pan fyddant yn cynllunio digwyddiad yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Er ein bod yn credu bod ein digwyddiad yn ddiogel, mae’r bygythiad o derfysgaeth yn real ac mae’n fwyfwy anodd rhagweld hynny yn anffodus, gyda mannau cyhoeddus a phoblog yn darged deniadol i derfysgwyr.

I weld lefel presennol y bygythiad yn y DU ewch i:  https://www.gov.uk/terrorism-national-emergency

Hoffem i chi ystyried yr hyn y gallwch ‘chi’ ei wneud i leihau’r risg a lliniaru’r effaith yn sgil ymosodiad o’r fath. Gall proses gynllunio effeithiol leihau’r tebygolrwydd o ymosodiad yn sylweddol.  Rydym yn deall nad yw pob digwyddiad yr un fath, er enghraifft:

  • Dylai digwyddiadau llai megis ffair bentref ystyried ychwanegu ystyriaethau gwrthderfysgaeth at y Cynllun Rheoli Digwyddiadau/Asesiad Risg.  Gellir cynnwys hynny fel rhan o’r briff i stiwardiaid a’i ategu gyda hyfforddiant byr ar-lein: ‘Hyfforddiant Gwrthderfysgaeth wrth fwrdd y gegin’ - https://ct.highfieldelearning.com a ddarperir gan y Swyddfa Genedlaethol Diogelwch a Gwrthderfysgaeth (Saesneg yn unig).
  • Ar gyfer digwyddiadau mwy megis digwyddiadau cerddoriaeth mawr/gwyliau/gwyliau bwyd/Stadia Chwaraeon etc., bydd angen Cynllun Diogelwch ar gyfer Digwyddiad sy’n gweithio’n iawn a chynnal ymarferion rheolaidd.   

Efallai eich bod yn gyfarwydd â rhoi cynllun at ei gilydd ar gyfer eich digwyddiad ac yn gwybod sut i roi sylw i lawer o’r gofynion o ran diogelwch, ond efallai nad ydych mor gyfarwydd â materion diogelwch sy’n ymwneud â therfysgaeth yn benodol. Dyma rai o’r pethau yr hoffem i chi eu hystyried wrth lunio eich cynllun. Nid yw’n rhestr gyflawn ac ar ddiwedd y ddogfen hon rydym yn cyfeirio at wefannau ble y gallwch gael rhagor o wybodaeth.

Cynllunio Diogelwch

Yn dibynnu ar y math o ddigwyddiad a’i faint efallai yr hoffech lunio cynllun diogelwch ar gyfer y digwyddiad sy’n ystyried y risg/bygythiad o ymosodiad terfysgol. Os nad ydych yn siŵr, gall eich rheoleiddwyr lleol fel Heddlu Gwent, Awdurdod Lleol neu Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau Torfaen eich cynghori ar y camau priodol a chymesur y dylech eu cymryd wrth gynllunio eich digwyddiad. Ymysg y prif faterion i’w cynnwys mae’r canlynol:

  • Cyn y digwyddiad meddyliwch sut y byddwch yn ei hysbysebu. Gofalwch beidio â rhoi gormod o wybodaeth a allai gynorthwyo terfysgwr i gynllunio ymosodiad. Dylech ystyried beth i’w gynnwys er mwyn atal hyn. Gelwir hyn yn ddulliau cyfathrebu atal (ewch i adran Cyfathrebu - GOV.UK (www.gov.uk))
  • Y safle ei hun, gan ddechrau o’r tu allan iddo, y perimedr a’r tu mewn i’r safle ble y cynhelir y digwyddiad. Beth yw’r risgiau a’r pethau y gallwch eu gwneud i’w lliniaru?
  • Mae cyfathrebu yn allweddol i reoli digwyddiad. A yw eich dulliau cyfathrebu yn ‘addas at y diben’? Nid dim ond sut rydych yn cyfathrebu â’ch staff ond sut rydych yn cyfathrebu â’r cyhoedd hefyd.
  • Os ydych yn trefnu digwyddiad mawr neu dorfol i lawer o bobl, dylech ystyried cynnal gwahanol senarios i ymarfer diogelwch neu gamau gwrthderfysgaeth wrth y ddesg gyda thîm rheoli’r digwyddiad cyn y digwyddiad.
  • Darparu hyfforddiant i staff â thâl a gwirfoddolwyr. Mae hyfforddiant E-ddysgu mewn Ymwybyddiaeth o ACT rhagorol ar gael ar-lein am ddim - sef ‘Hyfforddiant gwrthderfysgaeth wrth fwrdd y gegin’ i godi ymwybyddiaeth y staff a’u grymuso. Edrychwch ar y ddolen ar ddiwedd y daflen hon i gofrestru ar gyfer yr hyfforddiant ar-lein.

Mae Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau Torfaenyn argymell yn gryf y dylid cynllunio ar gyfer digwyddiad terfysgol a gall ofyn am fanylion eich Cynllun Diogelwch ar gyfer Digwyddiad pan fydd yn ystyried eich cais.

Isod ceir gwefannau sy’n rhoi gwybodaeth bellach am leihau ymosodiad terfysgol ac sy’n eich cynorthwyo i ddatblygu Cynllun Diogelwch ar gyfer Digwyddiad.

www.protectuk.police.uk (Gweler Canllawiau lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd) sy’n eich cynorthwyo i lunio ac i ddatblygu Cynllun Diogelwch ar gyfer Digwyddiad. Ar y wefan hon hefyd mae canllawiau cenedlaethol eraill a manylion am gynnyrch pwysig a hynny am ddim).

www.cpni.gov.uk – Cyngor pellach ar fesurau diogelwch amddiffynnol.

‘Hyfforddiant gwrthderfysgaeth wrth fwrdd y gegin’ - https://ct.highfieldelearning.com (Saesneg yn unig).  Datblygwyd yr hyfforddiant E-ddysgu mewn Ymwybyddiaeth o ACT a enillodd wobrau yn rhyngwladol mewn partneriaeth â’r manwerthwr enwog Marks and Spencer a Highfield Learning.

Dim ond 45 munud mae’n ei gymryd i gwblhau’r cwrs rhyngweithiol, sydd ar gael i gwmnïau neu unigolion preifat, a gellir gwneud hynny mewn un sesiwn neu mewn modiwlau byr. Mae’n esbonio sut i adnabod ymddygiad amheus, a’r pethau y gallwch eu gwneud i’ch helpu chi, i helpu eraill ac i helpu’r rhai sy’n ymateb i argyfwng os bydd ymosodiad.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/12/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: SAG@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig