Enw’r Gweithgaredd/Dosbarth/Clwb | Diwrnod (au) | Lleoliad | Manylion Cyswllt | Manylion |
Dysgu Oedolion yn y Gymuned |
Dydd Llun – Ddydd Gwener
Rhai Sadyrnau
|
Canolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog, y Briffordd, Croesyceiliog, Cwmbrân, NP44 2HF
Y Pwerdy, Blenheim Road, Sain Derfel, Cwmbrân, NP44 4SY
Y Settlement, Trosnant Street, Pont-y-pŵl, NP4 8AT
|
01633 647700
01633 647647
01495 742600
|
Mae dysgu oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau mewn gwahanol leoliadau ac ar wahanol amseroedd, sy'n golygu y gallwch ddewis cwrs ar adeg ac mewn lle sy'n gyfleus i chi.
Dysgwch mwy am ein cyrsiau sy’n dechrau’n fuan.
|
Dosbarth Olrhain Hynafiaid
|
Dydd Mawrth
|
Canolfan Gymuned Threepenny Bit, NP44 4SX
|
01633 869227
|
Gall olrhain hanes eich teulu fod yn brofiad gwerth chweil a all eich arwain ar daith gyffrous i'r gorffennol. Mae’r holl gamau a’r penderfyniadau a wnaed gan eich cyndeidiau, yr holl flynyddoedd yn ôl wedi dylanwadu ar bwy ydych chi heddiw. Felly, i ddeall y presennol yn well, beth am fwrw golwg ar fywydau eich cyndeidiau yn y gorffennol!
Mae ein dosbarth wythnosol yn addas i unrhyw un sydd a diddordeb mewn achau hyd yn oed os ydych chi’n ddechreuwr llwyr. Byddwn yn eich helpu a’ch tywys wrth i chi chwilio ar lein am eich cyndeidiau gan ddefnyddio gwefannau poblogaidd ac adnoddau ymchwil. Rhannwch eich profiadau gyda phobl o’r un meddylfryd sy’n mwynhau dysgu am hanes lleol.
|
Annette's School of Dance
|
Dydd Llun Dydd Mawrth Dydd Iau Dydd Gwener Dydd Sadwrn
|
Neuadd Eglwys Llantarnam
|
01633 770147
|
Dosbarthiadau dawns, Ballet, Tap, Jazz, Modern, Theatr Cerdd a Chyfoes.
Athrawes gymwys gyda BBO Dance, cynigir arholiadau gyda BBO Dance.
Gan fod y dosbarthiadau wedi eu rhannu i grwpiau gallu (nid grwpiau oedran) cysylltwch ag Annette i weld amserau’r dosbarthiadau.
|
Dosbarthiadau Celf
|
Dydd Iau
|
Canolfan Gymuned Threepenny Bit, NP44 4SX
|
01633 869227
|
Mae ein dosbarth Celf Dyfrlliw ar fore dydd Iau a'n Dosbarth Celf Cyfryngau Cymysg yn cael ei redeg gan y tiwtor profiadol Val Stewart. Mae Val wedi dysgu celf ers blynyddoedd lawer ac mae ganddi gyfoeth o brofiad i'w rannu.
Mae’r myfyrwyr yn gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau ac yn arddangos eu gwaith yn rheolaidd mewn arddangosfeydd ac orielau lleol.
|
Clwb Camera Blaenafon
|
Dydd Mawrth |
Capel King Street, Blaenafon |
07971 834065 |
Ydych chi’n hoffi tynnu lluniau? Ydych chi newydd ddarganfod eich bod yn gallu tynnu llun lled dda gyda’ch ffôn clyfar? Dewch i ymuno â ni yn ein clwb camera wythnosol |
Dosbarthiadau Ballet
|
Dydd Sul
|
Neuadd Gymuned Y Dafarn Newydd, Y Dafarn Newydd, Pont-y-pŵl, NP4 0PZ
|
07821915095
|
Beth am wireddu breuddwydion eich plant gyda’n dosbarthiadau ballet i blant 2-8 oed.
Rydym yn cynnig dosbarthiadau ballet yr Academi Ddawns Frenhinol o'r cyfnod cyn ysgol i radd 1. Addysgir dosbarthiadau gan athrawon dawns cymwys iawn.
|
Grŵp Lles CMIG
|
Dydd Mercher |
Neuadd y Sgowtiaid, Llwyncelyn, Cwmbrân, NP44 7AG |
07379 314903 |
Ydych chi am leihau unigrwydd cymdeithasol a chynyddu eich lles emosiynol? Ymunwch â ni bob dydd Mercher o 10:30 tan 3pm. Eisteddwch i sgwrsio, chwarae gêm fwrdd neu liwio mewn llyfr. Mae cyngor ar iechyd meddwl a phethau eraill ar gael ar gais |
Grŵp Coffi a Chrefftau
|
Dydd Mercher
|
Neuadd Eglwys St Gabriels, Hen Gwmbrân, NP44 3LR
|
01633 482300
|
Dewch i ymuno â’r grŵp cymdeithasol cyfeillgar hwn am baned a sgwrs
|
Bore Coffi
|
Dydd Gwener |
Eglwys Fethodistaidd Hope, Pontnewydd, Cwmbrân
|
01633 870389 |
Ymunwch â ni am baned o de neu goffi a sgwrs, bob dydd Gwener - 10:00 tan 11:30. Am ddim, ond gallwch ddewis rhoi cyfraniad elusennol, ond nid yw hynny’n orfodol
|
Crefft a Phaned
|
Dydd Iau |
Eglwys Gymunedol TLC, Two Locks Road, Cwmbrân, NP44 7HG
|
07714 218304 |
Dewch â’ch crefft, neu mae croeso i chi alw heibio i ddysgu crefft.
Paned a sgwrs AM DDIM!
Bob dydd Iau.
|
Clwb Crefftau
|
Dydd Mercher
|
Neuadd Gymuned Tref Gruffydd
ac
Eglwys Annibynnol Tref Gruffydd
|
01495 767983
|
Dewch â’ch hoff grefft neu beth am ddysgu rhywbeth newydd wrth i chi sgwrsio â chrefftwyr o’r un meddylfryd.
Canllaw crosio i ddechreuwyr ac mae crefftau ailgylchu/uwchgylchu yn arbenigedd!
|
Crafty Chatters
|
Dydd Mercher
|
Canolfan Gymuned Threepenny Bit, NP44 4SX
|
01633 869227
|
Ydych chi’n mwynhau creu pethau?
Mae ein grŵp Crafty Chatters yn griw cyfeillgar sy'n cwrdd â'i gilydd bob wythnos i sgwrsio, ysbrydoli a rhannu syniadau a sgiliau. Mae hyn wedi arwain at amrywiaeth o greadigaethau hardd a chyfeillgarwch newydd.
|
Grŵp Cymorth Strôc Cwmbrân
|
Dydd Iau
|
Y Caban Gwyn - Neuadd Coed Eva a Llwyncelyn, NP44 7LG
|
07913 143329
|
Ymunwch â ni am gwisiau, siaradwyr, crefftau a theithiau dydd.
Mae'r grŵp cymdeithasol hwn yn cyfarfod bob wythnos rhwng 10.30 a 12.30.
|
Dawnswyr Blaenafon
|
Dydd Iau
|
Neuadd y Gweithwyr Blaenafon
|
07542 187137
|
Oes gennych chi ddiddordeb yn nhraddodiadau a diwylliant Cymru? Hoffech chi gadw'n heini a chael hwyl yr un pryd?
Mae grŵp dawnsio Cymraeg newydd wedi dechrau ym Mlaenafon. DOES DIM angen profiad, byddwn yn dysgu'r dawnsfeydd i chi.
Dewch draw i fwynhau eich hun!!
|
Go Gym gyda Valleys Gymnastics yn Stadiwm Cwmbrân
|
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
|
Stadiwm Cwmbrân
|
01495 248070
|
Mae angen bwcio pob dosbarth o flaen llaw.
- Mini Movers - (Dosbarth strwythuredig i Rieni a Phlant) - 2.5 - 4 oed
- Tiny Tumblers - dechreuwyr 4 - 6 oed
- Junior Jumpers – dechreuwr 9+ oed
- Rhedeg Rhydd - 7+ oed
|
Go Gym gyda Valleys Gymnastics yn CBE Pont-y-pŵl
|
Dydd Sul
|
Canolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl
|
01495 248070
|
Mae angen bwcio pob dosbarth o flaen llaw.
- Tiny Tumblers - dechreuwyr 3 -5 oed
- Little Leapers - dechreuwyr 6+ oed
|
Happy Hands Pont-y-pŵl gyda Lauren
|
Dydd Llun Dydd Gwener
|
Neuadd Eglwys St Hilda’s, NP4 5JD
|
07795 115676
|
Mae sesiynau difyr Happy Hands a Twinkly Toes yn annog plant i ddatblygu eu hymdeimlad â rhythm ac archwilio synau mewn amgylchedd cyffrous ac ysgogol.
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o offer arloesol i ddatblygu creadigrwydd, dychymyg a hyder eich plentyn.
|
Happy Hands @ CCRC gyda Louisa
|
Dydd Llun
Dydd Mercher Dydd Iau Dydd Gwener
|
Clwb Rygbi a Chriced Croesyceiliog
|
07810 827746
|
Mae sesiynau difyr Happy Hands a Twinkly Toes yn annog plant i ddatblygu eu hymdeimlad â rhythm ac archwilio synau mewn amgylchedd cyffrous ac ysgogol.
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o offer arloesol i ddatblygu creadigrwydd, dychymyg a hyder eich plentyn.
|
Happy Hands @ Cheeky Monkeys Cwmbran gyda Louisa
|
Dydd Mercher Dydd Gwener
|
Lle Chwarae Meddal Cheeky Monkeys, Cwmbrân
|
07810 827746
|
Mae sesiynau difyr Happy Hands a Twinkly Toes yn annog plant i ddatblygu eu hymdeimlad â rhythm ac archwilio synau mewn amgylchedd cyffrous ac ysgogol.
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o offer arloesol i ddatblygu creadigrwydd, dychymyg a hyder eich plentyn.
|
Little Hitters - Tennis i Blantos
|
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Sadwrn
|
Parc Panteg, Tref Gruffydd
|
07845 291993
|
Ein nod yma yn Little Hitters yw datblygu hoffter at y gêm ac annog amgylchedd difyr, cyfeillgar i blant ddysgu a magu hyder.
Mae Tots Tennis wedi ei anelu i blantos 2.5 i 4 oed.
|
Ymwelwyr Bach yn Widdershins |
Dydd Iau
|
Canolfan Widdershins, Sebastopol, NP4 5AB
|
01495 769264
|
Ymunwch â ni yng Nghanolfan Widdershins am sesiwn ddifyr sy’n pontio’r cenedlaethau. Dewch i ganu gyda Liz. Cyfle i fwynhau 40 munud o ganu a threulio ychydig o amser yng nghwmni’r babanod a’r mamau. Bob pythefnos - 1.30pm-2.30pm
|
Scallywaggs yn Eglwys y Goleudy
|
Dydd Mawrth
|
Eglwys y Goleudy, Sebastopol, NP4 5BR
|
07725 997629
|
Grŵp rhieni a phlant bach i blant dan 5 oed
|
Sgwrs a Choffi
|
Dydd Gwener
|
Caffi Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon
|
07542 187137
|
Ydych chi'n siaradwr Cymraeg neu'n ddysgwr? Hoffech chi ymarfer eich Cymraeg mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar? Yna ymunwch â ni yng nghaffi Canolfan Treftadaeth y Byd ym Mlaenafon bob Dydd Gwener am 10 o'r gloch.
|
Atgofion Chwaraeon |
Dydd Mawrth |
Cwmbran Rugby Club, NP44 1NY |
07939
154187
|
Mae’r grŵp cyfeillgar hwn yn hybu lles meddyliol a chorfforol unigolion trwy ddefnyddio chwaraeon. Maent yn defnyddio hen luniau chwaraeon o’r archifau, pethau cofiadwy ac adroddiadau newyddion i sbarduno sgwrs ac atgofion a bydd yna gyfle hefyd i chwarae rhai chwaraeon hygyrch dan do, fel bowlio, boccia a dartiau llawr. |
Qigong Torfaen
|
Dydd Iau
|
Neuadd Eglwys St Hilda’s. Tref Gruffydd, NP4 5JD
|
01495 247009
|
Mae Qigong yn fath pwerus o ymarfer iechyd, sydd wedi cael ei ymarfer ers canrifoedd yn Tsieina. Mae'n seiliedig ar symudiadau ysgafn sydd wedi'u cynllunio'n benodol i fod o fudd a chydbwyso'r iechyd.
Mae Qigong yn hawdd i'w ddysgu ac yn bleserus i'w wneud. Mae arfer Qigong yn rheolaidd yn cael effaith bwerus ar y meddwl, y corff ac ysbryd.
Mae modd gwneud ystumiau ysgafn Qigong yn sefyll ar eich traed neu'n eistedd ac mae'n canolbwyntio ar ymlacio, ystwythder, rhyddhau a chryfder.
|
Mannau Croeso Cynnes
|
Dydd Gwener |
Eglwys Gymunedol TLC, Two Locks Road, Cwmbrân, NP44 7HG |
07714 218304 |
Mae croeso i chi alw heibio am gawl poeth, rhôl a phaned o de a’r cyfan AM DDIM.
Bob dydd Gwener
|
Dosbarthiadau Coginio Well Fed |
Dydd Llun |
Eglwys Gymunedol TLC, Two Locks Road, Cwmbrân, NP44 7HG |
07786
289340
|
Dosbarthiadau coginio am ddim gyda'r cogydd cymwys James Hunter. Dysgwch sut i bwyso, paratoi, torri a choginio cynhwysion i wneud prydau cartref blasus. Darperir yr holl gynhwysion
|