Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro - Gwneud Cais am Drwydded

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro
 Crynodeb o'r Drwydded

Os dymunwch gynnal digwyddiad ad-hoc yng Nghymru neu Loegr, rhaid i chi roi hysbysiad digwyddiad dros dro i'ch awdurdod trwyddedu lleol heb fod yn hwyrach na 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Os yw'r safle lle y bwriedir cynnal y digwyddiad mewn ardaloedd sy'n cael eu llywodraethu gan ddau neu fwy o awdurdodau lleol, rhaid gwneud cais i bob un. 

 

Oni bai y cyflwynwch gais electronig, rhaid i chi hefyd roi copi o'r hysbysiad i'r heddlu ar adeg ei gyflwyno i'r Awdurdod Trwyddedu. 

 

Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i roi hysbysiad digwyddiad dros dro a gallwch roi uchafswm o 5 hysbysiad y flwyddyn. Os ydych yn ddeiliad trwydded bersonol, gallwch roi uchafswm o 50 hysbysiad y flwyddyn. 

 

Ni ddylai eich digwyddiad gynnwys mwy na 499 o bobl ar unrhyw un adeg ac ni ddylai bara mwy na 168 awr (wythnos) gyda lleiafswm o 24 awr rhwng digwyddiadau.

 

Cafodd Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 gydsyniad Brenhinol ym mis Medi 2011. Mae hyn wedi arwain at newidiadau i hysbysiadau digwyddiadau dros dro a gyhoeddir o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.  Erbyn hyn, mae 2 fath o hysbysiad:

 

  • Rhoddir hysbysiad safonol gyda rhybudd o 10 diwrnod gwaith clir o leiaf
  • Rhoddir hysbysiad hwyr gyda rhybudd o rhwng 5 a 9 diwrnod gwaith clir
Meini Prawf Cymhwysedd

Rhaid cyflawni gweithgaredd y mae modd ei drwyddedu fel y manylir mewn hysbysiad y mae'n rhaid ei roi. 

 

Rhaid i'r hysbysiad fod mewn fformat penodol a rhaid iddo gael ei wneud gan rywun dros 18 oed. 

 

Dylai'r hysbysiad gynnwys y canlynol:

 

  • os bwriedir cyflenwi alcohol, datganiad yn cadarnhau ei fod yn amod o ddefnyddio'r safle bod y cyflenwadau'n cael eu gwneud o dan awdurdod defnyddiwr y safle
  • datganiad yn ymwneud â materion penodol
  • unrhyw wybodaeth arall sy'n ofynnol
  • ffi o £21

Mae'r materion y cyfeirir atynt uchod fel a ganlyn:

 

  • manylion y gweithgareddau trwyddedadwy
  • cyfnod y digwyddiad
  • yr amserau yn ystod y cyfnod hwnnw pan fydd y gweithgareddau'n cael eu cynnal
  • nifer uchaf y bobl y bwriedir eu caniatáu ar y safle
  • unrhyw faterion eraill sy'n ofynnol
Crynodeb o'r Rheoliadau

Crynodeb o'r rheoliadau sy'n ymwneud â'r drwydded hon

Proses Gwerthuso Cais
  • Rhaid cyflwyno 2 gopi i'r Awdurdod Trwyddedu (gan gynnwys y ffi). Ar yr un diwrnod, rhaid rhoi copi o'r hysbysiad i'r Heddlu a Swyddog Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor. 
  • Gall yr Heddlu a'r Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd gyflwyno gwrthwynebiadau i'r hysbysiad o fewn 3 diwrnod gwaith o'i dderbyn os ydynt o'r farn bod y gweithgareddau arfaethedig yn debygol o danseilio unrhyw un o'r 4 Amcan Trwyddedu allweddol.
  • Os derbynnir gwrthwynebiad i hysbysiad digwyddiad dros dro (ac nid yw'n cael ei dynnu'n ôl), bydd angen i banel trwyddedu benderfynu ar yr hysbysiad. Os yw'r hysbysiad yn ymwneud â gweithgareddau trwyddedig ar safle trwyddedig, gallai'r panel orfodi un neu fwy o'r amodau trwyddedu cyfredol ar yr hysbysiad.
  • Mae terfyn ar nifer yr hysbysiadau digwyddiadau dros dro y caiff unigolyn ymgeisio amdanynt mewn cyfnod 12 mis. Ar hyn o bryd, 50 yw'r terfyn ar gyfer deiliaid trwyddedau alcohol personol a 5 yw'r terfyn ar gyfer deiliaid trwyddedau alcohol nad ydynt yn bersonol.
  • Gellir rhoi "hysbysiadau hwyr" hyd at 5 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad, ond nid yn gynharach na 9 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. 
  • Mae hysbysiadau hwyr yn cyfrif tuag at y terfyn a ddisgrifir uchod. Yn ogystal, ni chaiff deiliaid trwydded alcohol bersonol gyflwyno mwy na 10 hysbysiad digwyddiad dros dro hwyr mewn blwyddyn galendr. Ni chaiff deiliaid trwyddedau alcohol nad ydynt yn bersonol gyflwyno mwy na 2 hysbysiad hwyr mewn blwyddyn galendr. 

Rhaid rhoi'r hysbysiad yn ysgrifenedig (gan gynnwys trwy ddulliau electronig) i'r awdurdod lleol o leiaf 10 diwrnod gwaith clir cyn y digwyddiad. Rhaid talu ffi gyda'r hysbysiad. 

 

Bydd yr awdurdod lleol yn cydnabod eu bod wedi derbyn yr hysbysiad trwy roi hysbysiad i ddefnyddiwr y safle cyn diwedd y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i'r hysbysiad ddod i law, neu cyn diwedd yr ail ddiwrnod gwaith os na dderbyniwyd yr hysbysiad ar ddiwrnod gwaith.

 

Oni bai bod cais wedi'i gyflwyno'n electronig, rhaid i ddefnyddiwr y safle roi hysbysiad hefyd i brif swyddog yr heddlu lleol heb fod yn hwyrach na deg diwrnod gwaith cyn cyfnod y digwyddiad.

 

Gall y prif swyddog heddlu sy'n derbyn hysbysiad ac sydd o'r farn y byddai'r digwyddiad yn tanseilio amcanion atal troseddu gyflwyno hysbysiad o wrthwynebiad i'r awdurdod trwyddedu ac i ddefnyddiwr y safle. Rhaid cyflwyno'r hysbysiad hwn o fewn 48 awr o dderbyn yr hysbysiad digwyddiad dros dro.

 

Gallai'r awdurdod trwyddedu lleol gyflwyno gwrth-hysbysiad os yw'n ystyried bod angen gwneud hyn i hybu amcan atal troseddu. Rhaid gwneud penderfyniad o leiaf 24 awr cyn dechrau'r digwyddiad.

 

Gallai prif swyddog heddlu addasu'r hysbysiad digwyddiad dros dro gyda chaniatâd defnyddiwr y safle. Mewn achos o'r fath, ystyrir bod hysbysiad o wrthwynebiad wedi cael ei dynnu'n ôl.

 

Gall gwrth-hysbysiadau gael eu darparu gan yr awdurdod trwyddedu os cyflwynwyd mwy o hysbysiadau digwyddiadau dros dro na'r nifer a ganiateir.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Ydyw. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel pe bai eich cais wedi'i gymeradwyo os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Gwneud cais ar-leinEUGO logo

Os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded neu newid manylion un sy’n bodoli eisoes, fe allwch fynd ati a gwneud cais am drwydded dros dro ar gyfer digwyddiad ar gov.uk.

 

Gallwch lawr lwytho taflen wybodaeth yma. Mae Rhestr o Ymgyngoreion hefyd ar gael.

Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

Nid oes darpariaeth ar gyfer cynnal gwrandawiad os daw gwrthwynebiad i law.

Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

Camau Unioni Eraill

Os yw awdurdod trwyddedu'n penderfynu peidio â chyflwyno gwrth-hysbysiad mewn perthynas â hysbysiad o wrthwynebiad, gall y prif swyddog heddlu apelio yn erbyn y penderfyniad. Rhaid cyflwyno apeliadau gerbron y Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod. Ni ellir cyflwyno apêl ar ôl pum diwrnod gwaith cyn diwrnod y digwyddiad arfaethedig.

Cymdeithasau Masnach

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'r derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen Y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/03/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Trwyddedu

Ffôn: 01633 647286

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk 

Nôl i’r Brig