Trwydded Alcohol Bersonol - Gwneud Cais am Drwydded

Trwydded Alcohol Bersonol
Crynodeb o'r Drwydded 

Mae Trwydded Alcohol Bersonol yn caniatáu i unigolyn gyflenwi alcohol neu awdurdodi'r broses o gyflenwi alcohol.

 

Mae'r Drwydded Alcohol Bersonol yn drwydded ar wahân i'r un sy'n awdurdodi'r defnydd o'r safle ar gyfer cyflenwi alcohol.

 

Mae angen Trwydded Alcohol Personol ar gyfer unrhyw berson sy'n dymuno bod yn y Goruchwyliwr Safle Dynodedig (DPS) o safle trwyddedig i werthu alcohol.

 

Caiff y drwydded ei chyhoeddi am ddeng mlynedd yn y lle cyntaf.

Meini Prawf Cymhwysedd 

Mae'n rhaid bod ymgeiswyr:

 

  • yn 18 oed neu'n hŷn
  • yn meddu ar gymhwyster achrededig
  • yn darparu Datgeliad sylfaenol o Euogfarnau Troseddol 
  • yn darparu dau lun maint pasbort. Mae'n rhaid bod rhywun mewn awdurdod yn ardystio un o'r rhain gan ddatgan “Tystiaf fod hwn yn dangos gwir debygrwydd i (enw'r ymgeisydd)", gan lofnodi a rhoi'r dyddiad ar y llun, a datgan beth yw ei swydd
Crynodeb o'r Rheoliad

Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon

Proses Gwerthuso Cais

Rhaid i chi gyflwyno ffurflen gais i'r Adran Drwyddedu fel y darperir ar ei gyfer yn Rhan 6 y Ddeddf.

 

Bydd y ffurflen yn gofyn am fanylion penodol ynghylch yr ymgeisydd a bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth ychwanegol a dogfennau fel ffotograffau yn ogystal â'r ffi ar gyfer y cais.

 

Gofynnir iddynt roi manylion unrhyw droseddau perthnasol neu dramor y'u cafwyd yn euog ohonynt. Yna, bydd yr awdurdod trwyddedu yn prosesu'r cais.

 

Os yw'n ymddangos bod yr ymgeisydd wedi'i gael yn euog o unrhyw droseddau perthnasol neu dramor, bydd yr awdurdod trwyddedu yn rhoi gwybod i brif swyddog heddlu'r ardal. Os nad yw'r heddlu yn gwrthwynebu o fewn 14 diwrnod, rhaid cyflwyno'r drwydded.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Nac ydyw. Er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gan y Cyngor o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni.

Gwneud cais ar-lein

Os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded neu newid manylion trwydded bresennol, gallwch lawrlwytho'r ffurflen gais o'r fan hon.

 

Gallwch lawrlwytho copi o'r Canllawiau ar gyfer trwyddedau alcohol personol o'r fan hon.

 

Rhestr o Ymgyngoreion y dylech anfon copi o'ch cais atynt.

 

Y ffi ar gyfer cyflwyno Trwydded Bersonol yw £37.00

Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

 

Os gwrthodir cais am drwydded, gall yr ymgeisydd aflwyddiannus apelio i Lys Ynadon o fewn 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad o'r penderfyniad.

Cwynion gan Ddefnyddwyr 

Os ydych am wneud cwyn, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU.

Cymdeithasau Masnach

Sylwch - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/03/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Licensing Team

Ffôn: 01633 647286

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk 

Nôl i’r Brig