Tystysgrif Safle Clwb - Gwneud Cais am Drwydded

Tystysgrif Safle Clwb
Crynodeb o'r Drwydded

I ganiatáu gwerthu alcohol ac adloniant a reolir mewn clwb sy'n gymwys mae angen tystysgrif safle clwb arnoch gan eich awdurdod lleol. Mewn clwb sy'n gymwys, mewn gwirionedd nid oes gwerthiant fel y cyfryw (ac eithrio gwesteion) am mai'r perchennog sy'n berchen ar ran o'r stoc alcohol ac nid yw trosglwyddo arian dros y bar ond yn ddull o gynnal cydraddoldeb rhwng aelodau lle gall un yfed mwy na'r llall. Er mwyn bod yn glwb cymwys rhaid i chi hefyd fodlonir amrywiol anghenion sydd wedi eu nodi yn Neddf Trwyddedu 2003.

Meini Prawf Cymhwysedd

Rhaid i glybiau fod yn glybiau cymwys. Mae gan glwb cymwys amodau cyffredinol i'w bodloni. Dyma nhw:

 

  • ni chaiff unrhyw un aelodaeth, neu fel ymgeisydd i fod yn aelod, gael unrhyw freintiau aelodaeth heb gyfnod o o leiaf dau ddiwrnod o'u cais neu enwebiad i fod yn aelod a chaniatau eu haelodaeth
  • bod rheolau'r clwb yn nodi na all unrhyw un sy'n dod yn aelod heb gais neu enwebiad gael breintiau aelodaeth am o leiaf dau ddiwrnod o'r dyddiad y deuant yn aelod a chael mynediad i'r clwb
  • bod y clwb y cael ei sefydlu a'i gynnal gydag ewyllys da
  • bod gan y clwb o leiaf 25 aelod
  • bod alcohol yn cael ei roi i aelodau ar y safle ar ran y clwb yn unig 

Rhaid cydymffurfio ag amodau ychwanegol mewn perthynas â gwerthu alcohol. Dyma'r amodau:

 

  • aelodau'r clwb sydd dros 18 oed ac yn cael eu henwebu gan yr aelodau fydd yn prynu alcohol ar gyfer ac a gyflenwir gan y clwb
  • ni fydd person, ar gost y clwb , yn derbyn comisiwn, canran neu daliad arall tebyg yn ymwneud â phrynu alcohol gan y clwb
  • nad oes trefniadau i unrhyw un gael budd ariannol wrth gyflenwi alcohol, onid yw'n fudd i'r clwb neu unrhyw berson yn anuniongyrchol  o'r cyflenwad yn rhoi elw o redeg y clwb

Bydd cymdeithasau diwydiannol a darbodus a chymdeithasau cyfeillgar yn gymwys os caiff prynu a chyflenwi alcohol gan y clwb ei wneud dan reolaeth aelodau neu bwyllgor o aelodau.

  

Gall sefydliadau lles y glowyr hefyd gael eu hystyried. Bydd sefydliad perthnasol yn un sy'n cael ei reoli gan bwyllgor neu fwrdd y mai o leiaf dwy ran o dair o'r bobl sydd arno wedi cael eu penodi neu eu dyrchafu gan un neu fwy o gwmniau trwyddedig o dan Ddeddf Diwydiant Glo 1994 a gan un neu fwy o sefydliadau sy'n cynrychioli gweithwyr pyllau glo. Gall y sefydliad gael ei reoli gan y pwyllgor neu'r bwrdd lle na all y bwrdd fod yn cynnwys yr uchod, ond lle mae o leiaf dwy ran o dair o'r aelodau yn gweithio, neu a arferai weithio o fewn neu o amgylch pyllau glo neu bobl sydd wedi'u penodi gan Sefydliad Lles y Diwydiant Glo neu gorff oedd â swyddogaeth debyg o dan Ddeddf Lles y Glowyr 1952. Bydd yn rhaid i safle'r sefydliad gael ei gadw trwy ymddiriedolaeth fel sydd yn ofynnol o dan Ddeddf Elusennau Hamdden 1958.

 

Y Rheoliad yn Gryno

Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon

Proses Gwerthuso Ceisiadau

Fe all clwb wneud cais am dystysgrif safe ar gyfer unrhyw safle a feddiannir ac sydd yn cael ei ddefnyddio'r rheolaidd fel clwb. 

 

Dylid gwneud ceisiadau i'r awdurdod trwyddedu lleol, sef yr awdurdod sy'n gyfrifol am yr ardal y lleolir y safle. 

 

Dylid cyflwyno ceisiadau sy'n cynnwys cynllun o'r safle a hynny mewn fformat penodol, copi o reolau'r clwb a rhestr yn nodi dulliau gweithredu'r clwb. 

 

Rhaid i restr gweithredu clwb fod mewn fformat penodol a chynnwys gwybodaeth am:

 

  • weithgareddau'r clwb
  • yr amserau y cynhelir gweithgareddau
  • amserau agor eraill
  • cyflenwadau alcohol sydd yn mynd i gael eu hyfed ar y safle, oddi ar y safle neu'r ddau
  • y camau y mae'r clwb yn bwriadu eu cymryd i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu
  • unrhyw wybodaeth arall sydd ei hangen

Os oes newidiadau i reolau neu enw'r clwb cyn i gais gael ei bennu neu ar ôl cyflwyno tystysgrif, rhaid i ysgrifennydd y clwb rhoi'r manylion i'r awdurdod trwyddedu lleol. Os oes tystysgrif yn bodoli, rhaid ei hanfon i'r awdurdod trwyddedu pan fydd hysbysiad yn dod i law

 

Os oes tystysgrif yn ei lle, ac os yw cyfeiriad cofrestredig y clwb yn newid, rhaid i'r clwb rhoi gwybod i'r awdurdod trwyddedu lleol a chyflwyno'r dystysgrif gyda'r hysbysiad.

 

Fe all clwb wneud cais i awdurdod trwyddedu lleol i amrywio tystysgrif. Dylid cynnwys y dystysgrif gyda'r cais.

 

Fe all yr awdurdod trwyddedu lleol archwilio'r safle cyn mynd ati i ystyried y cais. 

 

Efallai y codir tâl am unrhyw fath o gais sy'n ymwneud â thystysgrif safle clwb.

A oes angen Caniatâd Dealledig?

Oes. Mae hyn yn golygu y byddwch yn medru gweithredu fel petai fod eich cais wedi ei gymeradwyo os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau a dargedwyd.

Gwneud cais ar lein EUGO logo  

Os ydych am wneud cais am drwydded neu newid manylion trwydded sydd eisoes yn bodoli, gallwch wneud cais am Dystysgrif Safle Clwb ar gov.uk.

 

Gallwch lawr lwytho copi o Ganllawiau ar gyfer Safleoedd Sy’n Glybiau yma.

 

Gweler hefyd y Rhestr o Ymgyngoreion.

Unioni Cais sy'n cael ei wrthod  

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

 

Bydd ymgeisydd sy'n methu yn cael gwybod gan yr awdurdod trwyddedu lleol pan fydd cais am dystysgrif neu gais i amrywio tystysgrif yn cael ei wrthod.

 

Os bydd cais yn cael ei wrthod, fe all yr ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad. 

Rhaid cyflwyno apêl gerbron y llys Ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod o'r dyddiad y gwnaed y penderfyniad.

Gwneud iawn â Deiliad Trwydded

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

 

Os yw awdurdod trwyddedu lleol yn gwrthod cais i amrywio, fe all yr ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad. Fe all deiliad trwydded apelio yn erbyn penderfyniad i osod amodau ar dystysgrif neu hepgor unrhyw weithgaredd mewn clwb. Gellir hefyd apelio yn erbyn amrywio unrhyw amodau.

 

Gellir apelio yn erbyn penderfyniad adolygiad. Fe all clwb apelio yn erbyn tynnu tystysgrif yn ôl.

 

Rhaid cyflwyno apêl gerbron y llys Ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod o'r dyddiad y gwnaed y penderfyniad.

Cwyn gan Ddefnyddiwr

Gwybodaeth gan y Swyddfa Gartref a'r Sefydliad Trwyddedu i drigolion sydd o'r farn bod y safle yn achosi problemau. 

 

Fe all unrhyw un sydd â diddordeb wneud cais i adolygu tystysgrif. Fe fydd yr awdurdod trwyddedu lleol yn rhoi rhesymau dros eu hymateb i'r cais.

 

Gellir apelio yn derbyn penderfyniad adolygiad. 

 

Rhaid cyflwyno apêl gerbron y llys Ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod o'r dyddiad y gwnaed y penderfyniad.

Mathau eraill

Fe all unrhyw barti gyflwyno sylwadau i'r awdurdod trwyddedu lleol cyn y cymeradwyir tystysgrif neu cyn y cymeradwyir diwygiadau i dystysgrif. Os daw sylwadau i law, cynhelir gwrandawiad i ystyried y cais a'r sylwadau. Fe fydd yr awdurdod trwyddedu lleol yn cyflwyno hysbysiadau yn manylu ar y rhesymau dros unrhyw ganlyniad. Fe fydd unrhyw barti sydd wedi cyflwyno sylwadau yn derbyn hysbysiad ynghylch cais a wrthodwyd.

 

Mae parti a chanddo fuddiant yn:

 

  • berson sydd yn byw ger y safle neu gorff sy'n cynrychioli person o'r fath
  • person sydd yn gysylltiedig â busnes ger y safle neu gorff sy'n cynrychioli person o'r fath

Fe all parti a chanddo fuddiant, wneud cais i adolygu tystysgrif y safle clwb. Fe fydd yr awdurdod trwyddedu lleol yn rhoi rhesymau dros eu hymateb i'r cais.

 

Fe all parti a chanddo fuddiant apelio os ydynt yn taeru na ddylai tystysgrif fod wedi cael ei chymeradwyo neu os dylid fod wedi cynnwys amodau ychwanegol neu gyfyngiadau ar weithgareddau. Fe allant hefyd apelio yn erbyn amrywio unrhyw amod.

 

Gellir apelio yn erbyn penderfyniad adolygiad.  

 

Rhaid cyflwyno apêl gerbron y llys Ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod o'r dyddiad y gwnaed y penderfyniad.  

Cymdeithasau Masnach

Sylwer - Mae'n ddyletswydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (Y Cyngor) i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei weinyddu ac i'r perwyl hwn efallai y defnyddir yr wybodaeth yr ydych yn ei darparu ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, er mwyn canfod ac atal twyll. Mae'n bosib y bydd y cyngor hefyd yn rhannu'r wybodaeth gyda chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus, at y diben hwn yn unig. Am ragor o wybodaeth, ewch i safle Menter Twyll Cenedlaethol ar y wefan.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/03/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Trwyddedu

Ffôn: 01633 647286

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk 

Nôl i’r Brig