Y Fenter Twyll Genedlaethol (NFI)

Pam yr ydym yn rhoi'r hysbysiad hwn i chi

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Cyngor amddiffyn yr arian cyhoeddus yr ydym yn ei weinyddu ac o ganlyniad, sicrhau na chaiff arian trethdalwyr ei dynnu allan o'r system trwy dwyll.

Mae'r hysbysiad hwn wedi'i gynllunio i roi gwybodaeth i chi am y data sydd gennym amdanoch, sut yr ydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas ag ef a'r mesurau diogelu sydd ar waith i'w ddiogelu.

Pa ddata personol ydym yn ei gadw

Er mwyn cyflawni'r dasg hon, gallwn gasglu amrywiaeth o ddata sydd gennym eisoes amdanoch chi. Am fwy o wybodaeth, cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd llawn y Cyngor.

Y sefydliadau yr ydym yn rhannu’ch data personol gyda hwy

Er mwyn atal a chanfod twyll, efallai y byddwn yn rhannu'r wybodaeth a roddwyd i ni gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio a gweinyddu arian cyhoeddus, fel Swyddfa'r Cabinet, yr Adran Gwaith a Phensiynau neu Gynghorau eraill.Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru (yr Archwilydd Cyffredinol) yn adolygu cyfrifon y Cyngor ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i ni gymryd rhan mewn ymarferion paru data er mwyn helpu i atal a chanfod twyll.

Mae paru data yn golygu cymharu cofnodion cyfrifiadurol a gedwir gan un corff yn erbyn cofnodion cyfrifiadurol eraill a gedwir gan yr un corff neu gorff arall, i weld pa mor bell y maen nhw'n cyfateb. Fel arfer mae hwn yn wybodaeth bersonol.

Mae'r math hwn o baru data yn caniatáu canfod hawliadau / taliadau twyllodrus posibl. Gall paru ddod o hyd i amrywiad sy'n gofyn am ymchwiliad pellach. Ni ellir tybio a oes twyll, gwall neu esboniad arall hyd nes y cynhelir ymchwiliad. Mae'n ofynnol i ni ddarparu setiau penodol o ddata ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol er mwyn eu paru ymhob ymarfer a nodir y rhain yng Nghanllawiau’r Swyddfa Archwilio.

Mae'r defnydd o ddata gan yr Archwilydd Cyffredinol yn cael ei wneud o dan ei bwerau yn Rhan 3 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Nid oes angen caniatâd yr unigolion dan sylw o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Mae paru data gan yr Archwilydd Cyffredinol yn destun Cod Ymarfer.

I gael gwybodaeth bellach ynghylch pwerau cyfreithiol yr Archwilydd Cyffredinol a’r rhesymau ei fod yn cyfateb â gwybodaeth benodol, gweler yr Hysbysiadau Prosesu Teg.

Cysylltu â Ni / y Swyddog Diogelu Data

Os oes gennych unrhyw bryderon sy’n ymwneud â’r Fenter Twyll Cenedlaethol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data am fwy o wybodaeth.

Swyddog Diogelu Data
Y Ganolfan Ddinesig
Pont-y-pŵl
NP4 6YB

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Data Protection Officer

Ffôn: 01633 647467

Ebost: DPA@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig