Data Agored
Oni y nodir yn wahanol, cyhoeddir y data ar y dudalen hon dan y Drwydded Llywodraeth Agored a gallwch ei weld a’i ailddefnyddio fel y mynnoch, a hynny at ddefnydd masnachol ac ymchwil. Rydym yn deall ein bod ar ddechrau taith i sicrhau bod mwy o wybodaeth yn agored a sylweddolwn ar hyn o bryd bod gennym ffordd i fynd i wella hygyrchedd ein data, ond bydd y mynediad at ein data yn gwella wrth i ni ddiweddaru tudalennau ein gwefan.
Ar hyn o bryd, mae llawer o'n gwybodaeth ar gael ar ffurf deunydd darllen dynol (fel PDF) ac rydym dal i weithio ar y fformatau a'r prosesau gorau i'w defnyddio. Ein bwriad yw cynyddu maint y data sydd ar gael mewn fformatau y gellir ei ddarllen â pheiriant' (fel CSV neu XML).
Rydym hefyd yn awyddus iawn i glywed am unrhyw setiau data y byddai’n ddefnyddiol i chi, gan y bydd hyn yn ein galluogi i flaenoriaethu'r hyn yr ydym yn ei rhyddhau. Cysylltwch â'r Rheolwr Datblygu Gwasanaethau Cyhoeddus.
Data personol
Mae diogelu eich data personol yn hollbwysig i ni. Rydym ond yn cyhoeddi data nad yw’n cynnwys unrhyw ddata personol neu lle mae unrhyw ddata personol wedi ei ddileu. Ni fydd cyhoeddi data yn effeithio ar ein rhwymedigaethau i lynu at y Ddeddf Diogelu Data.
Diwygiwyd Diwethaf: 17/03/2021
Nôl i’r Brig