Adeiladau Rhestredig

Beth yw rhestru?

Mae adeiladau'n cael eu rhestru pan fydd Cadw o'r farn eu bod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

Mae'r term 'adeilad rhestredig' yn eang ac mae'n cynnwys nid yn unig adeiladau fel tai, eglwysi neu ysguboriau ond hefyd waliau, cerrig milltir, pontydd, blychau ffôn a llawer o fathau eraill o strwythurau.

Mae tua 250 adeilad rhestredig yn Nhorfaen ar hyn o bryd. Gallwch weld lleoliad yr adeiladau rhestredig yn Nhorfaen ar wefan Cof Cymru.

Caniatâd Adeilad Rhestredig

Pan fydd adeilad wedi'i restru, mae'n cael ei warchod o dan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023. Mae angen caniatâd pan fydd newidiadau neu estyniadau arfaethedig yn effeithio ar ddiddordeb arbennig adeilad rhestredig, neu'r rhai o’u cwmpas. Mae angen Datganiad o’r Effaith ar Dreftadaeth ​ar gyfer ceisiadau Cydsyniad Adeiladau Rhestredig. Mae ffurflen CAR i’w hargraffu a nodiadau canllaw ar gael, ond mae'r rhan fwyaf o ymgeiswyr yn dewis gwneud cais ar-lein.

Gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig

Mae'n drosedd i wneud gwaith o'r fath i adeilad rhestredig heb gael y Cydsyniad Adeilad Rhestredig angenrheidiol yn gyntaf. 

Nid gorchymyn cadwraeth yw rhestru. Ei fwriad yw helpu i reoli newid a diogelu'r adeilad, ei leoliad a'i nodweddion rhag gwaith annymunol a allai niweidio ei statws o ddiddordeb arbennig.

Adeiladau Rhestredig mewn Perygl

Mae Cadw yn arolygu cyflwr yr holl adeiladau rhestredig yng Nghymru yn rheolaidd. Mae gan Lywodraeth Cymru a'r Cyngor bwerau i gyflwyno hysbysiadau statudol i fynd i'r afael ag adeiladau rhestredig sydd mewn cyflwr gwael neu mewn perygl.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Cadw.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 04/02/2026
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Economi a'r Amgylchedd: Treftadaeth Adeiledig

E-bost: builtheritage@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig