Bandiau Prisio'r Dreth Gyngor

Cael gwybod mwy am eich band Treth y Cyngor

Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB) sy'n cadw Rhestr Brisio Treth y Cyngor. Mae hyn yn cynnwys gosod eiddo newydd o fewn band Treth y Cyngor a newid bandiau eiddo pan fydd angen.

I ddeall pam y mae eich eiddo mewn band penodol, ewch i dudalen Sut y caiff eiddo domestig ei asesu ar gyfer bandiau Treth y Cyngor ar GOV.UK.

Gallwch ofyn i’r ASB adolygu eich band Treth y Cyngor os credwch ei fod yn anghywir a’ch bod wedi bod yn drethdalwr am lai na chwe mis, neu os yw eich band wedi newid yn ystod y chwe mis diwethaf. Os nad yw hyn yn berthnasol gallwch barhau i ofyn i’r ASB adolygu eich band Treth y Cyngor, ond bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth gefnogol gref yn dangos pam eich bod yn credu bod eich eiddo yn y band anghywir.

Gallwch ganfod mwy trwy roi clic ar dudalen Herio eich Band Treth y Cyngor ar GOV.UK. Mae'r gwasanaeth ar-lein yn caniatáu ichi wirio'ch band a chyflwyno her os ydych chi'n meddwl y gallai'ch band fod yn anghywir.

Gallwch gysylltu â’r ASB ar gov.uk/contact-voa. Os nad ydych yn gallu defnyddio’r gwasanaeth ar-lein gallwch hefyd gysylltu â nhw drwy ysgrifennu at Valuation Office Agency, Durham Customer Service Centre, Wycliffe House, Green Lane, Durham, DH1 3UW

Bydd swm Treth y Cyngor y byddwch yn ei dalu am eiddo yn dibynnu ar y band prisio a bennwyd ar gyfer eich eiddo.

Taliadau'r Dreth Gyngor 2026/2027

 CwmbrânPont-y-pŵlBlaenafonHenllysCroesy a LlanyPonthir
Band A 1434.60 1438.20 1476.76 1422.56 1428.36 1424.64
Band B 1673.70 1677.90 1722.90 1659.67 1666.43 1662.09
Band C 1912.79 1917.59 1969.01 1896.75 1904.48 1899.52
Band D 2151.90 2157.30 2215.15 2133.85 2142.55 2136.97
Band E 2630.10 2636.70 2707.40 2608.03 2618.67 2611.85
Band F 3108.30 3116.10 3199.66 3082.23 3094.80 3086.74
Band G 3586.50 3595.50 3691.91 3556.41 3570.91 3561.61
Band H 4303.80 4314.60 4430.30 4267.70 4285.10 4273.94
Band I 5021.10 5033.70 5168.69 4978.99 4999.29 4986.27

Bandiau Newydd o 1 Ebrill 2005

Bandiau Newydd o 1 Ebrill 2005
Band  Gwerth yr Eiddo
A

  hyd at £44,000

B

  £44,001 hyd at £65,000

C

  £65,001 hyd at £91,000

D

  £91,001 hyd at £123,000

E

  £123,001 hyd at £162,000

F

  £162,001 hyd at £223,000

G

  £223,001 hyd at £324,000

  £324,001 hyd at £424,000 

  £424,001 ac uwch 

Mae'r gwerthoedd eiddo wedi'u seilio ar Brisiad 2003
Diwygiwyd Diwethaf: 10/03/2026
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Refeniw a Budd-daliadau

Ffôn: 01495 766129

Ebost: revenues@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig