Y Dreth Gyngor

Treth a osodir yn lleol yw'r Dreth Gyngor ac mae'n daladwy ar bob eiddo domestig. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd un bil i bob eiddo, p'un a yw'n dŷ, byngalo, fflat, fflat ddeulawr, cartref symudol neu gwch preswyl, a ph'un a yw'r preswylydd yn berchen ar yr eiddo neu'n ei rentu.

Caiff ei chasglu i helpu i dalu am wasanaethau lleol fel ysgolion, ffyrdd, llyfrgelloedd, yr heddlu a chasglu sbwriel, yn ogystal â llawer o wasanaethau lleol eraill.

Mae'r bil Treth Gyngor sylfaenol yn cynnwys dwy ran, 50% eiddo a 50% personol. Mae'r rhan bersonol o 50% yn seiliedig ar y dybiaeth fod dau neu fwy o oedolion yn byw yn yr eiddo. Os mai un oedolyn yn unig sy'n byw yn yr eiddo, mae'n bosibl hawlio gostyngiad o 25%. Mae mathau eraill o ostyngiadau a disgowntiau ar gael a hynny yn ôl amgylchiadau’r aelwyd. Os yw’r eiddo yn wag, fe allech hawlio esemptiad yn ôl yr amgylchiadau.

Pwy sy'n gorfod talu'r dreth?

Yr unigolyn a ddylai dalu'r bil yw'r un sy'n dod uchaf ar y rhestr ganlynol.

  • Yr unigolyn sy'n berchen ar rydd-ddaliad yr eiddo ac sy'n byw yno.
  • Yr unigolyn sy'n berchen ar lesddaliad yr eiddo ac sy'n byw yno.
  • Tenant statudol neu ddiogel.
  • Yr unigolyn sydd â thrwydded gytundebol i fyw yn yr eiddo.
  • Pobl eraill sy'n byw yn yr eiddo.
  • Y perchennog (mae hyn yn berthnasol os nad oes neb yn byw yn yr eiddo ac mewn amgylchiadau penodol eraill).

Rydym ond yn cyfrif pobl sy'n 18 oed neu'n hŷn sy'n byw yn yr eiddo fel eu hunig gartref neu eu prif gartref.

Faint mae'n rhaid i mi ei dalu?

Mae hyn yn dibynnu ar y band prisio y mae eich cartref ynddo. Po isaf y band, y lleiaf a godir arnoch. Pennir yr union swm bob mis Mawrth.

Sut gallaf dalu?

Gallwch dalu'r bil mewn rhandaliadau misol. Rhoddir y manylion gyda'ch bil. Y ffordd fwyaf cyfleus o dalu yw trwy ddebyd uniongyrchol neu drwy'r Rhyngrwyd.

Defnyddiwch y Gwasanaeth Newid Cyfeiriad i roi gwybod i ni os ydych wedi newid eich cyfeiriad yn ddiweddar.

Diwygiwyd Diwethaf: 04/03/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Refeniw a Budd-daliadau

Ffôn: 01495 766129

E-bost: revenues@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig