Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
Mae eich bil treth gyngor llawn yn seiliedig ar o leiaf ddau oedolyn yn byw mewn eiddo; fodd bynnag, mae rhai trigolion yn cael eu heithrio rhag hyn.
Os ydych chi’n byw ar eich pen eich hun mewn eiddo, gallwch wneud cais am ostyngiad person sengl.
Nid yw'r grwpiau canlynol o bobl yn cael eu cyfrif yn nifer yr oedolion sy'n byw mewn eiddo:
Mae eraill sy’n cael eu diystyru yn cynnwys:
- Pobl sy’n gadael gofal
- Pobl ifanc dan hyfforddiant
- Cleifion mewn ysbytai neu gartrefi gofal
- Aelodau o gymunedau crefyddol (ee mynachod a lleianod)
- Pobl dros 18 oed ac sydd â hawl i fudd-dal plant
- Aelodau a dibynyddion lluoedd sy'n ymweld
- Pobl sydd â braint neu imiwnedd diplomyddol
- Aelodau o bencadlysoedd rhyngwladol a sefydliadau amddiffyn
- Pobl sy’n byw mewn hostel neu loches nos
- Pobl sy’n cael llety yn rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin
Os ydych chi'n meddwl y gallech fod yn gymwys i gael eich diystyru, cysylltwch â ni.
Manylion Cyswllt
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Refeniw a Budd-daliadau
Ffôn: 01495 766129
E-bost: revenues@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 18/11/2025
Nôl i’r Brig