Gostyngiadau'r dreth gyngor - myfyrwyr a nyrsys dan hyfforddiant

Pwy sy'n fyfyriwr?

Mae unigolyn yn cael ei ystyried yn fyfyriwr os yw'n dilyn cwrs addysg llawn amser mewn sefydliad addysgol perthnasol.

Er mwyn cael ei ystyried yn fyfyriwr at ddibenion y dreth gyngor, rhaid bod y cwrs:

  • yn gwrs blwyddyn academaidd neu flwyddyn galendr, o leiaf
  • rhaid mynychu’r cwrs am o leiaf 24 wythnos ym mhob blwyddyn academaidd neu flwyddyn calendr
  • rhaid bod y cyfnod astudio yn o leiaf 21 awr yr wythnos, (gyda’r pwyslais ar astudio, nid profiad gwaith)

Os ydych o dan 20 oed ac yn astudio ar gyfer cymhwyster hyd at Safon Uwch, rhaid i'ch cwrs:

  • barhau am o leiaf 3 mis
  • rhaid eich bod yn astudio  am o leiaf 12 awr yr wythnos

Rhaid i'r cwrs astudio a'r cymhwyster fod ar lefel Addysg Bellach neu Addysg Uwch.

Rhaid i unrhyw gyfnod o brofiad gwaith, beidio â bod yn fwy na 50% o'r holl amser yr ydych yn treulio ar eich cwrs. Mae profiad gwaith yn cynnwys unrhyw amser sy’n cael ei dreulio yn eich man cyflogaeth os ydych chi yno fel rhan o'ch cwrs; neu os ydych chi yno i ennill profiad o'r grefft neu'r proffesiwn hwnnw.

Ni fydd pob cwrs yn cael ei ystyried yn gwrs llawn amser at ddibenion y dreth gyngor. Er enghraifft, efallai na fydd cyrsiau dysgu o bell neu ddosbarthiadau nos yn cael eu hystyried yn gyrsiau amser llawn. Hefyd, ni fydd unrhyw gyrsiau yr ydych chi’n eu dilyn fel rhan o'ch swydd yn cyfrif ee cael eich rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod.

Myfyriwr sydd â phriod neu ddibynnydd nad yw’n Brydeinig

Os oes gennych briod neu ddibynnydd nad yw’n Brydeinig yn byw gyda chi, ac nad ydynt yn fyfyriwr, gallai eich disgownt/eithriad fel myfyriwr dal i fod yn berthnasol.

Rhaid bod ganddynt fisa sy'n eu hatal rhag gweithio am dâl neu hawlio budd-daliadau

Pwy sy'n nyrs dan hyfforddiant?

Mae unigolyn yn cael ei ystyried yn nyrs dan hyfforddiant os yw ar gwrs sy'n arwain at gofrestru ar unrhyw un o rannau 1 i 6 neu 8 o'r Gofrestr a gynhelir dan adran 10, Deddf Nyrsys, Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd 1979.

Dim ond y rhai sy'n astudio i gael eu cynnwys ar y Gofrestr am y tro cyntaf fydd â hawl i ostyngiad.

Bydd myfyrwyr sy'n astudio cyrsiau academaidd yn y brifysgol yn cael eu hystyried yn fyfyrwyr at ddibenion y dreth gyngor.

Faint o ostyngiad allwch chi ei gael?

Mae eich bil treth gyngor llawn yn seiliedig ar o leiaf ddau oedolyn (pobl dros 18 oed) yn byw mewn eiddo.

Nid yw myfyrwyr a nyrsys dan hyfforddiant yn cyfrif tuag at nifer yr oedolion yr ystyrir eu bod yn byw mewn eiddo.

Mae hyn yn golygu os yw 2 oedolyn yn byw mewn eiddo ac mae 1 ohonynt yn fyfyriwr neu nyrs dan hyfforddiant, bydd y bil yn cael ei gyfrifo fel pe bai dim ond 1 oedolyn yn byw yno. Bydd y bil 25% yn llai.

Os yw'r unig bobl sy'n byw yn yr eiddo yn fyfyrwyr, mae’r eiddo wedi ei eithrio rhag y dreth gyngor.

Dogfennau sydd eu hangen i wneud cais

Cyn gwneud cais am ostyngiad i fyfyrwyr neu nyrsys dan hyfforddiant, bydd angen y dogfennau canlynol arnoch:

  • I fyfyrwyr: tystysgrif myfyriwr. Gallwch gael tystysgrif gan Swyddog Cofrestru eich coleg neu brifysgol
  • I nyrsys dan hyfforddiant: llythyr neu gadarnhad gan eich cyflogwr

Gwneud cais am ostyngiad treth gyngor – myfyrwyr a nyrsys dan hyfforddiant

Sylwer, os ydych yn gymwys i gael gostyngiad, neu eich eithrio rhag y dreth gyngor, gofynnir i chi lenwi ffurflen adolygu bob blwyddyn. Os na fyddwch yn cwblhau'r ffurflen adolygu, bydd yn rhaid i chi dalu eich treth gyngor yn llawn.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid ac nad ydych bellach yn gymwys i gael gostyngiad, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallech gael tâl cosb. E-bost revenues@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 21/11/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Refeniw a Budd-daliadau

Ffôn: 01495 766129

Ebost: revenues@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig